Llyn Bochlwyd neu Lake Australia? Bwriad i gysoni enwau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Naomi Jones: 'Y bwriad fydd defnyddio enwau Cymraeg ar lafar gwlad'

Bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio rhestr o enwau Cymraeg safonol o gannoedd o lynnoedd mewn ymgais i ddiogelu enwau cynhenid.

Dros y blynyddoedd mae enwau Saesneg answyddogol wedi dechrau cael eu defnyddio i adnabod rhai o lynnoedd y parc.

Mae'r rhain yn cynnwys Lake Australia (Llyn Bochlwyd), Bearded Lake (Llyn Barfog) a Bala Lake (Llyn Tegid).

Ond yn sgil pryderon cynyddol fod rhai o'r enwau Cymraeg yn cael eu disodli, ac er mwyn safoni'r rhai sydd eisoes â mwy nag un ffurf, mae awdurdod y parc wedi bod yn trafod yr enwau y dylid eu defnyddio o hyn allan.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, cadarnhaodd yr awdurdod y byddai'n defnyddio'r rhestr swyddogol o enwau o hyn ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Kris Williams
Disgrifiad o’r llun,

Does fawr o ddadl dros enw Llyn Idwal, sydd rhwng Bethesda a Chapel Curig

Daw hyn flwyddyn wedi i Awdurdod y Parc Cenedlaethol bleidleisio o blaid cefnu ar Snowdonia a Snowdon a defnyddio Eryri a'r Wyddfa yn unig.

Gydag enwau'r llynnoedd wedi eu safoni, y bwriad yw ehangu'r gwaith i gynnwys rhaeadrau, mynyddoedd a thirweddau eraill Eryri.

Ond mae disgwyl i'r gwaith gymryd blynyddoedd i'w gwblhau.

'Gwaith ymchwil trylwyr'

Ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd a Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, mae cynllun peilot wedi bod ar waith i safoni enwau tirweddol ers dwy flynedd.

Y bwriad yw safoni'r ffurf a'r sillafiad y dylid ei ddefnyddio, ond hefyd i atgyfnerthu a hyrwyddo'r defnydd o'r enwau Cymraeg hynafol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn argymell hyrwyddo Llyn Tegid yn hytrach na Bala Lake - fel y mae rhai yn ei alw

Fel rheol mae gwaith Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg wedi canolbwyntio ar enwau aneddiadau.

Ond yn sgil diddordeb cynyddol mewn enwau lleoedd, mae sgôp y gwaith wedi ei ehangu i gynnwys enwau tirweddol, gyda'r panel yn ystyried amrywiaethau rhwng ardaloedd a gwahanol dafodieithoedd Eryri yn ogystal â mewnbwn wardeniaid lleol.

Er nad oes gan y parc y gallu i orfodi asiantaethau eraill i fabwysiadu'r enwau safonol newydd, mae gobaith o ddylanwadau ar yr Arolwg Ordnans a chyrff eraill fel fod yr enwau safonol yn ymddangos ar fapiau a dogfennau eraill.

Y gobaith wedyn ydy fod yr enwau yma yn cael eu bathu ar lefel ehangach ar lawr gwlad ac yn ysgrifenedig.

Dywedodd Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri, wrth Cymru Fyw: "Prosiect peilot ydy hwn i weld os ydy'r drefn yma'n gweithio ar gyfer enwau daearyddol, oherwydd mae gwaith Comisiynydd yr Iaith yn y maes yma fel arfer yn gwneud hefo enwau trefi, dinasoedd, pentrefi ac ati.

"Mae'r gwaith yma yn eang iawn - mae miloedd ar filoedd o enwau yn perthyn i nodau tirweddol Eryri.

"Felly oeddan ni'n edrych ar lynnoedd fel cronfa o enwau sy'n gymharol fawr - mae 'na dros 200 ohonyn nhw - a'r nod os fydd yr enwau yma'n cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu, fydd mynd ymlaen i grwpiau eraill o enwau fel rhaeadrau a chopaon, ond mae'n waith manwl iawn ac angen gwaith ymchwil trylwyr."

Ffynhonnell y llun, John Fielding, geograph.org.uk
Disgrifiad o’r llun,

Argymhelliad yr adroddiad yw safoni'r defnydd o Llyn Bochlwyd yn hytrach na 'Lake Australia' - fel yr adnabyddir mewn rhai llyfrau teithio

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell safoni sillafiad llynnoedd eraill sydd wedi ymddangos mewn sawl ffurf dros y blynyddoedd.

Y bwriad ydy i ddefnyddio Llyn Anafon yn hytrach na Llyn Anhafon, Llyn Bryn Du yn hytrach na Llyn Bryn-du a Llyn Bwrw Eira ac nid Llyn Bwrw-eira, fel sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan yr Arolwg Ordnans.

"Yr unig rym sydd gan y parc ydy'r ffordd 'da ni'n hunain yn arddel yr enwau, ond wrth gwrs mi ydan ni'n cydnabod fod ganddon ni ddylanwad dros unigolion, cyrff, busnesau ayyb," ychwanegodd Naomi Jones.

"Wrth i'r awdurdod safoni enwau 'sa ni'n gobeithio fydd hynny'n cael dylanwad cadarnhaol ar y ffordd mae pobl o'r tu allan yn arddel a defnyddio enwau lleoedd Cymraeg.

"Rhan o'n pwrpas cyntaf ni fel awdurdod ydy i warchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol y parc cenedlaethol ar y cyd â'r harddwch naturiol a bioamrywiaeth.

"Mae enwau lleoedd yn rhan allweddol o'r dreftadaeth ddiwylliannol, mae enwau lleoedd yn ein galluogi ni i ddallt lle ydan ni yn y byd, yn ddaearyddol maen nhw'n dweud wrthon ni lle ydan ni os ydy'r enw ar fap.

"Ond hefyd yn ddiwylliannol, mae'r ffaith mai enwau Cymraeg ydy'r mwyafrif helaeth o enwau lleoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn rhoi'r neges fod y Gymraeg yn iaith fwyafrifol yn yr ardal, yn bwysig i'n treftadaeth ddiwylliannol ni a bod yr enwau lleoedd yn rhan o'r arwyddocâd hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu defnyddio'r enwau Cymraeg yn unig ar gyfer Eryri a'r Wyddfa ers 2022

"'Da ni wedi gweld newid yn y ffordd mae'r Arolwg Ordnans yn cyfarch enwau mewn ieithoedd lleiafrifol dros y blynyddoedd diwethaf," meddai, gan ei ddisgrifio fel "datblygiad i'w groesawu".

"Y gobaith yw fydd yr enwau hyn yn cael eu defnyddio ar fapiau yn eang a hynny, yn ei dro, yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r enwau ar lafar gwlad.

"Mae hynny ynddo'i hun yn rhan holl, hollbwysig yn y ffordd 'da ni'n defnyddio enwau lleoedd ac yn addysgu pobl amdanyn nhw."

Yn dilyn cyfarfod fore Mercher, 15 Tachwedd, pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid arddel y rhestr safonol o enwau.

Bydd y cyfrifoldeb dros enwau tirweddol yn cael ei drosglwyddo i'r Grŵp Craffu Enwau Lleoedd, fydd yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar y pwnc.