Rhestrau aros yn cynyddu i'w lefel uchaf unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n disgwyl am driniaeth gan y gwasanaeth iechyd wedi codi i'w lefel uchaf erioed unwaith eto.
Mae cyfanswm o 796,631 o driniaethau eto i'w cwblhau - amcangyfrif o 616,700 o gleifion unigol, gan fod rhai yn disgwyl am fwy nag un driniaeth.
Mae nifer y bobl sydd wedi aros dros ddwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu hefyd, a hynny am y pedwerydd mis yn olynol.
Mae ychydig dros 23,800 o achosion ble mae cleifion wedi gorfod disgwyl dros ddwy flynedd.
Roedd gan Lywodraeth Cymru darged na ddylai unrhyw un fod yn disgwyl cyhyd am driniaeth "yn y mwyafrif o arbenigeddau" erbyn Mawrth 2023.
Mae'r targed hwnnw yn diystyru’r arbenigeddau mwyaf heriol, ond hyd yn oed wedyn, mae 3,251 achos ble mae rhywun wedi bod yn disgwyl dros ddwy flynedd.
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd newydd, Jeremy Miles, ei bod hi'n "ddarlun cymysg", ond "bod angen i ni 'neud yn well ar lawer o'r mesurau hyn".
Dadansoddiad
Gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke
Mae'r ystadegau diweddaraf yn amlinellu'n glir yr heriau sylweddol sy'n wynebu Jeremy Miles - yn ei wythnos lawn gyntaf fel ysgrifennydd iechyd.
Tra bod gwelliant bach wedi bod ym mherfformiad unedau brys a'r gwasanaeth ambiwlans (fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl yn yr haf) - y penawdau, heb os, yw'r twf unwaith eto mewn rhestrau aros am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw.
Mae Jeremy Miles yn cydnabod fod y sefyllfa yn siomedig - ac yn galw ar fyrddau iechyd i gydweithio mwy a dysgu o'i gilydd ar sut fynd i'r afael a hyn.
Ond y cwestiwn yw pam nad ydyn nhw'n gwneud digon o hynny eisoes?
Ydy Jeremy Miles felly yn derbyn fod y gwasanaeth iechyd yma "wedi torri"?
Na, oedd ei ymateb - dyw'r label "wedi torri" ddim yn "ddefnyddiol", meddai.
Ond tybed a yw'r miloedd lawer o gleifion sy'n aros cyfnodau hir iawn, iawn am driniaeth ar hyn o bryd yn cytuno?
- Cyhoeddwyd17 Medi
- Cyhoeddwyd17 Medi
Mae gofal canser hefyd wedi gweld gostyngiad mewn perfformiad, a hynny yn erbyn y targed y dylai pawb ddechrau ar driniaeth o fewn 62 diwrnod o'r amheuaeth bod canser arnynt.
Ond fe wnaeth mwy o bobl ddechrau ar eu triniaeth yn ystod y mis diweddaraf, ac fe gafodd mwy o bobl wybod nad oes ganddynt ganser - sydd hefyd yn dangos fod mwy o bobl yn dod drwy'r system.
Mae newyddion gwell ar gyfer gofal brys, lle mae amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwella, gyda 51.8% o’r galwadau mwyaf brys yn cael ymateb o fewn wyth munud - sef y gorau ers blwyddyn.
Gallai hyn fod yn rhannol oherwydd gwelliant yn yr amser i drosglwyddo cleifion i ysbytai - y ffigwr yma yw'r gorau sydd wedi'i weld ers bron i dair blynedd.
Arhosodd amseroedd aros pedair awr mewn adrannau brys ar yr un lefel â'r mis blaenorol, ond gwelwyd gwelliant bychan yn y ganran oedd wedi gorfod disgwyl dros 12 awr.
Mae'r llywodraeth wedi dweud ers tro eu bod am weld byrddau iechyd yn rhannu arfer da, ond dydd Iau mae'r ffigyrau wedi cael eu cyhoeddi mewn ffordd wahanol er mwyn annog hynny.
Am y tro cyntaf, mae ystadegau wedi cael eu cyhoeddi fel bod modd cymharu'n uniongyrchol rhwng byrddau iechyd.
Dywedodd Jeremy Miles: “Mae'r cyhoedd wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw am weld amseroedd aros yn dod i lawr ac maen nhw eisiau mynediad cyflymach at ofal a thriniaeth.
“Am y tro cyntaf heddiw, bydd adroddiad ystadegol newydd yn cael ei gyhoeddi yn nodi perfformiad byrddau iechyd unigol yn erbyn amryw o fesurau'r GIG.
“Rwyf am hyrwyddo'r holl waith da y mae'r GIG yn ei wneud yng Nghymru ond byddaf hefyd yn herio sefydliadau i ddysgu o berfformiad da eraill a rhannu arferion da wrth i ni weithio gyda'n gilydd i leihau amseroedd aros.”
'Y GIG ddim wedi torri'
Yn siarad gyda BBC Cymru wedi i'r ffigyrau gael eu cyhoeddi, gofynnwyd iddo a oedd yn credu bod y GIG "wedi torri".
“Dwi ddim," meddai.
"Mae angen gwelliannau a mae angen help i gywiro pethau felly dwi ddim yn credu fy hun ei fod e’n ddefnyddiol i ddefnyddio label fel 'na
"Wy’n credu bo' fe’n llawer mwy pwysig gael cynllun i fynd i’r afael â’r heriau ni’n wynebu.”
Mynnodd Jeremy Miles ei bod hi'n "ddarlun cymysg" o ran y ffigyrau perfformiad.
"Mae gwelliannau wedi bod yn y system hefyd, ond mae'n sicr bod angen i ni 'neud yn well ar lawer o'r mesurau hyn.
"Mae'r darlun yn un cymysg, o un lle i'r llall yng Nghymru.
"Beth ni wedi gwneud heddi, fel bo' ni'n gallu cael sgwrs dryloyw am hyn, yw datgan yr amseroedd aros ar lefel bwrdd iechyd, fel ein bod ni'n gallu gweld be' sy'n digwydd ar draws Cymru, a mae llawer iawn o amrywiaeth.
"Mae gan bob bwrdd iechyd lwyddiannau, ond hefyd mae gan bob un bethau maen nhw'n angen gweithio arnyn nhw."
Ychwanegodd mai'r nod o wneud hynny ydy "herio'r cyrff sydd angen gwneud yn well, i ddysgu gan y rhai sy'n gwneud orau".