Y Chwe Gwlad i aros ar deledu di-dâl tan o leiaf 2029

- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC ac ITV wedi cytuno ar bartneriaeth newydd i ddarlledu Pencampwriaeth Chwe Gwlad y dynion ar deledu di-dâl tan o leiaf 2029.
Bydd y cytundeb o 2026 ymlaen yn gweld y BBC yn darlledu pum gêm fyw, tra bod 10 gêm fyw ar ITV.
Bydd cymysgedd o gemau Cymru, Yr Alban ac Iwerddon ar y BBC, tra bydd pob gêm Lloegr ar ITV.
Mae'r BBC hefyd yn cadw hawliau sylwebaeth sain ar gyfer pob gêm a hawliau teledu Chwe Gwlad y merched.
Dywedodd S4C, sy'n darlledu pob gêm Cymru yn y Gymraeg ar hyn o bryd, eu bod "mewn trafodaethau gyda threfnwyr Rygbi'r Chwe Gwlad am y ddarpariaeth Gymraeg".

Ym mis Ionawr roedd adroddiadau bod cwmni TNT Sports yn ystyried gwneud cais am yr hawliau, ond fe ddywedon nhw y byddai'n "heriol iawn" gwneud hynny oherwydd bod y gystadleuaeth wastad wedi bod ar sianeli di-dâl.
Mae yna alwadau wedi bod gan wleidyddion ym Mae Caerdydd a San Steffan am i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gael ei symud i Grŵp A o ddigwyddiadau mawr - sy'n cael eu cynnig i sianeli daearol ar delerau rhesymol a theg.
Ar hyn o bryd mae'r Chwe Gwlad yng Ngrŵp B, sy'n golygu bod modd darlledu gemau byw ar wasanaethau tanysgrifio ar yr amod fod uchafbwyntiau'n cael eu cynnig i sianeli am ddim.
Ond mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi nad oes unrhyw gynlluniau symud gemau'r Chwe Gwlad i ddigwyddiadau Grŵp A.
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2024
Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhuanedd Richards: "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i gefnogwyr rygbi ar hyd a lled Cymru.
"Rwyf wastad wedi bod yn angerddol dros gadw'r Chwe Gwlad ar deledu am ddim ac rydw i mor falch bod y BBC, gan weithio gydag ITV, wedi sicrhau y gall hyn barhau am y pedair blynedd nesaf wrth ddarparu darllediadau byw o gemau'r dynion.
"Rwyf hefyd yn hynod o falch y bydd y BBC yn parhau i fod yn gartref i Chwe Gwlad y Merched, gan sicrhau'r hawliau darlledu i bob gêm tan 2029."