Arbed bwyd o'r bin: 'Angen 60 tunnell yn rhagor bob mis'
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun sy'n ailddosbarthu bwyd fyddai fel arall yn cael ei daflu gan siopau a ffatrïoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw amdano.
Dywedodd FareShare Cymru eu bod yn chwilio am 60 tunnell yn rhagor o fwyd y mis.
Mae gan yr elusen restr aros o 176 o gyrff sy'n awyddus i ddefnyddio'r bwyd sydd dros ben - gan gynnwys llochesi i'r digartref, grwpiau cymunedol a chlybiau ysgol.
Dywed Fareshare Cymru bod y galw ar gynnydd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.
Yn 2023 fe wnaeth y cynllun ddosbarthu 907.2 tunnell o fwyd i 239 o grwpiau ar draws Cymru.
Yn eu plith roedd Foothold Cymru yn Llanelli, sy'n gyfrifol am bantri cymunedol sy'n cynnig 10 eitem am £5, a dosbarthiadau coginio gan ddefnyddio'r bwyd sydd wedi'i gyfrannu.
"Mae rhai pobl yn dod yma i ddysgu sgiliau, mae rhai yn dod achos ma'r bwyd am ddim," esboniodd Lucy Leach, sy'n gyfrifol am y dosbarthiadau.
"Bore 'ma fi'n paratoi cawl i'r warm hub - dwi wedi cadw'r stems o'r broccoli ar ôl defnyddio'r florets mewn stir-fries yn ystod yr wythnos.
"Os allwn ni safio'r bwyd 'ma rhag mynd i landfill ni'n neud jobyn dda," meddai.
Y galw wedi 'cynyddu'n sylweddol'
Roedd Eifion Wyn Simms, 65 wrthi'n paratoi cacennau bach gan ddefnyddio pentwr o fananas oedd wedi troi'n frown.
"'Sneb yn mynd i allu gwerthu rhein," meddai - "ond maen nhw'n dal yn iawn i fwyta."
Dywedodd bod gwirfoddoli yn y dosbarthiadau wedi bod yn dda i'w iechyd meddwl - "fel arall fydden i just yn ishte'n y tŷ yn 'neud dim.
"Ma' Lucy fan hyn wedi dysgu lot i fi a fi nawr yn gallu cwcan - o'n i ffili berwi wy cyn hyn!"
Ac yn ôl Sophie Morgan, rheolwr Foothold Cymru, mae nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanethau'r elusen wedi cynyddu "yn sylweddol" yn ystod y misoedd diwethaf.
"Ni'n gweld pobol nawr bydden ni ddim fel arfer - ma'r gwasanaeth yn rili bwysig," meddai.
"Ac os bydde dim bwyd 'da ni yn dod mewn o FareShare bydde ni ffili 'neud be' ni'n 'neud - sdim yr arian da ni i brynu bwyd i'r gwersi nac i'r siop.
"So mae'n rili bwysig bod busnese yn rhoi i FareShare iddyn nhw gallu rhoi i ni."
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023
'Dros 400 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn'
Yn warws FareShare yng Nghaerdydd, dywedodd y prif weithredwr Sarah Germain bod yr elusen yn credu mai ond "crafu'r wyneb" y mae nhw o ran cael mynediad i fwyd sydd dros ben.
Maen nhw'n amcangyfri bod 400,000 tunnell yn mynd yn wastraff yng Nghymru yn flynyddol - a phetai 1% o hynny'n fwytadwy byddai'n ddigon ar gyfer 9 miliwn o brydau, honnodd Ms Germain.
"Mae 'na gymaint o alw allan yna ar y funud a ry'n ni angen mwy o fwyd," meddai.
Fe apeliodd ar gynhyrchwyr, cyflenwyr a hyd yn oed ffermwyr unigol i gysylltu â'r elusen, gan ychwanegu bod cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael drwy gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan i helpu ag unrhyw gostau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer toriad o 60% mewn gwastraff bwyd y mae modd ei osgoi erbyn 2030 er mwyn arwain y ffordd at Gymru "diwastraff" erbyn 2050.
Yn ogystal â'r gost ariannol i fusnesau, mae gwastraff bwyd yn broblem amgylcheddol sylweddol hefyd gan gyfrannu at newid hinsawdd.
"Ystyriwch yr holl ymdrech sy'n mynd mewn i gynhyrchu bwyd - yr allyriadau, y dŵr, yr ynni - fe ddylai fe gael ei fwyta," eglurodd Ms Germain.
"Ry'n ni mewn argyfwng hinsawdd ar hyn o bryd ac mae oddeutu 2 dunnell o CO2 cyfwerth yn cael ei arbed am bob tunnell o fwyd ry'n ni'n ei ailddosbarthu," meddai.
'Sioc faint o bobl sy'n byw mewn tlodi'
Mae Peter's Food, ym Medwas, Caerffili yn cyfrannu unrhyw bastai, peis a selsig y maen nhw'n eu hystyried yn israddol i'r cynllun.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni Mike Grimwood y byddai'n well ganddo "wneud rhywbeth sy'n helpu pobl" na chael pris bach am y cynnyrch.
"Ro'dd hi'n sioc i fi weld faint o boblogaeth Cymru sy'n byw mewn tlodi," meddai.
Ers i'r cwmni ymuno â'r cynllun yn Ebrill 2023, dywedodd FareShare Cymru iddo ddarparu digon o fwyd ar gyfer 29,000 o brydau.
Ar draws Cymru, mae bwyd sy'n cael ei gyfrannu i'r cynllun yn cyrraedd hyd at 30,000 o bobl ar hyn o bryd, ychwanegodd Ms Germain.
"O ffrwythau a llysiau ffres, i fwyd sydd wedi'i rewi, i brydau parod - dim ond ei fod e'n fwytadwy ac mewn cyflwr da fe allwn ni ei gymryd e," meddai.
"Pwrpas hyn yw troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol."