Oedi cyn angladdau yn 'hunllefus' i deuluoedd

Rhys Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r drefn newydd i fedru cyhoeddi tystysgrif marwolaeth yn gallu cymryd hyd at dair wythnos meddai Rhys Lewis

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgymerwr angladdau o Geredigion wedi disgrifio'r oedi cyn cyhoeddi tystysgrif marwolaeth fel un "hunllefus" i deuluoedd.

Yn ôl Rhys Price, mae'r drefn newydd i fedru cyhoeddi tystysgrif marwolaeth yn gallu cymryd hyd at dair wythnos, sy'n golygu bod angladd, ar ôl aros am y gwaith papur angenrheidiol, yn gallu cymryd hyd at fis i gael ei gynnal.

Mae'r drefn newydd yn golygu fod pob marwolaeth na fuodd yn rhan o ymchwiliad gan grwner bellach yn cael ei hadolygu'n annibynnol gan archwiliwr meddygol cyn cyhoeddi tystysgrif marwolaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymddiheuro am yr oedi, gan ychwanegu fod y drefn newydd wedi'i gynllunio i gryfhau mesurau diogelu i deuluoedd, ac y "gallai gymryd peth amser i'r rhain ymsefydlu'n llawn".

O dan y system newydd, a gyflwynwyd ar 9 Medi 2024, nid yw meddygon teulu bellach yn cyhoeddi tystysgrifau marwolaeth yn annibynnol.

Ar ôl i feddyg gwblhau tystysgrif feddygol o achos marwolaeth, mae archwiliwr meddygol annibynnol yn ei hadolygu.

Yn ôl Rhys Price o Ymgymerwyr Angladdau Gwilym C. Price ei Fab a'i Ferched yn Llanbedr Pont Steffan, mae'r drefn newydd yn achosi oedi ac ansicrwydd.

"Ni'n gorfod aros tair wythnos dim ond i gael y gwaith papur cyn bo ni'n gallu trefnu angladd. Mae mis yn mynd cyn gwneud yr angladd," meddai.

"Dyw e ddim yn deg i deuluoedd achos does dim sicrwydd gyda nhw, mae'r peth yn hongian drostyn nhw am lan i fis.

"O'r blaen, o fewn wythnos, roedd y cyfan wedi darfod. Mae'r system yn warthus."

'Dyw hyn ddim yn gyfiawnder'

Oherwydd yr holl oedi, mae Rhys yn dweud fod rhai teuluoedd yn colli'r cyfle i ffarwelio â'u hanwyliaid am y tro olaf.

"O'r blaen, roedd wythnos yn mynd a bydden i'n cael y person nôl, paratoi nhw, ac ro'dd y teulu yn gallu dod i'w gweld nhw" meddai.

"Amser ti'n meddwl bod tair gwaith yr amser yn gallu mynd nawr, dyw e ddim yn deg. Mae'r corff falle ddim mewn cyflwr da a mae e wedi mynd yn rhy bell i ni wneud unrhywbeth.

"Ma' lot o bobl yn colli'r cyfle i weld rhywun am y tro diwethaf... Shwt ma' hwnna yn mynd i chwarae ar eu meddyliau nhw, am gweddill eu hoes nhw?"

 hithau'n fis Chwefror, mae'n dweud mai dim ond dal i fyny mae'r cwmni â gwaith oedd gyda nhw cyn y Nadolig.

"Mae e'n system sydd fod i roi tawelwch meddwl a mae e'n rhoi hunllefau i bobl.

"Angladd yw'r peth diwethaf chi'n gallu gwneud i rywun, a mae pob teulu yn moyn gwneud cyfiawnder i'r person sydd wedi marw. Dyw hyn ddim yn gyfiawnder.

"Person yn cael ei gweld fel rhif arall ar bapur a dim fel unigolyn a cael y parch maen nhw'n haeddu."

Eileen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Archddeacon Eileen Davies bod y diffyg esboniad yn "peri gofid i deuluoedd"

Mae Archddeacon Aberteifi, Eileen Davies yn dweud bod y rhan fwyaf o wasanaethau angladdol mae hi wedi eu gwneud yn ddiweddar wedi cymryd hyd at fis i'w cynnal.

"Fel offeiriad mae rhywun yn ceisio bod yna wrth ochr teuluoedd a sicrhau fod yna gymorth iddyn nhw i fedru siarad am eu profiadau ar hyd yr amser yma, ond mae hyd yr amser yn sicr, yn amser hir iawn.

"Fi'n credu bod yr anwybodaeth yn sicr yn rywbeth sydd yn peri gofid i deuluoedd achos dydyn nhw ddim yn gwybod pam. Does 'na ddim esboniad wedi bod, pam?"

Mynwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y drefn newydd ei chyflwyno yn rhannol mewn ymateb i lofruddiaethau Harold Shipman

Ers clywed am yr oedi a'i effaith ar deuluoedd, mae'r Aelod Seneddol dros Geredigion Preseli, Ben Lake, wedi galw am newid.

Dywedodd bod y drefn newydd wedi "achosi oedi anffodus sydd yn ei dro'n codi cryn bryder i deuluoedd ar draws Gymru".

"Mae'n ffyddiog clywed bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r GIG i ddeall beth yw gwraidd yr oedi, a dwi'n erfyn arnynt i ddatblygu gweithdrefn i osgoi oedi diangen i deuluoedd sy'n galaru", ychwanegodd.

'Gweithio i ddeall lle mae'r oedi'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Hoffem ymddiheuro i unrhyw deulu sydd wedi profi oedi wrth dderbyn tystysgrifau marwolaeth, a'r effaith gallai hyn fod wedi cael wrth drefnu'r angladd.

"Mae'r newidiadau a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr i ddiwygio'r broses ardystio marwolaeth wedi'u cynllunio i gryfhau mesurau diogelu i deuluoedd ond fe all gymryd peth amser i'r rhain ymsefydlu'n llawn.

"Rydym yn gweithio gyda'r Archwiliwr Meddygol arweiniol a'r gwasanaeth iechyd i ddeall ble mae'r oedi, a sut y gellir darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd mewn profedigaeth ar adeg mor anodd."

Pynciau cysylltiedig