'Rhaid parhau i ddarlledu gemau'r Chwe Gwlad yn Gymraeg'

Antoine Dupont i Ffrainc cyn eu trydydd caisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth S4C sicrhau cytundeb o bedair blynedd i ddarlledu holl gemau'r Chwe Gwlad yn fyw yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i bencampwriaeth y Chwe Gwlad barhau i gael ei darlledu yn Gymraeg, yn ôl un AS.

Daw'r alwad yn sgil ansicrwydd ynghylch pwy fydd â'r hawliau darlledu ar gyfer gemau 2026.

Mae'r BBC ac ITV wedi rhannu hawliau darlledu'r Chwe Gwlad ers 2016, ond mae eu cytundeb yn dod i ben ar ôl y bencampwriaeth hon, ac mae TNT Sports wedi cadarnhau eu bod yn ystyried gwneud cais i gael yr hawliau o 2026 ymlaen.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod rygbi'r Chwe Gwlad yn "cymryd camau penodol er mwyn sicrhau eu bod yn gwarchod darlledu cyfrwng Cymraeg".

'Hanfodol' bod y Chwe Gwlad ar gael yn Gymraeg

Fe wnaeth S4C sicrhau cytundeb pedair blynedd i ddarlledu holl gemau'r Chwe Gwlad yn fyw yn 2021.

Ond gyda'r cyfnod hwnnw yn dod i ben, mae AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi wedi dweud pa mor bwysig yw sicrhau bod y darlledu yn parhau yn Gymraeg.

Mae Gweinidog Chwaraeon a'r Cyfryngau llywodraeth y DU, Steph Peacock, wedi cytuno i gwrdd â Ms Antoniazzi ac eraill i drafod y mater mewn dadl seneddol.

Mae Tonia Antoniazzi sydd wedi ennill naw cap i Gymru ac wedi chwarae i dîm cyntaf y menywod yn ystod cystadleuaeth Rygbi'r Byd yn 1998.

Dywedodd: "Mae'n hanfodol fod darlledu y Chwe Gwlad ar gael yn Gymraeg ar gyfer y rheiny sy'n ei wylio yng Nghymru.

"Mae'n wahanol yng Nghymru, mae rygbi yn wahanol, mae'r nifer sy'n gwylio yn uwch, ac mae e'n rhan fawr o'n diwylliant."

Dywedodd Steph Peacock ei bod yn hapus i gwrdd â BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C er mwyn sicrhau bod trafodaethau ynghylch y Gymraeg yn cael eu clywed.

Tonia Antoniazzi
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tonia Antoniazzi: ei bod yn hanfodol fod gemau y Chwe Gwlad yn cael eu darlledu yn Gymraeg

Ar hyn o bryd mae'r bencampwriaeth wedi ei gosod yng ngrŵp B gan Ofcom, sy'n golygu ei bod ond yn orfodol i ddangos uchafbwyntiau yn ddi-dâl.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Caerfyrddin, Ann Davies yn cytuno â'r galw.

Dywedodd: "Mae cystadlaethau cenedlaethol fel y Chwe Gwlad yn rhan greiddiol o'n calendr cenedlaethol.

"Ennill, neu golli yn ein hachos ni, mae rygbi yn dod â ni gyd at ein gilydd yng Nghymru, ac fe ddylai gael ei gynnwys yng ngrŵp A [Ofcom]."

"Mae cael dangos y gemau am ddim yn holl bwysig i S4C sy'n sicrhau bod gwylwyr yn gallu gweld chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg."

Pynciau cysylltiedig