S4C i ddangos pob gêm Chwe Gwlad dynion Cymru am bedair blynedd

Cymru v LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae S4C wedi cytuno ar bartneriaeth newydd i ddarlledu Pencampwriaeth Chwe Gwlad y dynion am y pedair blynedd nesaf.

Bydd y cytundeb o 2026 ymlaen yn gweld S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru ym mhencampwriaethau'r dynion a'r timau dan-20 yn fyw.

Bydd hefyd yn dangos uchafbwyntiau estynedig o bob gêm Cymru ym mhencampwriaeth y menywod.

Yn gynharach eleni, daeth cadarnhad bod y BBC ac ITV wedi cytuno ar bartneriaeth i ddarlledu gemau'r dynion ar deledu di-dâl tan o leiaf 2029.

Mewn datganiad, dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C: "Fel Cartref Chwaraeon Cymru, rydym wrth ein bodd i gytuno ar y bartneriaeth newydd hon gyda Rygbi'r Chwe Gwlad, gan gryfhau ein hymrwymiad i ddarparu cynnwys rygbi yn y Gymraeg ar bob lefel.

"Yn ogystal â'n darllediadau byw o Gyfres Cenhedloedd Quilter, mae'r cytundeb hwn yn sicrhau bod ein cynulleidfa yn medru parhau i fwynhau rygbi o'r safon uchaf, o'r timau cenedlaethol i'r genhedlaeth nesaf."

Dywedodd Tom Harrison, Prif Weithredwr Rygbi Chwe Gwlad: "Mae'r Chwe Gwlad yn un o'r achlysuron mwyaf poblogaidd yn y calendr chwaraeon, ac mae ganddo arwyddocâd diwylliannol i gefnogwyr yng Nghymru, felly rydym yn falch o barhau i weithio gydag S4C i ddarparu darllediadau Cymraeg am ddim o'r Bencampwriaeth am y pedair blynedd nesaf.

"Rydym wedi ymrwymo i dwf Chwe Gwlad y Menywod, yn ogystal â'n cystadleuaeth llwybr lwyddiannus; y Chwe Gwlad dan 20, ac mae'r bartneriaeth gydag S4C yn rhan allweddol o'r strategaeth honno, fel ffordd arall i ymgysylltu â'r pencampwriaethau hyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.