Mess ar y Maes: "wedi newid fy mherthynas â Chymreictod"

  • Cyhoeddwyd

Fel arfer mae colegau a phrifysgolion yn dawel iawn dros yr haf, ond mae un ystafell yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru sy’n llawn bwrlwm, canu a chwerthin.

Ffynhonnell y llun, Nick Allsop

Mae criw o chwe myfyriwr yn brysur yn ymarfer sioe gerdd gomedi newydd o’r enw Mess ar y Maes. Mae’r sioe yn ganlyniad i fodiwl cydweithredol a astudiwyd gan y myfyrwyr yn ystod eu blwyddyn gyntaf.

Mae’n amlwg bod y criw yma wedi cydweithio’n dda gan fod y sioe ar fin cael ei pherfformio yng Nghaffi Maes B ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon.

Aeth BBC Cymru Fyw i siarad â rhai o’r myfyrwyr yn ystod eu hymarferion.

Dywedodd Rebecca Timbrell wrthym am y sioe.

“Mae ‘Mess ar y Maes’ amdano Mari, merch prif weithredwr yr Eisteddfod, a ma rhaid iddi hi gymryd drosto’ fel y prif weithredwr am yr wythnos. Yn ystod y sioe da ni’n cwrdd â chymeriadau stereotypical, da ni’n gweld yn yr Eisteddfod ac yng Nghymru a da ni’n mynd ar daith bersonol Mari gyda’i Chymreictod.”

Ffynhonnell y llun, Nick Allsop
Disgrifiad o’r llun,

Rebecca Timbrell sy'n actio rhan Mari

Rebecca sy’n chwarae rhan Mari, ond mae hi hefyd yn un o chwe awdur y darn. Sut wnaethon nhw benderfynu ar syniad ar gyfer y sioe?

“O'n ni’n sôn am byncie gwahanol ni gyd yn gallu uniaethu gyda. 'Naethon ni ddod ar draws yr Eisteddfod fel syniad. Gaethon ni lot o sgyrsie gwahanol a gwrthwynebol weithie, ac o'n ni jyst 'di ffeindio bo' fe’n pwnc rili addas i ni fel grŵp.

“O’n i byth 'di mynd i’r Steddfod o’r blaen heblaw am unwaith pan odd e yn Llanelli. Mae rhai o merched arall y dosbarth yn cystadlu pob blwyddyn, yn mynd i gymdeithasu a mynd i Maes B. Ond pryd o'n ni’n cal y sgrysie yna o’n i ddim yn gwybod unrhyw beth so o'n i 'di dysgu lot yn enwedig am yr ochr gymdeithasol.”

Ffynhonnell y llun, Nick Allsop
Disgrifiad o’r llun,

Glain Llwyd yn perfformio rhan 'Erin'

Dwy oedd ddim angen llawer o berswâd i ddewis yr Eisteddfod fel thema oedd Glain Llwyd a Gwenan Mars. Dywedodd Glain:

“Profiad fi gyda'r Eisteddfod yw diwylliant Cymraeg, lot i wneud â’r gerddoriaeth, gwylio bands Cymraeg, darganfod cerddoriaeth newydd Cymraeg, a chymdeithasu. Dwi wastad ‘di neud hynna. “

Ac mae’n amlwg bo’r Eisteddfod yn rhan bwysig o fywyd Gwenan hefyd.

Disgrifiad,

Sgwrs gyda chast Mess ar y Maes

“Dwi jyst yn caru’r Eisteddfod. Dwi ‘di bod yn mynd ers o’n i’n fach hefo 'nheulu yn y garafan am wsos gyfan. A dwi ‘di bod yn cystadlu ers o’n i yn yr ysgol gynradd. Mae jyst yn neis bod yn rhan o ddathliad Cymreictod.”

Mae profiadau y ddwy wedi ysbrydoli'r cymeriadau maen nhw’n eu chwarae hefyd. Mae Gwenan yn chwarae rhan Linda, sy’n fam Eisteddfod draddodiadol tra bod Glain yn chwarae rhan Erin, merch ifanc sydd ag obsesiwn â bandiau Cymraeg.

Mae’r ddau gymeriad yn cael effaith fawr ar daith Mari wrth iddi geisio darganfod os yw’n perthyn i fyd yr Eisteddfod neu os oes lle iddi yna o gwbl. Mae Gwenan yn amlwg yn teimlo ei bod hi’n perthyn i fyd yr Eisteddfod, ond ydy hi’n meddwl bo’r ŵyl i bawb?

Ffynhonnell y llun, Nick Allsop
Disgrifiad o’r llun,

Gwenan sy'n portreadu 'Linda' sy'n dipyn o 'fam Steddfod'

“Yn sicr. Ti’n gallu bod yn ffarmwr sy’n joio’r steddfod , neu rhywun sy’ ddim o Gymru, ti’n gallu bod yn ddysgwr, neu siaradwr Cymraeg.

Mae Glain yn cytuno. “Dwi’n meddwl ma just clywed profiadau gwahanol fi a Gwenan am be ni’n mwynhau a be ni’n neud yn yr Eisteddfod yn profi bod e i bawb.’

Disgrifiad o’r llun,

Sara Lloyd sy'n cyfarwyddo'r sioe

A beth am Rebecca sy’n chwarae rhan Mari?

“Dwi’n meddwl weithie mae’n teimlo’n exclusive, ond fi’n credu mae fe lan i ni fel Cymry i rili gweithio ein ffordd trwy hwnna a hefyd i fod yn gyffyrddus hefo’n hunain, hefo’n cymreictod ein hun, a wedyn ni’n cael ein derbyn. Mae e mwy o mindset o exclusivity, yn lle unrhyw un yn neud unrhyw beth. Ydy, mae’r Eisteddfod i bawb ond mae e lan i ni i sylweddoli hynna.”

Ffynhonnell y llun, Nick Allsop
Disgrifiad o’r llun,

Gwenan, gyda dwy aelod arall o'r cast – Ela a Fflur

Ydy perthynas Rebecca â’r brifwyl wedi newid o ganlyniad i weithio ar y sioe yma?

“Ma perthynas fi yn bersonol ‘di newid gyda’r Eisteddfod ac, i fod yn onest, Cymreictod yn gyffredinol. Ar ôl gweld sut mae’r merched arall yn rili caru’r steddfod, o’n ni arfer bod bach yn ‘it’s not that deep’. Ond ar ôl cael y profiad o fynd i Eisteddfod yr Urdd, odd hwnna’n ffantastig, a nes i fynd i Tafwyl a wnes i rili fwynhau. Fi’n credu y gymuned Gymrag 'na, unweth ti ynddo fe, ti methu gadael.”

Disgrifiad o’r llun,

Y cast

Mae ‘Mess ar y Maes’ wedi cael ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Anna Likeman, Ela Vaughan, Fflur Llewelyn, Glain Llwyd, Gwenan Mars, a Rebecca Timbrell. Sara Lloyd yw cyfawyddwr y sioe a Christopher Fossey yw’r Cyfarwyddwr Cerdd. Gallwch weld y sioe ar Nos Lun 5ed a Nos Fawrth 7ed am 7yh yng Nghaffi Maes B.