Eryri: Oriel luniau o'i llynnoedd
- Cyhoeddwyd
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi safoni cannoedd o enwau llynnoedd mewn ymgais i ddiogelu enwau Cymraeg cynhenid.
Dyma oriel o rai o leoliadau hardd yr ardal.
![Llyn Padarn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/c4ee/live/a20a4990-83b0-11ee-82d0-c92f0cf2b2e0.jpg)
Mae Llyn Padarn - sydd weithiau'n cael ei alw'n Llanberis Lake - wedi dod yn lle poblogaidd i hamddena. Mae llun y goeden yma i'w weld yn aml ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae'n cael ei alw yn 'The Lonely Tree'. Yn ddiweddar newidiodd caffi cyfagos ei enw i'r Lonely Tree Cafe. Er bod yr olygfa yma tuag at Yr Wyddfa a'i chriw yn adnabyddus iawn, mae ffiniau'r parc yn dechrau ochr arall i lynnoedd Padarn a Peris
![Llyn Padarn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/3bbe/live/505aba30-83b0-11ee-99a9-a77cd1df875c.jpg)
Llyn Padarn o'r pen arall, o'r llwybr 'sig-sag' oedd chwarelwyr yn ei defnyddio i fynd i'w gwaith. Sant o'r chweched ganrif oedd Padarn, ac mae Eglwys Padarn yn Llanberis. Ond mae enw'r pentref yn cyfeirio at sant arall - Peris. Mae Eglwys Peris ychydig filltiroedd i fyny'r dyffryn yn Nantperis
![Llyn y Gadair](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/92ae/live/8fc25590-83ae-11ee-82d0-c92f0cf2b2e0.jpg)
'Mae rhyw ddewin â dieflig hud yn gwneuthur gweld ei wyneb i mi'n nef' meddai TH Parry Williams yn ei gerdd Llyn y Gadair. Mae cartref y bardd - Tŷ'r Ysgol, Rhyd Ddu - i'w weld yn y llun. Mae panel safoni enwau lleoedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud y dylid cyfeirio at Lyn y Gadair - nid Llyn y Gader, sef ffurf yr Arolwg Ordnans, gan eu bod nhw wedi cymysgu gyda...
![Llyn y Gader](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/be1a/live/74dd81d0-83bf-11ee-862f-c5904d498d1f.jpg)
... Llyn y Gader - nid Gadair - sydd yng nghysgod Cader Idris, ger Dolgellau
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
![Beicwyr yn mynd heibio Llynnau Mymbyr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/88f0/live/7e54c160-83bf-11ee-862f-c5904d498d1f.jpg)
Mae Ffordd Brailsford, llwybr beicio sydd wedi ei enwi ar ôl Syr David Brailsford, yn mynd heibio i Lynnau Mymbyr, ger Capel Curig
![Llyn Tegid](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/970f/live/9efc8ad0-83a4-11ee-99a9-a77cd1df875c.jpg)
Llyn Tegid - nid Lake Bala yn ôl argymhelliad panel safoni enwau lleoedd Awdurdod y Parc - o gyfeiriad Aran Fawddwy. Mae enw'r llyn yn cael ei gysylltu gyda chwedl Tegid Foel
![Llyn Nantlle](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/44dc/live/955c22f0-83a5-11ee-99a9-a77cd1df875c.jpg)
Llyn gyda'r Wyddfa ar un pen a llechen Dyffryn Nantlle ar yr ochr arall - all hwn ond fod yn Llyn Nantlle a nunlle arall
![Person yn edrych tuag at Moel Tryfan a Llyn Ogwen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/d172/live/889e1e00-83bf-11ee-862f-c5904d498d1f.jpg)
Llyn Ogwen, yng nghysgod Tryfan. Yn nes at y copa mae Llyn Bochlwyd, un o'r llynnoedd sydd wedi codi pryderon gan fod rhai yn ei galw yn Lake Australia oherwydd ei siâp
![Llyn Llydaw Glaslyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5955/live/4f82e2b0-83ae-11ee-913e-f1ed4de8fadb.jpg)
Mae Llwybr y Mwynwyr yn mynd heibio i Lyn Llydaw ac yna Glaslyn cyn ymuno efo Llwybr y Pyg ac ymlaen i gopa'r Wyddfa - mynydd mae awdurdod y parc eisoes wedi penderfynu cyfeirio ato yn Gymraeg yn unig
![Llyn Trawsfynydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/7c2c/live/9242af20-83bf-11ee-862f-c5904d498d1f.jpg)
Pont ar draws Llyn Trawsfynydd. Yn y cefndir mae adeilad hen atomfa niwclear Trawsfynydd, gafodd ei lleoli yma er mwyn defnyddio dŵr y llyn i oeri'r adweithyddion
![Llyn y Dywarchen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/edbf/live/43179b00-83af-11ee-99a9-a77cd1df875c.jpg)
Llyn y Dywarchen, sy'n cyfeirio at y dywarchen enwog (nid yr ynys yn y llun) fu'n symud yn raddol ar draws y llyn. Mae sôn amdani gan Gerallt Gymro yn 1188, gan Edmund Halley yn 1698 a Thomas Pennant yn 1784. Mae'r llyn hefyd yn lleoliad hen chwedl Tylwyth Teg
![Llyn cwellyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/a345/live/b117b360-83af-11ee-82d0-c92f0cf2b2e0.jpg)
Mae straeon am y Tylwyth Teg hefyd yn Llyn Cwellyn, sydd ond rai milltiroedd i ffwrdd o Llyn y Dywarchen
![Dafad uwchlaw llyn Marchlyn Bach](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1e6d/live/064cdfb0-83b3-11ee-82d0-c92f0cf2b2e0.jpg)
Nid ceffyl ond dafad uwchben Llyn Marchlyn Bach, yng nghysgod Elidir Fawr, ger Dinorwig
![Llyn Marchlyn Mawr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/85fb/live/c819ca80-83a5-11ee-913e-f1ed4de8fadb.jpg)
A dyma Marchlyn Mawr, un o nifer o lynnoedd Cymru sydd ag argae ar eu traws. Ar rai adegau o'r dydd bydd y dŵr yma yn cael ei ollwng i lawr siafft ac yn troi tyrbin yn y gwaelod i greu trydan. Bydd y dŵr wedyn yn rhedeg i...
![Llyn Peris](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5001/live/c66f9260-83a4-11ee-99a9-a77cd1df875c.jpg)
... Lyn Peris, gyda phwerdy Dinorwig ar ei lan. Bydd y dŵr yn cael ei bwmpio yn ôl i dop y mynydd ar ôl cynhyrchu'r trydan er mwyn dechrau'r broses eto