Sul y Cofio: Sylw arbennig i garcharor rhyfel o Geredigion
- Cyhoeddwyd
Ar Sul y Cofio cafodd gwasanaethau coffa eu cynnal ar draws Cymru i gofio'r rhai a gollwyd mewn rhyfeloedd byd ac sy'n dal i frwydro.
Fe wnaeth y Prif Weinidog, Eluned Morgan, osod torch ger Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd.
"Mae'r gwasanaeth coffa yn parhau i fod mor bwysig ag erioed, wrth inni ymuno â'n gilydd i anrhydeddu'r dynion a menywod o Gymru a aberthodd eu bywydau i sicrhau'r rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw," meddai Ms Morgan.
Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod: "Mae Sul y Cofio yn golygu llawer i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Parchwn hynny. Ond wrth i wleidyddion droi'r cofio yn sbloetsh filwrol collwyd gwir ystyr y cofio. Dyna pam mae Cymdeithas y Cymod yn cefnogi gwisgo'r Pabi Gwyn er mwyn cofio pob un sy'n dioddef yn sgil rhyfel.
"Pobl gyffredin yw mwyafrif y lladdedigion y dyddiau hyn - edrychwch ar Balestina, Swdan, Congo ac Wcráin.
"Dylai cofio'r lladdedigion ein sbarduno i weithio dros heddwch bob dydd o'r flwyddyn."
Dychwelyd i Japan i gymodi
Yn Aberystwyth ddydd Sul roedd sylw arbennig yn cael ei roi i un a fu yn garcharor rhyfel yn Hong Kong ac yna Japan.
Bu Frank Evans o Lanwnnen, Ceredigion yn garcharor rhyfel yng ngwersylloedd Sham Shui Po ac Argyle Street yn Hong Kong ac yna yng ngwersyll Oeyama wedi iddo gael ei gipio ym Mrwydr Hong Kong ar ddydd Nadolig 1941.
Yn nechrau'r 1980au dewisodd Frank Evans fynd yn ôl i'r ddwy wlad lle bu'n garcharor "i wynebu ei orffennol gan geisio cymodi er mwyn selio dyfodol heddychlon", medd Maldwyn Pryse, Maer Aberystwyth.
Mae Mr Pryse, disgyblion ysgol a chynrychiolwyr eraill o Aberystwyth newydd ddychwelyd o ddigwyddiad arbennig yn Yosano - un a oedd yn nodi 40 mlynedd ers i gyngor tre Kaya-Cho (Yosano bellach) anrhydeddu Frank Evans ac ers i gofeb i goffau'r carcharorion rhyfel gael ei dadorchuddio.
Cafodd y gofeb ei hariannu gan drigolion Yosano a pherchnogion ffatri Nickel lle cafodd Frank ei orfodi i weithio o dan amgylchiadau erchyll,
Ers y digwyddiad hwnnw mae cysylltiad cyson wedi bod rhwng trefi Yosano ac Aberystwyth.
"Roedd e am ddychwelyd i’r ardal lle bu’n garcharor yn Japan er mwyn codi cofeb i goffau ei gyd-garcharorion na oroesodd y profiadau erchyll.
"Bydd hi'n arbennig cofio am ŵr mor arbennig ar Sul y Cofio ac roedd fy ymweliad diweddar â Japan yn arbennig," ychwanegodd Maldwyn Pryse.
Bu farw Mr Evans yn 1996, bedair blynedd wedi i'r disgyblion cyntaf o Japan ddod ar daith gyfnewid i Aberystwyth.
Yng Nghaerdydd fe wnaeth aelodau o'r lluoedd arfog, cynghorwyr a gwleidyddion eraill ymuno â'r Prif Weinidog.
Yn ogystal â chofio "mae'n anrhydedd sefyll ochr yn ochr ag aelodau'r Lluoedd Arfog o Gymru sy'n gwasanaethu ac yn gweinyddu dyletswyddau cadw heddwch ar draws y byd," ychwanegodd Eluned Morgan.
"I'r rhai a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro: Fe'ch cofiwn am byth."
"Wrth i ni ymgynnull yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, rydym yn talu teyrnged i'r rhai a frwydrodd ac a fu farw dros ein rhyddid," meddai Huw Thomas, Arweinydd cyngor Caerdydd.
"Mae'r digwyddiad blynyddol hwn nid yn unig yn amser i gofio'r gorffennol ond hefyd i gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2023