New Orleans y Bannau: 40 mlynedd o Jazz Aberhonddu
- Cyhoeddwyd
Sonny Rollins, Amy Winehouse, Stéphane Grappelli, Dionne Warwick, Wynton Marsalis, Van Morrison... nid rhestr o artistiaid fu'n perfformio ar lwyfannau enwog yn Efrog Newydd neu Lundain ond mewn tref farchnad fechan ym Mhowys.
Ond dydi Aberhonddu ddim yn dref arferol yng nghefn gwlad Cymru.
Er bod llai na 10,000 yn byw yn y dref sydd wedi ei lleoli oddi ar yr A470, yn ystod cyfnod mwyaf poblogaidd Gŵyl Jazz Aberhonddu roedd 50,000 yn heidio yno - ac yn eu mysg enwau mawr y byd jazz a cherddoriaeth gyfoes.
Ac wrth ddathlu ei deugain oed eleni, mae’r ŵyl wedi dychwelyd i’w gwreiddiau ar ôl iddi bron â dod i ben fwy nag unwaith.
Fe ddechreuodd yr ŵyl yn 1984, nid efo'r bwriad o ddatblygu'n un o wyliau cerddorol mwyaf adnabyddus Ewrop ond i roi hwb i’r dref oherwydd ffordd osgoi newydd.
Yn ôl dau o'r trefnwyr presennol, Lynne Gornall a Roger Cannon, roedd pryder am effaith y datblygiad ar fusnesau’r dref ac felly fe gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod y mater.
Meddai Lynne: “Roedd pobl yn poeni bod pawb am fynd heibio Aberhonddu a pheidio stopio ac roedd pethau’n dirywio ychydig.
"Roedd pryder am yr economi a’r siopau yn stryglo, a phobl yn pendroni be' i'w wneud i roi hwb i’r lle.”
O ŵyl gymunedol i ŵyl fyd-enwog
Fe gynigiodd un person y syniad o ddigwyddiad cerddorol, tan i ffan jazz lleol Tony Constantinescou gynnig gŵyl jazz tebyg i rai oedd o wedi bod ynddyn nhw yn Ewrop.
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd teimlad cymunedol cryf i’r ŵyl, gyda pherfformiadau mewn nifer o leoliadau yn y dref ac yn y sgwâr.
Ffans jazz yng ngogledd Lloegr oedd Lynne a Roger ar y pryd, a glywodd am yr ŵyl newydd ym Mhowys - a hynny mewn cyfnod pan nad oedd cymaint o wyliau cerddorol.
Yn 1986 fe deithiodd y ddau i Bowys am y tro cyntaf - a chyffroi ar ôl gweld banner yn eu croesawu i Jazz Aberhonddu wrth gyrraedd y dref - ac maen nhw wedi bod bron pob blwyddyn ers hynny.
Meddai Roger: “Be’ oedd yn wahanol oedd bod hwn mewn tref farchnad fechan yn lle stad breifat neu rywbeth tebyg, a dim byd mewn marquee - i gyd yn defnyddio lleoliadau lleol neu du allan, efo’r brif lwyfan yng nghanol y dref.
"Roedd o’n ddigwyddiad reit gyhoeddus y dyddiau hynny, lot yn digwydd a phawb i weld yn rhan o’r ŵyl.”
Sut ddenwyd sêr UDA i Bowys?
Diolch i nawdd a threfnu da, fe dyfodd yr ŵyl.
Ond sut oedd perswadio sêr o dramor - nifer yn gerddorion enwocaf y byd jazz o'r Unol Daleithiau - i ddod drosodd i Bowys?
Rhan o’r gyfrinach oedd bod y trefnwyr yn gwneud yn siŵr bod y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y penwythnos ar ôl gŵyl fawr jazz Caeredin a pherswadio’r sêr o dramor oedd yn mynd i’r Alban i aros ymlaen am rai dyddiau er mwyn perfformio yn Aberhonddu.
Fe gafwyd nifer o gwmnïau rhyngwladol i noddi’r ŵyl hefyd. Tua'r flwyddyn 2000, roedd hanner y cyllid o £330,000 yn mynd i ddenu artistiaid.
Mae Roger yn cofio nôl i aros mewn gwesty yn y dref:
“Roedd y gwesty wedi ei bwcio mwy neu lai yn llwyr i artistiaid - ond roedden ni wedi bwcio’n gynnar. Aethon ni lawr i frecwast ac roedd y stafell yn llawn o’r artistiaid Americanaidd 'ma - enwau mawr.
“Dwi’m yn meddwl bod yr artistiaid yma yn gwybod yn iawn lle’r oedden nhw. Roedden nhw’n hedfan i Gaeredin, cael eu cludo lawr i Aberhonddu, mynd ar y llwyfan i chwarae a meddwl ‘lle yda ni?!’”
Trafferthion ariannol
Yn y pen draw, fe dyfodd yn rhy fawr. Gyda chymaint o bobl yn heidio i dref fechan roedd pwysau ar gyfleusterau a phroblemau thraffig.
Gyda’r enwau adnabyddus daeth y pebyll mawr i sicrhau cynulleidfa fwy, gan newid naws yr ŵyl. Daeth y digwyddiad yn esgus i rai dreulio’r penwythnos yn yfed yn hytrach na gwrando ar gerddoriaeth - a thrafferthion cymdeithasol yn sgil hynny.
Meddai Roger: “Roedd lot o ffans jazz a phobl leol wedi dadrithio efo hyn. Pan mae ‘na noddwyr mawr maen nhw’n tueddu i yrru pethau a mynd i gyfeiriad penodol.”
“Wnaeth o arwain i nifer o bobl leol ddweud ‘dyna’r penwythnos dwi’n mynd i ffwrdd',” ychwanegodd Lynne.
Mae’r ŵyl wedi wynebu trafferthion ariannol dros y blynyddoedd a chael ei hachub fwy nag unwaith. Pan wnaeth cwmni digwyddiadau benderfynu rhoi’r gorau i drefnu’r ŵyl yn 2015 roedd pryderon eto y byddai’n dod i ben.
Ond daeth y gymuned leol, gan gynnwys Lynne a Roger a Chlwb Jazz Brecon, i’r adwy a chymryd yr awenau.
Er gwaetha’r anawsterau - a chlec ariannol Covid - mae wedi goroesi.
Mae hefyd wedi esblygu gan fynd yn ôl i'w gwreiddiau - yn llai ac yn cael ei rheoli gan y gymuned.
Tydi pethau ddim yn hawdd. Er bod ‘na gefnogaeth ariannol, mae llai o nawdd - er enghraifft mae’r trefnwyr yn derbyn rhwng £10-15,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru o’i gymharu gyda £125,000 ddegawd yn ôl.
Bellach mae’n digwydd dros dri phenwythnos - o 4 Awst ymlaen eleni - yn hytrach nag un penwythnos hir, ac mae’r cynnwys wedi newid.
“Mae mwy o wyliau a mwy o glybiau, felly llai o resymau i ddod i Aberhonddu am dair noson,” meddai Lynne. “Felly mi ryda ni rŵan yn dod o hyd i artistiaid sy’n llai adnabyddus ond yn wirioneddol wych ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw, felly mae pobl yn dod i Aberhonddu i ddod o hyd i enwau jazz newydd.”
Y dyfodol
Yn ôl y trefnwyr, mae'r enw ‘Brecon Jazz’ yn adnabyddus iawn i bobl sy’n ymwneud â’r byd jazz yn Ewrop ac UDA ac mae tua 80% o’r bobl sy’n ymweld â’u gwefan yn dod o ochr arall i Fôr yr Iwerydd.
A rhan o’r rheswm dros y llwyddiant ydi rhywbeth wnaiff ddim newid, sy'n gwneud y trefnwyr yn hyderus i'r dyfodol.
Meddai Roger: "Mae gwyliau i'w wneud efo lleoliad, nid yn unig y pethau sy'n digwydd yno.
"Mae'n anodd rhoi bys arno ond mae'n ŵyl mewn tref fechan lle dydi rhywun ddim yn gweld y math yma o beth, ac mae o mewn safle gwyrdd.
"Mae i gyd i wneud efo’r lleoliad, ac os oes yna lefydd lle mae pobl yn gallu perfformio a lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus, a digon o amrywiaeth.
"Tydi o ddim yn rhywbeth mae rhywun yn gallu ei adeiladu a’i greu.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2023