Pum munud gyda Bardd y Mis: Lowri Hedd Vaughan

Lowri Hedd VaughanFfynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till
  • Cyhoeddwyd

Un o Ynys Môn yw Bardd y Mis Radio Cymru fis Awst.

Mae Lowri Hedd Vaughan, sy'n dod o Fodffordd, yn 38 mlwydd oed ac yn fam sengl i dri o blant, ac yn nain i un.

Gan ddisgrifio ei hun fel “bregus, balch, doeth a dwl” dywedodd ei bod wedi “anghofio sut i fod yn greadigol am dros 15 mlynedd ar ôl dod yn fam yn fy arddegau”.

Collodd ffrind agos iddi yn ei hugeiniau, a daeth y geiriau yn ôl i’w helpu i ddelio gyda’i galar, meddai.

Rwyt ti wedi dweud i ti golli’r awen greadigol am 15 mlynedd. Beth wnaeth dy ysgogi i ail-gydio mewn barddoni?

O’n i’n berson ifanc eitha’ creadigol; yn y clwb drama, cerddoriaeth, drama a chanu a wedyn ddois i’n fam pan o’n i’n 16. Ac yn yr holl storom yna, nes i ganolbwyntio’n llwyr ar fagu plentyn a gadael fynd o unrhyw beth arall oedd wedi bod yn rhan o ’mywyd i tan hynny.

’Naeth hynny jyst dod yn ffordd o fyw am amser hir iawn. Gofalu amdanyn nhw, trio mynd yn ôl i’r ysgol, trio mynd yn ôl i astudio, trio dechrau gyrfa. Dyna oedd y flaenoriaeth.

'Oedd creadigrwydd yn teimlo fel rhyw fflwff ar yr ochrau; rhywbeth ’sa yn neis ei gael ella, ond ddim yn flaenoriaeth ar y pryd.

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan geiriaugwain

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan geiriaugwain

Yna, ar ddiwedd fy ugeiniau ’nes i golli ffrind ysgol agos iawn. Ar ôl hynny, ’nes i eistedd ac ysgrifennu rhyw bwt o gerdd bach i gofio amdano fo. A hwnnw oedd y tro cynta’ i mi eistedd i lawr a sgwennu, dw i’n meddwl, ers i mi fod yn yr ysgol.

’Nes i’m wir meddwl llawer o hynny ar y pryd ond yn ara’ deg mi ddaeth yr ysfa ’ma i chwarae efo geiriau yn ôl. O’n i’n ffendio’n hun yn llenwi nodiadau llais ar fy ffôn neu’n llenwi llyfrau sgwennu efo syniadau bach.

Yna, dros amser dechrau eu rhannu efo ambell berson ac ambell berson yn dweud “Arglwydd, mae rhein reit dda! Rhaid chdi eu rhannu nhw”.

Wedyn, yn tua 2018/19 nes i greu tudalen Instagram [i rannu fy ngwaith].

Ffynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till

Mae dy ddiddordebau yn cyfrannu’n helaeth at y math o waith ti’n ei greu. Faint o ysbrydoliaeth ydi byd natur i dy waith?

Byd natur ydy ’nghapel i. Mae byd natur yn rhywbeth dw i wedi dod i’w werthfawrogi fwy wrth fynd yn hŷn. Dw i’n teimlo cysur mawr o fod ym myd natur. Mae ’ngyrfa i wedi symud i’r cyfeiriad hwnnw hefyd yn y blynyddoedd diwetha.

Mae crwydro a dod i ’nabod fy nghynefin, dod i ’nabod Eryri a Môn yn adloniant diddiwedd.

Rwyt ti’n mwynhau dringo, nofio gwyllt, a mynydda. Sut mae rhain yn dy helpu o ran iechyd a lles?

Fuodd ’na gyfnod hir yn fy mywyd i, heb i mi wir sylwi tan sbïo’n ôl, lle fues i’n isel iawn ac wedi dadgysylltu o’r byd.

Mae’n rhyfeddol o beth os ti’n gallu defnyddio dy gorff ym myd natur. Mae gwyddoniaeth wedi profi pa mor llesol ydi hynny i ni gyd – i’r galon, meddwl, corff, ysbryd, bob dim.

Ffynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till

Rwyt ti’n troi dy law at sawl cyfrwng o greu. Oes un rwyt ti’n ei ffafrio dros y llall?

Y geiriau sy’n dod amlaf a fwya’ rhwydd i raddau. Dw i yn mwynhau ffotograffiaeth. Ond y geiriau yn sicr sy’n teimlo fwyaf fel fi. ’Chydig bach o arbrofi ydi’r delweddau a’r creu ffilmiau.

’Nes i greu ffilm bach llynedd fel comisiwn i Celf Ar Y Cyd oedd yn [brofiad] gwych. Eistedd efo cerdd a wedyn meddwl am ddelweddau i gyd fynd, a’u plethu nhw efo’i gilydd.

Gobeithio ga’i amser i wneud mwy.

Disgrifiad,

Llanw rhyfeddol – ffilm a cherdd gomisiwn i Celf ar y Cyd gan fardd y mis, Lowri Hedd Vaughan

Mae cynaliadwyedd a byw yn wyrdd yn bwysig iawn i ti. Es di ar wyliau i’r Eidal ar y trên yn ddiweddar. Be’ fyddai dy neges di i bobl eraill sydd eisiau byw’n wyrdd?

Dw i’n gwerthfawrogi’n llwyr ei fod o’n fwy o waith, mae o’n fwy o arian a dw i’n cydnabod ei fod o’n fraint ’mod i wedi medru gwneud hynny.

Dw i’n gwybod dydi o ddim o fewn cyrraedd pawb. Os ydy pobl angen gwyliau, maen nhw’n gorfod ffendio’r ffordd rataf o’i wneud o.

Oedd o’r tro cyntaf i mi fynd ar wyliau mewn blynyddoedd. O’n i wedi safio am sbelan i fynd.

Dw i’n meddwl oni bai bod rhai ohonon ni’n fodlon cymryd y camau ’ma er mwyn cynyddu’r galw am wasanaethau trenau gwell... mwya’n byd ’dan ni’n eu defnyddio nhw, rhata’n byd y down nhw mewn amser.

Heb drio bod yn ferthyr na dim byd felly, mae’n teimlo fel y peth iawn i fi ’neud. Ond dw i’n parchu’n llwyr bod rhaid i bobl wneud beth sy’n iawn iddyn nhw a’u teuluoedd.

Ffynhonnell y llun, Cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Lowri gyda'i mab Gruff ar wyliau gwyrdd yn Yr Eidal

Beth wyt ti’n edrych ymlaen amdano fwyaf fel Bardd y Mis?

Beth sy’n grêt ydi cael y terfyn amser ’ma. Mae gen i gymaint o weithiau ar eu hanner, a hanner syniadau a petha’. Mae cael rheswm a’r wmff ’na i eistedd lawr a golygu petha’ a gwau darnau gwahanol at ei gilydd yn werthfawr iawn.

Beth sydd ar y gweill gen ti a dy obeithion di at y dyfodol dros y misoedd nesa’?

Fues i ar gwrs comedi llynedd yn edrych ar sawl agwedd o gomedi. ’Swn i byth isio perfformio felly ’mond sgwennu.

Fues i ar gwrs yn Nhŷ Newydd ynglŷn â sgwennu am yr argyfwng hinsawdd oedd yn sôn am pa mor bwysig ydi dod â’r themâu a datrysiadau i’r ffordd o fyw sydd angen digwydd er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a sut ’dan ni’n prif-ffrydio rheina.

Sut mae dod â pethau fel trwsio dillad neu fenthyg offer garddio i ymwybod mwy cyffredinol y boblogaeth. A nes i feddwl, mae comedi yn ffordd dda o wneud hynny.

Dw i’n perthyn i wahanol gymunedau o ddiddordeb [i’r pwnc], a dw i’n gweld y digri, a’r dwl, a’r doeth ynddo fo i gyd. Mae o’n bwll dyfn o ran digrifwch – tyfu bwyd a sut mae pobl yn trio creu bywyd mwy syml ac ysbrydol.

Mae ’na sgerbwd yna felly mi fydda i’n trio cario ’mlaen i ddatblygu hwnna a dod i ’nabod y diwydiant achos ’sgen i’m syniad pwy na be' na lle i fynd â’r math yma o beth.

Pynciau cysylltiedig