Cyhuddo dyn o Gasnewydd o droseddau terfysgaeth

Llys Ynadon San SteffanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mechnïaeth ei wrthod i Mr Ali, wnaeth ymddangos gerbron Llys Ynadon San Steffan trwy gyswllt fideo o Gaerdydd fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 20 oed o Gasnewydd wedi'i gyhuddo o fod yn aelod o'r grŵp sy'n galw'u hunain yn Wladwriaeth Islamaidd neu IS.

Mae Shazad Ali hefyd wedi'i gyhuddo o wahodd cefnogaeth i'r sefydliad, ac o annog a chefnogi gweithredoedd terfysgol.

Cafodd y cyhuddiadau eu dwyn gan dditectifs o Adran Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru ddydd Mercher ac fe ymddangosodd Ali gerbron Llys Ynadon Westminster yn gynharach.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys yr Old Bailey ar 2 Mai.