Harry Parry – y Cymro oedd yn seren jazz yr 1940au
- Cyhoeddwyd
Rhwng yr 1930au a’r 1950au jazz oedd un o’r mathau mwyaf poblogaidd o gerddoriaeth yn y gorllewin - ac ymysg yr artistiaid mwyaf adnabyddus y cyfnod ym Mhrydain oedd Harry Parry.
Roedd neuaddau yn llawn ar gyfer ei gyngherddau, bu'r clarinetydd yn ymddangos ar y sgrin fawr mewn ffilmiau ac yn recordio’n gyson - a fo oedd un o ddarlledwyr cyntaf rhaglenni jazz ar y radio ym Mhrydain.
Ac fel arwydd o'i enwogrwydd, Harry Parry oedd un o westeion cyntaf rhaglen Desert Island Discs y BBC yn 1942.
Ond dechreuodd y cyfan ym Mangor - lle ganwyd Owen Harry Parry ar 22 Ionawr 1912 - pan ddechreuodd ddysgu offerynnau pres gyda’r band lleol.
Un sy’n gyfarwydd gyda cherddoriaeth Harry Parry ers yr 1960au ydi Emyr Williams o Gaerdydd.
Fel bachgen ifanc fe ddisgynnodd Emyr mewn cariad gyda jazz ar ôl clywed y gerddoriaeth ar raglen radio ac aeth yn ei flaen i gyflwyno Byd y Jazz ar BBC Radio Cymru a Jazz Juice ar BBC Radio Wales.
“Ro’n i’n chwarae traciau gan Harry Parry ar y rhaglenni er cof amdano a hefyd ro’n i’n ymhyfrydu mai Cymro oedd un o’r cyntaf i gyflwyno rhaglen jazz ym Mhrydain ar y BBC,” meddai.
“Roedd yn blentyn cerddorol hynod ddisglair. Chwaraeodd y cornet, y corn tenor a’r corn flugel ym mand pres y dref - sef y Municipal Brass Band. Yna troi i’r ffidil a’r dryms pan oedd yn 12 oed, ac yn 15 oed fe brynodd o alto sax a ffidil a chwarae gyda’r Marina Dance Band.
"Fe drodd yn broffesiynol yn 15 a chwarae alto a chanu gyda band Eddie Shaw ar y prom a’r pier yn Llandudno.”
Ar ôl cyfnod yn chwarae gyda’r band yn Croydon a Brighton fe ymunodd gyda bandiau eraill cyn troi’n gerddor llawrydd yn yr 1930au a chwarae gyda rhai o fandiau gorau Llundain.
Erbyn hynny ei brif offeryn oedd y clarinét, a’i arwr oedd yr Americanwr Benny Goodman. Fe sefydlodd driawd ei hun oedd yn chwarae yng ngwesty St Regis, Llundain.
Un oedd yn ei fand gydag o ar ddechrau’r 1940au oedd y pianydd George Shearing. Yn ddiweddarach fe symudodd Shearing, oedd yn ddall, i’r UDA gan ddod yn gerddor jazz byd-enwog gydag un o’i berfformiadau wedi ei anfarwoli yn nofel Jack Kerouak, On the Road.
Yn ystod un perfformiad gan Harry a’i fand yng ngwesty St Regis, roedd cynhyrchydd a chyflwynydd rhaglen radio jazz cynta’r BBC yn y gynulleidfa.
Fe roddodd Charles Chilton wahoddiad i’r band i chwarae ar y Radio Rhythm Club ac fe ddarlledwyd eu perfformiad cyntaf ar 28 Medi 1940.
Yn ddiweddarach, pan gafodd Chilton ei alw i’r llu awyr yn ystod y rhyfel fe ofynnwyd i Harri Parry gyflwyno a chynhyrchu yn ei le gan roi cynulleidfa ehangach i'r Cymro.
Cyfansoddi cân gydag enw Cymraeg
Ychwanegodd Emyr: “Fe gafodd band Harry gytundeb recordio gan EMI ar label Parlophone a Harry yn tyfu’r band i fod yn chwechawd - sax, vibes a trwmped gyda dwy gantores hefyd.
"Wnaeth hynny arwain at ragor o lwyddiant, yn recordio yn doreithiog, ymddangos mewn ffilmiau a chwarae cyngherddau i filwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
“Erbyn yr 1950au aeth ar deithiau tramor i’r Iseldiroedd, lle’r oedd wedi chwarae o’r blaen, yr Aifft ac India. Bu’n brysur iawn trwy’r 40au a 50au, yn un o sêr enwocaf cerddorion jazz Llundain, yn arloeswr, sicr yn un disglair yn hanes jazz yng Nghymru a thrwy Brydain.
“Harri gyfansoddodd arwyddgan ei fand, o’r enw Champagne a chân ag enw Cymraeg, Dim Blues, sydd ar ei albwm Opus.”
Un cerddor oedd wedi ei ysbrydoli gan Harry Parry oedd y diweddar Wyn Lodwick, y clarinetydd jazz o Lanelli fu farw yn gynharach eleni.
Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Cymru yn 1991 fe gofiodd yn ôl i gyfarfod Harry Parry ar ddiwedd cyngerdd yn yr Empire yn Abertawe yng nghyfnod y blitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Canu Sosban Fach gyda Harry
“Ro’n i’n fachgen yn yr ysgol a fy mrawd hyna’ wedi mynd â fi i fyny i Abertawe - oedd yn dipyn o beth i neud,” meddai.
“Ar ôl mynd i’r cefn i gwrdd â Harry - roedd hynny’n bwysig oherwydd ro’n i wedi dechrau chwarae'r clarinét - a Harry yn gweud ‘mae rhaid i fi weld y bois bach yma’.
"Dyma fe’n dod allan a siarad 'da ni a gofyn o le ni’n dod o a ni’n deud Llanelli... a ni gyd yn yr oerfel tu allan i’r Empire yn canu Sosban Fach
“Dysges i dipyn am y clarinét gyda fe. Roedd e’n rhoi dipyn o tips i ni a dangos fel i neud pethe, fel i chwarae nodiadau. Oedd e’n dweud y fath o reeds roedd e’n defnyddio, fel mouthpiece ac ymlaen, a siarad wedyn am ffordd o 'ware riffs ac yn y blaen ac fel roedd e’n gweithio mas pethe yn y band.”
Bu farw Harry Parry yn Llundain fis Hydref 1956 o drawiad ar y galon ac yntau ond yn 44 oed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
- Cyhoeddwyd3 Awst
- Cyhoeddwyd12 Awst 2016