'Diffyg egni' yn yr ymdrech i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Aelodau cymdeithas yr iaith
Disgrifiad o’r llun,

Chwarter canrif sydd gan y llywodraeth i gyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y prif weinidog i wneud mwy i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod y nod yn 2016, gyda'r flwyddyn newydd yn nodi chwarter canrif tan y targed.

Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn gadael cerdyn Calan yn swyddfa'r prif weinidog Eluned Morgan yn Hwlffordd ddydd Gwener yn galw arni am wneud mwy.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Osian Rhys o'r gymdeithas fod "angen gweithredu er mwyn cyrraedd y targed".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050".

'Diffyg egni' a 'diffyg cyfeiriad'

Mae'r llywodraeth yn gweithio ar Fil y Gymraeg ac Addysg, yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i filoedd o bobl ifanc ac yn datblygu technoleg iaith,

Ond mae Osian Rhys o'r farn nad ydyn nhw'n gwneud digon.

Dywedodd: "Dy'n ni ddim wedi gweld yn y cyfnod ers gosod y targed, unrhyw weithredu gan y llywodraeth sy'n mynd i arwain at gyrraedd y targed yna.

"Mae gosod targed yn un peth. Mae angen gweithredu er mwyn cyrraedd y targed."

Fe soniodd am y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad 2021 - ffigyrau oedd yn "groes i'r hyn oedd y llywodraeth wedi darogan, a'r rheswm dros hynny yw bo' nhw ddim yn gweithredu lle maen nhw angen".

Mae o'r farn fod 'na "ddiffyg egni" a "diffyg cyfeiriad" yn perthyn i'r llywodraeth.

"'Dan ni'n gobeithio ar ddechrau blwyddyn newydd i atgoffa'r prif weinidog, Eluned Morgan... fod angen gweithredu yn lawer mwy uchelgeisiol er mwyn cyrraedd y targed," meddai Mr Rhys.

Dywedodd bod addysg yn un o'r sectorau lle nad oes gweithredu wedi digwydd, a bod y cynnydd yn y maes hwnnw wedi bod yn "druenus o isel" yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.

"Pan osodwyd y targed yn y lle cyntaf roedd pobl yn llawn cyffro am y peth, yng Nghymru ac yn rhyngwladol," meddai.

"Wrth i amser fynd yn ei flaen mae 'na deimlad fod y llywodraeth yn gosod targed ac yn gwneud dim am y peth a dwi'n meddwl mae'n rhaid i ni obeithio bod pethau'n mynd i newid."

'Y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac rydym wedi ymrwymo i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050.

"Byddwn yn gwneud hyn drwy barhau i weithio ar draws y llywodraeth a thu hwnt i flaenoriaethau Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), i gynnig gwersi Cymraeg am ddim i filoedd o bobl ifanc a'r gweithlu addysg, i gynnal ein cymunedau Cymraeg, i gynyddu defnydd iaith ym mhob ardal a chyd-destun ac i ddatblygu technoleg iaith."