Galw am well strategaeth ar safleoedd storio ynni yng Nghymru

Mae 87 cais i godi system stori ynni batri (BESS) yng Nghymru ar hyn o bryd
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwell strategaeth lywodraethol ar gynlluniau i godi safleoedd storio ynni allai fod yn beryglus, yn ôl cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd y Senedd.
Dywedodd Llyr Gruffydd bod ceisiadau ar gyfer safleoedd o'r fath weithiau yn cael eu "taflu mewn" ar gyfer rhai lleoliadau "annerbyniol ac anaddas" a heb eu rheoli'n ddigonol.
Mae 87 cais i godi system stori ynni batri (BESS) yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae rhai ymgyrchwyr yn poeni am eu diogelwch yn dilyn rhai tannau mawr mewn safleoedd tebyg.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd systemau BESS yn darparu'r hyblygrwydd carbon isel sydd angen arnom.

Mae un o'r ceisiadau arfaethedig ger pentref Cefn Rhigos yn Rhondda Cynon Taf
Mae BESS yn caniatáu i ynni adnewyddadwy gael ei storio, fel arfer mewn batris lithiwm-ion, er enghraifft pan fo'r gwynt yn hyrddio ac yn gyrru melinau gwynt, neu'r haul yn tywynnu ar baneli solar.
Gallai'r ynni wedyn gael ei ryddhau o'r batris i'r grid pan fo mwy o alw.
Mae fframwaith rheoleiddio a diogelwch cadarn ar gyfer safleoedd o'r math hwn.
Ond mae tannau wedi bod mewn safleoedd tebyg, gan gynnwys un yn Lerpwl yn 2020 gymerodd 59 awr i'w ddiffodd, a thân arall yn California yn gynharach eleni.

"Ein prif bryder fel cymuned yw agosatrwydd y safle at bobl ac at gartrefi," meddai Clare Rees
Yng Nghymru, mae un o'r ceisiadau arfaethedig ger pentref Cefn Rhigos yn Rhondda Cynon Taf.
Yma, byddai'r system yn medru mewnforio ac allforio 200MW i, neu o'r grid.
Mae Clare Rees, sy'n byw yn lleol, yn poeni am dân posibl ar y safle.
"Ein prif bryder fel cymuned yw agosatrwydd y safle at bobl ac at gartrefi," meddai.
"Maen nhw'n dweud bod y risg yn isel, ond mae'r risg yna ac mae angen rheolau yn eu lle i ddiogelu pobl."
Dywedodd yr asiant sydd yn gweithio ar ran y datblygwr nad oedd gan y cwmni sydd yn gyfrifol unrhyw sylw i'w wneud.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau bod gweinidogion Llywodraeth Cymru nawr wedi galw'r prosiect i mewn.
Mae wedi'i atal dros dro hyd nes i'r datblygwr ddarparu rhagor o wybodaeth.

"Mae'r risg yn real i bob un batri lithiwm," meddai'r Athro Kathryn Toghill
Daw'r Athro Kathryn Toghill o Gaernarfon yn wreiddiol. Mae hi bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Lancaster ac yn arbenigo ar gemeg a thechnoleg batri.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'r risg yn real. Mae'r risg yn real i bob un batri lithiwm.
"Os oes rhywbeth yn mynd yn wrong, mae'n gallu mynd drwy'r batris i gyd.
"Ond mae lot mwy o wybodaeth rŵan i ddeall beth yw failure mechanisms gyda batris o'r maint yma sydd yn helpu'r gwasanaeth tân a'r cwmnïau sydd yn rhedeg y pwerdai yma."

"Mae rhai o'r lleoliadau, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol ac anaddas," meddai'r AS Llyr Gruffydd
Yn siarad fel Aelod Senedd Plaid Cymru dros y Gogledd, dywedodd Llyr Gruffydd, sydd hefyd yn cadeirio pwyllgor newid hinsawdd, ynni a seilwaith y Senedd: "Y broblem sydd gynnon ni ar hyn o bryd yw bod dim digon o reolaeth ar yr holl gynlluniau batri yma sydd yn dod ymlaen."
Wrth gyfeirio at geisiadau BESS yn gyffredinol, heb sôn am unrhyw gynllun yn benodol, ychwanegodd: "Mae 'na gwmnïau jest yn taflu ceisiadau mewn - ceisiadau gobeithiol - er mwyn gweld a ydyn nhw'n ddigon ffodus i gael eu derbyn.
"Mae rhai o'r lleoliadau, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol ac anaddas felly mae angen gwell strategaeth ar Lywodraeth Cymru."

Mae BESS yn caniatáu i ynni adnewyddadwy gael ei storio, fel arfer mewn batris lithiwm-ion
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd Systemau Storio Ynni Batri yn ein cynorthwyo i ddefnyddio mwy a mwy o ynni adnewyddadwy i ateb ein galw am ynni, gan ddarparu'r hyblygrwydd carbon isel sydd ei angen arnom.
"Bydd safleoedd o'r fath yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal diogelwch ein rhwydwaith trwy wasanaethau ymateb cyflym, tra'n cefnogi gwaith integreiddio ynni adnewyddadwy ehangach ar draws ein grid trydan.
"Mae'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO) wrthi'n ystyried graddfa'r datblygiad BESS arfaethedig fel rhan o'r broses Diwygio Cysylltiadau, gan fod graddfa'r datblygiad ledled Prydain Fawr sy'n cael ei gynnig gan ddatblygwyr yn fwy nag y bydd ei angen ar y system.
"Mae gan y broses gynllunio rôl hefyd wrth sicrhau bod datblygiadau wedi'u lleoli a'u cynllunio'n dda, tra'n ystyried barn cymunedau sy'n eu cynnal."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.