Y Seintiau drwodd i ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd wedi cyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar ôl curo FK Dečić yn y rownd gyntaf.
Cyfartal 1-1 oedd hi yn Podgorica, Montenegro nos Fawrth, ond roedd buddugoliaeth Y Seintiau o 3-0 yn y cymal cyntaf yn golygu eu bod wedi ennill o 4-1 ar gyfanswm goliau dros ddau gymal.
Rhoddodd Brad Young y Seintiau ar y blaen yn Stadion Pod Goricom gyda chic o'r smotyn ychydig funudau cyn diwedd yr hanner cyntaf.
Fe lwyddodd Dečić i unioni'r sgôr wedi 72 munud, wedi i gôl Kajević gael ei chymeradwyo gan VAR.
Bydd y Seintiau yn wynebu Ferencvaros o Hwngari yn yr ail rownd ragbrofol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024