Gething eisiau 'dechrau newydd' wedi'r bleidlais
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog Vaughan Gething wedi dweud ei fod eisiau "dechrau newydd" ar ôl iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd.
Dridiau ar ôl i fwyafrif o aelodau'r Senedd bleidleisio yn ei erbyn, dywedodd Mr Gething na fyddai'n ymddiswyddo.
Dywedodd y prif weinidog "na fyddai'n anwybyddu'r bleidlais," ond roedd yn cwestiynu'r broses, gyda dau aelod Llafur yn absennol ac yn colli'r bleidlais oherwydd salwch.
Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi galw ar y prif weinidog i ymddiswyddo.
'Beth yw'r peth cywir i wneud i fy ngwlad?'
Dywed Mr Gething, a oedd allan yn ymgyrchu yn ne Cymru, fod y bleidlais yn "gyfle gwleidyddol mewn etholiad cyffredinol".
Pan gafodd ei holi a fyddai'n ymddiswyddo, dywedodd, "Na."
"Os ydym yn parhau ac yn ffeindio ffordd i gael cychwyn newydd, yna dyna'r hyn mae gen i ddiddordeb yn ei wneud."
Daw ei sylwadau wedi i aelod Llafur o'r Senedd, Jenny Rathbone, ddweud fod dyfodol y prif weinidog yn edrych yn "ansicr iawn" yn dilyn y bleidlais, gan ychwanegu fod "enw da y Senedd yn y fantol " o ganlyniad i'r cwestiynau sydd wedi codi ynghylch y rhodd ariannol o £200,000 i ymgyrch arweinyddol Mr Gething gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.
Dywed Mr Gething, fod y blaid angen cael "sgyrsiau lle y maen nhw'n gallu ymddiried" yn ei gilydd.
"Dwi'n gwybod ei fod yn anodd i bobl yn fy mhlaid, mae wedi bod yn anodd i fi ac i fy nheulu, ond mae'n rhaid i mi feddwl beth yw'r peth cywir i wneud i fy ngwlad."
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Fe wnaeth hefyd wadu fod y penderfyniad i barhau fel prif weinidog yn tanseilio’r Senedd, gan ddweud fod penderfyniad y gwrthbleidiau i beidio â chaniatáu i broses ‘baru’ roi cyfri i'r ddau aelod Llafur oedd yn sâl yn “torri confensiwn arferol” .
"Dwi ddim yn anwybyddu'r bleidlais. Ond dwi'n sylwi, roedd proses ffurfiol i'w dilyn, ac nid dyna oedd y dewis a gafodd ei wneud."
Nid oes gan Lafur fwyafrif yn y Senedd. Fe allen nhw wynebu heriau wrth geisio pasio cynlluniau ariannol a chyfreithiol os yw'r gwrthbleidiau yn penderfynu peidio cydymffurfio.
Dywed Mr Gething: "Mae yna ddewis os all y wlad weithredu, os all y llywodraeth weithredu, os all y Senedd weithredu. A ydym ni'n barod i roi stop ar y sefydliad yn sgil gwleidyddiaeth yr Etholiad Cyffredinol? Dwi ddim yn meddai mai dyna'r peth gorau i wneud."
Dywed aelod Ceidwadol o'r Senedd ar gyfer De Orllewin Cymru, Tom Giffard: "Dwi'n meddwl fod Vaughan Gething yn haerllug i anwybyddu'r hyn y mae'r Senedd wedi dweud wrtho, beth mae pobl Cymru yn trio dweud wrtho, gan barhau yn ei rôl ar ôl colli pleidlais o ddiffyg hyder."
Aeth ymlaen i ddweud mai'r "hyn sy'n glir, yw bod y grŵp Llafur yn rhai gwan a rhanedig, gyda phrif weinidog sy'n methu rheoli'r grŵp. O ganlyniad ry' ni methu cael dim wedi ei wneud, methu pasio unrhyw ddeddfau.
"Mae 'na ddwy ffordd y gallwn dorri hyn. Un ai mae'n rhaid i Vaughan Gething ymddiswyddo, neu dylwn alw etholiad Seneddol."
Er hyn dywed Mr Giffard nad yw'r Ceidwadwyr wedi diystyru cydweithio gyda Mr Gething yn y dyfodol.
"Wrth sôn am basio cyllideb, mae ein ffôn wastad ymlaen."
"Dwi'n meddwl ei fod yn annhebygol y byddwn yn gweithio - hyd yn oed ffeindio ffrae - ar ran fwyaf o faterion. Ond, rydym yma, rydym o hyd yn hapus i weithio er lles pobl Cymru."
Fe wnaeth AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, gyhuddo Vaughan Gething o ymddwyn â "dirmyg" tuag at y Senedd.
"Mae'r Senedd yn pleidleisio am ei phrif weinidog, a'r tro hwn mae'r prif weinidog wedi colli'r bleidlais o ddiffyg hyder, ac felly dylai barchu hynny.
"Mae'r ffaith ei fod yn gwrthod camu lawr fel prif weinidog yn dangos dirmyg i'r Senedd ac i bobl Cymru ac y dylai ystyried ei safle."
Er hyn, dywedodd Mr ap Gwynfor y byddai Plaid Cymru hefyd yn ystyried cydweithio gyda'r llywodraeth Lafur "o dro i dro" er mwyn pasio cyllidebau a chyfreithiau.