Cymru'n colli 1-0 yn erbyn Canada mewn gêm gyfeillgar

Mark HarrisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Methodd Mark Harris gyfle da i sgorio i Gymru ar ôl 90 munud

  • Cyhoeddwyd

Colli wnaeth tîm pel-droed Cymru yn erbyn Canada nos Fawrth, mewn gêm gyfeillgar yn Abertawe.

0-1 oedd y sgôr wrth i'r chwiban olaf gael ei chwythu yn Stadiwm Swansea.com, wedi i Derek Cornelius sgorio yn yr hanner cyntaf.

Gwnaeth Craig Bellamy, prif hyfforddwr Cymru, sawl newid i'r tîm a gurodd Kazakhstan wythnos diwethaf, gan roi cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc.

Bydd Cymru'n chwarae oddi cartref nesaf yn erbyn Lloegr ar 9 Hydref, mewn gêm gyfeillgar arall.

Disgrifiad,

Cic rydd Canada wrth iddyn nhw guro Cymru 1-0

Roedd hi'n gychwyn digon agored i'r hanner, gydag ychydig o densiwn rhwng y chwaraewyr - o ystyried mai gêm gyfeillgar oedd hi.

Ond wrth i'r gêm setlo, Canada oedd yn edrych fwyaf hyderus am weddill yr hanner.

Doedd Cymru, y tîm cartref, ddim yn edrych yn gyfforddus iawn - er i Daniel James fethu cyfle da wedi tua 10 munud.

Mi darodd Canada'r trawst fwy nag unwaith ac yn anlwcus i beidio â chael cic o'r smotyn.

Ychydig cyn yr hanner mi gafodd Canada gic rydd, oedd tua 30 llath o'r gôl, a sgoriodd Derek Cornelius yn wych ohoni - wrth i ergyd yr amddiffynnwr hedfan dros y wal i gefn y rhwyd.

Felly 1-0 i Ganada oedd y sgôr ar hanner amser.

Daniel James yn erbyn Niko SigurFfynhonnell y llun, Getty Images

Cychwynnodd yr ail hanner a Chanada, unwaith eto, oedd yn hawlio mwyafrif y cyfleoedd gan saethu'n amlach na Chymru.

Ond, cafodd Charlie Crew gyfle da i Gymru ar ôl 58 munud, wrth iddo benio o'r postyn cefn yn syth at y golwr, yn dilyn cic gornel gan Harry Wilson.

Roedd Cymru i weld yn tyfu i mewn i'r gêm rywfaint yn ystod y chwarter olaf a'r dorf gartref yn ceisio rhoi hwb iddyn nhw trwy ganu'r anthem genedlaethol.

Yn gyffredinol, roedd yr ail hanner yn dawelach o gymharu â'r cyntaf a doedd Cymru ddim yn gallu manteisio ar eu cyfleoedd.

Mark Harris gafodd cyfle gorau Cymru o'r noson ar ôl 90 munud, wrth i Sorba Thomas groesi iddo - ond heibio'r postyn aeth ei ergyd ac felly'r gêm yn gorffen gyda sgôr o 0-1 i Ganada.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.