Cymru'n curo Kazakhstan eto yn ymgyrch Cwpan y Byd 2026

Kieffer Moore yn dathlu sgorioFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Kieffer Moore i Gymru ar ôl 24 munud

  • Cyhoeddwyd

Ennill oedd hanes Cymru yn Kazakhstan brynhawn Iau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

0-1 oedd y sgôr terfynol, gyda Kieffer Moore yn sgorio yn yr hanner cyntaf.

Dydy Kazakhstan heb ennill gêm ragbrofol Cwpan y Byd gartref ers bron i 12 mlynedd, ac mae'r fuddugoliaeth yn rhoi Cymru ar frig y grŵp - er bod tîm Craig Bellamy wedi chwarae mwy o gemau na gweddill y grŵp.

Nid oes gan Gymru gêm ragbrofol arall nes Hydref 13 - pan fydd Gwlad Belg yn cael eu croesawu i Gaerdydd. Bydd gemau cyfeillgar yn y cyfamser.

Sorba ThomasFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dangosodd Sorba Thomas ei gyflymder sawl gwaith ar yr asgell

Hon oedd yr ail waith i Gymru chwarae yn erbyn Kazakhstan yn yr ymgyrch, ar ôl ennill y gêm gyntaf ym mis Mawrth.

O'r cychwyn cyntaf roedd gan Gymru ganran helaeth o'r meddiant ac roedd yr arwyddion yn gadarnhaol i'r cochion.

Aeth Brennan Johnson yn agos wedi 15 munud wrth i'w ergyd chwibanu dros ffrâm y gôl, yn dilyn croesiad gwych gan Sorba Thomas.

Parhau wnaeth y cyfleoedd a chafodd Cymru eu gwobrwyo ar ôl 24 munud, pan sgoriodd Kieffer Moore.

Liam Cullen gafodd ei ben i groesiad Harry Wilson, ac roedd golwr Kazakhstan ond yn gallu gwyro'r bêl i gyfeiriad Moore, wnaeth rwydo o ychydig lathenni.

Roedd y gôl yn golygu bod Moore yn gyfartal gyda John Charles o ran sgorwyr uchaf Cymru erioed - hefo 15 gôl dros ei wlad.

Roedd Sorba Thomas yn creu problemau trwy'r hanner cyntaf, gan ddangos ei gyflymder sawl gwaith.

Ond, daeth Kazakhstan o fewn blewyn i sgorio yn agos i'r hanner, wrth i Galymzhan Kenzhebek fethu'r targed wedi 39 munud a gadael y sgôr yn 0-1 i Gymru.

Harry WilsonFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Buodd Harry Wilson, y dyn o Gorwen, yn agos i sgorio wedi 79 munud

Nid oedd Cymru'n edrych mor gyfforddus ar y bêl yn yr ail hanner, wrth i'r tîm cartref roi pwysau arnynt a gorfodi Karl Darlow i wneud arbediad arbennig wedi 51 munud.

Roedd hi'n ddechrau gwan i Gymru ar y cyfan, gyda rhai o'r chwaraewyr yn chwifio eu breichiau yn ceisio tawelu'r dyfroedd.

Ar ôl 60 munud, roedd Kenzhebek eto yn her i amddiffyn Cymru wrth iddo lithro heibio amddiffynwyr a thanio ergydion am y gôl.

Ben Davies yn erbyn Islam ChesnokovFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n gêm gystadleuol iawn yn yr ail hanner

Roedd Kazakhstan wedi codi eu gêm yn yr ail hanner, ond cafodd Cymru gyfnod gwell o feddiant a thawelu'r dorf gartref - oedd wedi bod yn uwch eu cloch.

Ond unwaith eto roedd Cymru ar dir peryglus, gan roi cyfle da arall i ffwrdd ar ôl 75 munud - wnaeth orfodi Darlow i arbed ergyd galed oedd yn anelu am gornel isaf y rhwyd.

Ychydig funudau yn ddiweddarach, tro golwr Kazakhstan oedd hi - gan rwystro Harry Wilson a Jordan James rhag taro cefn y rhwyd a chadw ei dîm yn y gêm.

Cafodd Kazakhstan sawl cyfle at ddiwedd yr ornest gan gynnwys cic rydd mewn safle da wnaeth daro'r trawst.

Ond yn y diwedd, cadwodd Gymru lechen lan i gadw'r sgôr yn 0-1 ar y chwiban olaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.