Cartrefi gofal yn 'dibynnu' ar weithwyr tramor
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion cartref gofal wedi dweud na allan nhw ymdopi heb gyflogi gweithwyr tramor.
Dywed Lakshmy a Philip Pengelly, sy’n berchen ar Gartref Gofal Ashley Court yn Llanelli, eu bod wedi cael eu gorfodi i gwtogi ar nifer y bobl oedd yn derbyn gofal yn eu cartrefi oherwydd problemau staffio – nes iddyn nhw ddechrau recriwtio o du hwnt i'r Deyrnas Unedig.
Yng nghanol etholiad lle mae cymaint o ddadlau ac anghytuno dros fewnfudo, mae llawer yn y sector gofal yn dweud eu bod yn dod yn fwyfwy dibynnol ar weithwyr o wledydd fel India, Sri Lanka a Nigeria.
Ond wrth i ddegau o filoedd o weithwyr gyrraedd y DU, mae rhybudd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol Nyrsio fod perygl i rai cartrefi gymryd mantais o weithwyr tramor.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod lles deiliaid fisa "yn bwysig iawn” a'u bod yn targedu cartrefi sy'n "ecsploetio" gweithwyr tramor.
Yn 2022 fe wnaeth Llywodraeth y DU ymestyn yr hawl i weithwyr gofal tramor gael gwneud cais am fisa gweithwyr medrus, mewn ymgais i fynd i’r afael â’r prinder staff mwyaf erioed yn y sector gofal.
Roedd yn golygu y gallai gweithwyr cartrefi gofal, fel Mr a Mrs Pengelly, noddi gweithwyr tramor a dod â nhw i'r DU.
“Cyn hynny, pan oedden ni'n rhoi hysbysebion swyddi allan, byddai dim ond ychydig, neu dim o gwbl yn ymgeisio,” meddai Mrs Pengelly.
“Ar un adeg roedd yn rhaid i ni roi’r gorau i dderbyn cleifion. Fe wnaethon ni gapio [nifer y gwelyau] oherwydd doedd gennym ni ddim digon o staff.”
Fel eraill yn y diwydiant, dywedodd y cwpl fod Covid wedi atal llawer o bobl rhag gwneud cais.
“Fe wnaethon ni ddarganfod fod pobl yn gadael y diwydiant yn llwyr - ddim eisiau gweithio ym maes gofal cymdeithasol bellach,” meddai Mrs Pengelly.
Mae'r cwpl bellach wedi recriwtio chwe aelod newydd o staff o Zimbabwe, Sri Lanka ac India.
'Trigolion yn dysgu Cymraeg i fi'
Prospa Mbwera, 37, o Zimbabwe, oedd y cyntaf i gyrraedd cartref gofal y cwpl yn Llanelli yn 2022.
“Fi a fy ngwraig, roedden ni wastad eisiau dod yma, dyna oedd ein breuddwyd erioed. Pan welson ni’r cyfle, roedd yn rhaid i ni fachu arno,” meddai.
“Dyma’r tro cyntaf i mi adael fy ngwlad enedigol.”
Roedd Mr Mbwera wedi bod yn gweithio fel gofalwr cyn cyrraedd y DU, ond dywedodd bod yn rhaid iddo addasu i ddiwylliant Prydeinig a Chymreig.
“Mae rhai o’r trigolion yn dysgu fi i siarad Cymraeg,” meddai.
“I wneud y swydd hon mae angen i chi gael calon garedig. Allwch chi ddim gofalu am rywun os nad ydych yn garedig.”
Rhwng 2022 a 2023 fe dderbyniodd dros 78,000 o weithwyr tramor fisa tymor hir i weithio yn y diwydiant gofal, ar adeg pan oedd ffigyrau mewnfudo yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed.
Ond mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ofni bod y rheolau fisa newydd wedi rhoi llawer o weithwyr mudol mewn perygl o gael eu hecsbloetio - er bod y sector bellach yn ''ddibynnol" ar weithwyr tramor.
'Neb yn gwirio staff'
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol RCN Cymru, Helen Whyley: “Ar draws y DU rydym wedi cael enghreifftiau gan aelodau yn cysylltu â ni ac yn dweud eu bod wedi dod yma ar gontract â chyflog isel iawn, neu gontract sy’n golygu bod yn rhaid iddyn nhw aros am amser hir, neu dalu ffioedd yn ôl, ac amrywiol bethau eraill.
"Hefyd mae yna bethau fel llety gwael pan maen nhw'n dod yma. Mae'r cynllun wedi creu rhai gwendidau.
"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyflogwyr sy'n noddi pobl i ddod yma yn mynd i roi cynnig da iawn iddyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn eu gwerthfawrogi."
Dywedodd Mr a Mrs Pengelly, yn y 18 mis ers i Prospa a'r gweithwyr eraill ddod i'r DU, nad oedd y Swyddfa Gartref wedi bod yno i'w gweld.
“Dydyn ni ddim wedi cael archwiliad gan unrhyw un,” meddai Mrs Pengelly.
“Mae yna broses lle gallwch chi fewngofnodi i'ch cyfrif [cyfrif noddi'r Swyddfa Gartref].
"Os yw'r gweithiwr wedi symud swydd i rywle arall, neu os yw wedi gadael ac wedi penderfynu mynd i rywle arall, rydyn ni'n gallu diweddaru hynny.
“Ond does neb byth yn dilyn hynny i fyny gyda galwad na dim felly, nid hyd heddiw beth bynnag.”
Dywedodd Prospa Mbwera ei fod wedi clywed straeon am rai gweithwyr yn cael eu hecsbloetio, ond fod hynny yn ei wneud yn ddiolchgar am ei sefyllfa a'i brofiad ei hun.
“Rwyf wedi gweld hynny ar y newyddion ac ar y we - pobl sydd wedi mynd trwy hynny.
"Mewn gwirionedd cefais fy synnu, oherwydd roeddwn i'n meddwl bod yr holl bobl a ddaeth yma wedi cael yr un profiad â fy un i.
"Oherwydd i mi, dim ond cyfnod pontio bach ges i. Wnes i dalu dim i ddod yma."
Dywedodd y Swyddfa Gartref bod lles deiliaid fisa "yn bwysig iawn” a’u bod wedi atal dros 200 o bobl rhag bod yn noddwyr ym maes gofal cymdeithasol i oedolion.
Beth yw barn y pleidiau ar fewnfudo a dyfodol cartrefi gofal?
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur y byddai Llywodraeth Lafur yn "datblygu cynlluniau gweithlu" ar gyfer sectorau, fel gofal cymdeithasol, sydd wedi bod yn ddibynnol ar weithwyr tramor.
“O dan Lafur, bydd polisi mudo yn gysylltiedig â pholisi sgiliau, fel bod mewnfudo sy'n cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â phrinder sgiliau yn sbarduno cynllun i uwchsgilio gweithwyr y DU a gwella ansawdd swyddi.”
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, "esgeulustod y Ceidwadwyr" sy'n gyfrifol am broblemau ein cartrefi gofal.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod "wedi ymrwymo i'w gwneud hi'n haws recriwtio gweithwyr o Brydain i lenwi'r swyddi gwag hyn, gan gynnwys ein galwad am Isafswm Cyflog i Ofalwyr".
Yn ôl Plaid Cymru, mae safbwynt y Ceidwadwyr ar fudo yn rhoi "bywydau pobl yn y fantol".
Dywedodd llefarydd fod "Plaid Cymru yn cefnogi’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, beth bynnag fo’u gwlad wreiddiol".
"Yn lle pardduo pobl am beidio â chael eu geni yng Nghymru nac yn y DU, dylem gydnabod a gwerthfawrogi eu cyfraniad i’n cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus, ac economi Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK fod y blaid yn cydnabod y “rôl hollbwysig” mae gweithwyr gofal yn ei chwarae wrth gefnogi gofal iechyd a materion gyda staffio.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n credu bod y ddibyniaeth ar weithwyr mudol yn symptom o faterion ehangach o fewn y sector gofal a pholisi mewnfudo,” meddai.
"Polisi Reform UK yw rhewi mewnfudo sydd ddim yn hanfodol i leddfu'r pwysau ar dai, gwasanaethau cyhoeddus a chyflogau."
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am sylw gan y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur.