Cantores opera yn troi at ofalu oherwydd diffyg gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae’r gantores opera Leah Marian Jones yn dweud ei bod wedi gorfod rhoi’r gorau i ganu fel proffesiwn am nad oes digon o waith iddi.
Mae'r Mezzo Soprano bellach wedi troi’n ofalwraig, gan honni bod cwmnïau opera yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn, a bod Brexit wedi chwarae rhan hefyd.
Wrth sgwrsio ar raglen Dros Frecwast, mae’n dweud nad oes galw am gantorion o Brydain dramor bellach oherwydd problemau fisa a bod hyd yn oed y rhai ieuengaf, sy’n rhatach i'w cyflogi, yn methu cael gwaith.
Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cwtogi eu perfformiadau y flwyddyn nesaf oherwydd toriadau yn eu cyllideb gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr.
Ond mae Ms Jones yn gofyn a oes ”unrhyw bwynt dysgu pobl, os nad oes unrhyw job iddyn nhw fynd iddi?"
"Mae’n wastraff arian iddyn nhw!”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru, eu bod “wedi gorfod gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol".
Maen nhw’n dweud eu bod yn “gorfod cymryd camau pellach er mwyn gwneud arbedion” ac, yn ogystal â’r cwtogi ar berfformiadau, maen nhw “wedi agor ffenestr diswyddo gwirfoddol ar gyfer ein cydweithwyr sy’n cyflawni swyddi nad ydynt yn rhai perfformio, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau ynghylch ail-negodi contractau gyda’n Cerddorfa a’n Corws er mwyn arbed costau".
“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gynorthwyo cydweithwyr drwy’r hyn rydym yn gwybod sy’n broses anodd, ond yn anffodus yn un anochel oherwydd ein sefyllfa ariannol a’r arbedion y mae angen i ni eu gwneud.”
Daeth aelodau o gorws a cherddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru i brotestio ar risiau’r Senedd ddydd Mawrth yn erbyn y cwtogi ariannol.
Yn ôl Philip Lloyd-Evans o gorws Cwmni Opera Cymru, mae’r toriadau o 35% gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac 11.8% gan Gyngor Celfyddydau Cymru, “am gael effaith anferth ar y cwmni wrth symud ymlaen".
“Mae’r toriadau anrheithiol hyn yn golygu na all eich Corws na’ch Cerddorfa weithredu’n amser llawn.
“Bydd y cymunedau ry’n ni’n eu cyrraedd yn llai, bydd y cynulleidfaoedd ry’n ni’n perfformio o’u blaenau’n llai a bydd dyfodol creu cerddoriaeth i’n plant yn llai o lawer.”
Mae Leah Marian Jones wedi ymddangos ar lwyfannau opera mawr y byd megis y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Cenedlaethol Lloegr, Opera Cenedlaethol yr Alban, Opera Gogledd Lloegr yn ogystal ag Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae hefyd wedi ymddangos yn Nhŷ Opera y Metropolitan yn Efrog Newydd ac Opera de Rennes ym Mharis.
Fe gyflwynodd rhaglen ei hun ar S4C ac mae wedi bod yn rhan o raglen ‘Diva, Diva, Diva’ gyda Lesley Garret ar y BBC.
Mae’n dweud nad yw’n cael cynnig yr un clyweliad erbyn hyn, ac mae bellach wedi cymryd gwaith fel gofalwraig yn ardal ei chartref yng Nghaerfaddon.
“Fi’n carer i hen bobl, cael nhw lan yn y bore, mynd a nhw i’r toiled a gwisgo nhw a bwydo nhw," meddai.
“Mae hynny gyda fi trwy’r dydd ac yna in between, fi’n 'neud speech therapy a fi’n rili joio hynny.
"Hefyd, mae rhai cymdogion wedi gofyn i fi beintio eu tai.”
Byddai’n hoff iawn o fedru mynd yn ôl i ganu, ond mae’n teimlo bod cwmnïau yn gwahaniaethu ar sail oedran.
“I fi, mae oedran yn mynd yn fy erbyn, er dwi ddim yn hen iawn - fi’n 60,” meddai.
“Mae digon o roles i gael i’n oedran i. Mae cantorion yn mynd 'mlaen i ganu yn eu 80au.
“Fi’n dechre meddwl am bo' fi’n siarad Cymraeg, ydi hynny rywbeth i neud ag e?
"Lle bynnag ewch chi mae pobl Cymraeg yn canu, ond yn ein gwlad ni, does dim llawer o Gymry Cymraeg yn cael eu dewis.
”Yr hyn fi’n glywed nawr yw fod pobl â dim llawer o funding, ac mae’n rhaid cael ‘diversity’ ar y llwyfan.
"Fair enough, does neb yn erbyn diversity, ond pam fod rhaid i diversity [olygu] fod pobl yn dod bant o'r llwyfan?”
Mae'r tenor Elgan Llŷr Thomas o Landudno yn poeni'n fawr am y diwydiant hefyd, ac yn dweud bod cantorion yn aml yn trafod y posibilrwydd o orfod cael swydd arall, neu swydd ychwanegol.
"Dwi'n ymarfer ar hyn o bryd ar gyfer The Barber of Seville yn Llundain efo Opera Holland Park, a 'da ni fwy neu lai pob dydd fel cast yn siarad am 'transferable skills' - be' arall 'da ni'n gallu g'neud," meddai ar Dros Frecwast.
"A'r gwirionedd ydy, nes i dreulio wyth mlynedd yn astudio a hyfforddi sut i 'neud y swydd yma - dyma dwi 'di arbenigo mewn gwneud a dyma dwi isio gwneud.
"Felly mae'n beth afiach gorfod ystyried y ffaith, ella fydda i'n gorfod cael swydd arall i lenwi amser rhwng contracts."
'Cyfnod hynod, hynod anodd'
Dywedodd ef hefyd bod Brexit wedi cael effaith fawr ar y diwydiant yn y DU gan ei bod hi bellach yn fwy anodd cael gwaith yn Ewrop.
"Dwi 'di bod yn ffodus hyn yn hyn - digon o gyfleoedd, digon o waith.
"Dwi'n brysur tan mis Hydref, wedyn yn edrych yn bellach ymlaen na hynny, mae'n edrych yn fwy pryderus.
"Mae'n gyfnod hynod, hynod anodd, a dim ots efo pwy dwi'n siarad - boed yn gantorion neu'n offerynwyr - mae pawb yn poeni am ddyfodol y busnes opera a cherddoriaeth glasurol."
Mae Leah Marian Jones yn credu mai arian sydd wrth wraidd y gwahaniaethu ar sail oedran.
“Y mwya' o brofiad sydd 'da chi, chi’n chargio mwy," meddai.
"Fi wedi bod yn siarad gyda phobl yr un oedran â fi, a dy'n ni ddim yn cael y fees o' ni’n arfer cael - mae’n rhaid i ni gymryd cut.
“Sai’n deall os yw’r cwmnïau yn deall bod ni’n fodlon cymryd cut, jyst bod ni’n gweithio ac yn joio canu.
"Wrth gwrs mae pobl ifanc yn fwy rhad. Sai’n gwybod os yw hynny rhywbeth i wneud ag e.
“Fi’n gweld lot o roles fyddai’n dod i fi - sef fy oedran i - ond maen nhw’n mynd i bobl ifanc. Maen nhw’n rhoi make-up arnyn nhw i edrych yn henach.”
Mae Ms Jones yn dweud bod yr ymdeimlad yn gyffredinol yn y byd canu opera yn un digalon iawn.
”Pob un chi’n siarad â, maen nhw wedi danto!
"Mae cymaint o cuts wedi dod nawr fel mae pawb yn gwybod gyda'r Welsh National Opera.
"Mae lot o’r corws yn dweud fod yn rhaid iddyn nhw ffeindio job arall, ar ôl bod yn y job am flynyddoedd mawr.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Ebrill