Lois Medi Wiliam yw prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn

- Cyhoeddwyd
Lois Medi Wiliam sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn a hynny am gerdd ar y testun 'Gwrthryfela'.
Mae Lois yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor, ac ar fin graddio o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mewn Anthropoleg Gymdeithasol.
Mae hi’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor lle’r enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf.
Enillodd hefyd goron eisteddfod Ysgol Tryfan, Bangor a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy.
Dwy flynedd yn ôl daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama yr Urdd.
Y llynedd dyfarnwyd iddi Dlws D Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas am y gerdd orau i rai rhwng 16 a 25 oed.
Mae hi eisoes wedi cyhoeddi cerddi yn Codi Pais ac yn Ffosfforws (Cyhoeddiadau’r Stamp), ond dyma’r tro cyntaf iddi gyhoeddi ei barddoniaeth yn unigol.

Sir Drefaldwyn sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth wrth gynllunio’r gadair
Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gerdd neu gerddi, caeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell.
Ysgrifennodd Lois y gerdd fuddugol er cof am ei thaid, un a hybodd ei diddordeb mewn llenydda.
Y beirniaid oedd Tegwyn Pughe Jones - bardd o Sir Drefaldwyn, a Mari George - enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd Bro Maelor 1996.
'Hynod afaelgar'
Llwyddodd "cerdd syml y bardd hwn i fynd â fy ngwynt", meddai'r beirniaid.
"Ymgais i ddygymod â galar sydd yma ac mae’r dweud yn hynod afaelgar o’r dechrau un.
"Nid yw’r thema yn y gerdd yn newydd ond mae arddull ymatalgar a chynnil y bardd a’r ymdriniaeth â’r thema yn taro deuddeg.
"Mae’n llwyddo i gyfleu hiraeth a thristwch mewn ffordd aeddfed heb bentyrru ansoddeiriau a heb greu darluniau sentimental.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Brennig Davies o Gaerdydd a Tesni Elen Peers o Wrecsam yn drydydd.

Cafodd y gadair ei dylunio a’i chreu gan Siôn Jones, saer coed o Lanidloes
Cafodd y gadair ei dylunio a’i chreu gan Siôn Jones, saer coed o Lanidloes.
Roedd Sir Drefaldwyn yn ysbrydoliaeth i Siôn wrth iddo gynllunio’r gadair – mae’r dyluniad yn cynnwys ôl Afon Hafren, Llyn Efyrnwy, cerddoriaeth y delyn, amaethyddiaeth, y tirlun a nodweddion unigryw cefn gwlad y canolbarth.
Ar y sedd mae map o Gymru wedi'i gerfio gan Chris Gethin, crefftwr lleol, gyda logo’r Urdd yn amlwg ar ardal Meifod ar y map.
- Cyhoeddwyd29 Mai 2024
- Cyhoeddwyd27 Mai 2024
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
Yn ei waith bob dydd mae Siôn yn creu ceginau a dodrefn â llaw yn ei weithdy ar fferm y teulu yng Nghaersws.
“Mae creu'r gadair ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu, yn fraint," meddai.
“Dwi wedi bod yn cadw’r pren lleol yma ar gyfer rhywbeth arbennig. Felly beth well na defnyddio'r rhain ar gyfer Cadair yr Eisteddfod leol?”
Roedd y gadair yn rhoddedig gan NFU Cymru, Rhanbarth Maldwyn.