Cynnig i werthu mwy o fwyd figan mewn caffis yn 'peryglu cefn gwlad'
![Glyn Roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1152/cpsprodpb/d6cf/live/b8df9140-9069-11ef-b9f2-63856b9adaaf.jpg)
Dywed Glyn Roberts ei fod yn poeni bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn "hybu figaniaeth er eu bod nhw yn dibynnu ar y diwydiant amaeth"
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod y cynnig i werthu mwy o fwyd figan yng nghaffis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn "druenus" ac yn niweidio tenantiaid yr elusen.
Mae Glyn Roberts yn ffermio gyda’i ferch Beca ar un o ffermydd yr ymddiriedolaeth yn ardal Ysbyty Ifan.
"Be' dwi’n boeni am bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn hybu figaniaeth er eu bod nhw'n dibynnu ar y diwydiant amaeth – yn yr ardal yma beth bynnag – i fod yn gynaliadwy iddyn nhw a ni," meddai wrth raglen Ffermio S4C.
Yng nghyfarfod blynyddol yr elusen ar 2 Tachwedd, mae 'na gynnig gan bum aelod sy’n argymell codi canran y bwyd figan sy’n cael ei werthu yn eu caffis o 40% i 50%.
Ond er mai cynnig gan yr aelodau ydi hwn, mae’n cael ei gefnogi gan fwrdd ymddiriedolwyr yr elusen.
Mewn datganiad, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y byddan nhw'n parhau i gadw cynnyrch llaeth, wyau a chig ar y fwydlen ac yn parhau i gydweithio’n agos â ffermwyr.
'Dydi o ddim yn gwneud synnwyr mynd yn llysieuol'
Mae Beca Glyn, sy'n cefnogi ei thad, yn cwestiynu sut mae mynd yn llysieuol yn well i'r amgylchedd.
Dywedodd: "Dydi o ddim yn gwneud synnwyr mynd yn llysieuol – dydi’r llysiau ddim yn mynd i fod yna drwy’r flwyddyn felly bydd yn rhaid mewnforio cynnyrch.
"Sut mae hynny yn well i’r amgylchedd? Mi fasa’n well i gaffis yr ymddiriedolaeth gefnogi cynnyrch lleol o fewn ardal y caffis,” meddai.
Mae Glyn Roberts yn pwysleisio nad dadl rhwng amaethwyr a figaniaid sydd dan sylw ond yn hytrach be ydi pwrpas a nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dywedodd mai "rheswm am fodolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydi edrych ar ôl hanes, treftadaeth a harddwch ardal".
"Os ydyn nhw'n hybu figaniaeth, sut maen nhw'n medru cadw yn gynaliadwy dreftadaeth, iaith, harddwch ardal, pobl i fyw yng nghefn gwlad a phobl i gyfrannu at economi cefn gwlad os ydyn nhw ddim yn bwyta ein cynnyrch ni ein hunain?
"Amaethyddiaeth sydd wedi cadw’r petha' sy’n bwysig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac maen nhw yn troi eu cefn ar hynny ac yn ein gwerthu ni lawr y ffordd... mae hynny i mi yn druenus iawn," ychwanegodd.
![Beca Glyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/7d20/live/4d3432c0-9073-11ef-b224-4d232983a015.jpg)
Dywed Beca Glyn y byddai'n "well i gaffis yr Ymddiriedolaeth gefnogi cynnyrch lleol o fewn ardal y caffis"
Dywedodd Tim Jones, ymgynghorydd amgylcheddol annibynnol ac aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ei fod am bleidleisio yn erbyn y cynnig yn y cyfarfod blynyddol.
“Mae’r sefyllfa hefo’r amgylchedd wastad yn fwy cymhleth nag y mae’n edrych ar yr wyneb. I mi, mi fasa’n well iddyn nhw ganolbwyntio ar fwyd cynaliadwy - pa bynnag fath o fwyd ydi o.
"Yn y cynnig mae’n deud bod cig yn ddrwg a phlanhigion yn dda – dydi o ddim mor glir â hynny.
"Mae lot o’r cig sydd wedi ei gynhyrchu yng Nghymru – does 'na ddim concentrates yn dod i mewn, maen nhw’n bwyta glaswellt, maen nhw’n pori a helpu rheoli cynefin.
"Mae’r syniad os 'da ni i gyd yn mynd yn figans neu yn llysieuwyr y bydd y byd yn lot gwell - dio ddim mor syml â hynny."
![Tim Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/2016/live/b29200f0-8f85-11ef-b3c2-754b6219680e.jpg)
Dywedodd Tim Jones fod "sefyllfa hefo’r amgylchedd wastad yn fwy cymhleth nag y mae’n edrych ar yr wyneb"
Mae gan yr elusen dros 300 o lefydd gwerthu bwyd ar hyd a lled Prydain, a'r llynedd roedd gwerthiant yn £100m.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydi un o dirfeddianwyr mwyaf Prydain, gyda bron i 1,500 o denantiaid. Mae 51 o’u ffermydd yn Ysbyty Ifan.
Yn ôl Glyn Roberts, does dim dwywaith bod yr elusen wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r gymuned, y diwydiant amaeth a’r iaith yn yr ardal drwy gadw’r ffermydd yma - a pheidio ag uno ffermydd.
Ond mae o'n credu bod y dyfodol yn fwy ansicr.
“Mae 'na elfennau yn dod i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf sy’n peryglu'r dyfodol i ffyniant cefn gwlad yn ardal Ysbyty Ifan,” meddai.
Mewn datganiad, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu bod am i'w caffis "fod yn fwy cynaliadwy" a'u bod "eisiau parhau i gynnig amrywiaeth ardderchog o fwyd gan fodloni dewisiadau newidiol ein hymwelwyr ar yr un pryd".
"Mae tua dwy ran o bump o’n bwydlen yn blanhigol ar hyn o bryd a gallwn gynyddu hynny i hanner y fwydlen dros y ddwy flynedd nesa."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2022