Ymddeoliad Archesgob: 'Trist colli un mor gefnogol i'r Gymraeg'

"Mae ei ymddeoliad yn dristwch gan ei fod wedi bod mor llwyddiannus yn hybu lle'r Gymraeg yn yr eglwys," medd Dr Siôn Aled Owen
- Cyhoeddwyd
Ddeuddydd wedi i Archesgob Cymru gyhoeddi ei ymddeoliad dywed un a fu'n gweithio'n agos gydag Andy John bod ei "ymadawiad yn dristwch gan ei fod wedi bod mor gefnogol i'r Gymraeg oddi fewn yr Eglwys".
Mae Dr Siôn Aled Owen yn diwtor yn Athrofa Padarn Sant, canolfan sy'n hyfforddi offeiriadon ac mae wedi cydweithio'n agos â'r Archesgob yn Esgobaeth Bangor.
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul dywedodd Dr Owen ei fod yn cydnabod nad oedd modd i'r Archesgob osgoi derbyn cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd ond bod "cymryd cyfrifoldeb am bethau doedd e ddim yn uniongyrchol gyfrifol amdano ddim yn teimlo'n gwbl gyfiawn".
Fe ddaw ymddeoliad yr Archesgob Andy John ôl i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am Gadeirlan Bangor.
Roedd yr adroddiadau'n cynnwys cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.
Doedd yna ddim awgrym bod Mr John wedi camweithredu ac ef a gomisiynodd y ddau adroddiad.
Yn sgil yr adroddiadau fe gafodd grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio eu creu gan yr Eglwys yng Nghymru i fynd i'r afael â'r materion.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
"Mae ei ymddeoliad yn dristwch mawr oherwydd bod yr Archesgob Andy John wedi bod mor gefnogol a mor llwyddiannus yn hybu lle'r Gymraeg yn yr eglwys," meddai Dr Siôn Aled Owen.
"Dwi wedi gweld bob dim sydd wedi'i gynhyrchu a'i arddangos gan Esgobaeth Bangor - nid yn unig mae'r cynnyrch wedi bod yn ddwyieithog ond hefyd yn greadigol.
"Mae Andy John yn olyniaeth Gwilym Williams a Barry Morgan - dau arall a wnaeth hyrwyddo'r Gymraeg a Chymreictod o fewn yr Eglwys yng Nghymru."
'Angen ymchwiliad annibynnol ar frys'
Yn y cyfamser, mae Aelod Plaid Cymru o'r Senedd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ar frys.
Dywedodd Siân Gwenllian mewn datganiad ddydd Sadwrn fod angen "adolygiad cyhoeddus cwbl annibynnol ar frys - yn hytrach na phroses tu ôl i ddrysau caeedig - i archwilio'r hyn a aeth o'i le yng Nghadeirlan Bangor.".
Ymatebodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru drwy ddweud eu bod "mewn cyswllt gyda Siân Gwenllian ac wedi cynnig cwrdd â hi i drafod ei phryderon".

Mae'r Parchedig Enid Morgan yn dweud ei bod yn cydymdeimlo gydag Andy John
Dywedodd y Canon Enid Morgan o Aberystwyth, sydd bellach wedi ymddeol, bod "ei chydymdeimlad hi gydag Andy John".
"Os na'th e gamsyniad yn yr helynt yma, fydden i'n dweud mai rhoi rhywun dibrofiad mewn sefyllfa gyfrifol iawn.
"A fydden i'n holi i'r gadeirlan, gofyn i'r Cabidwl 'lle mae'ch cyfrifoldeb chi?'," meddai.
"Dwi wedi ymddeol ers 20 mlynedd ac wedi gweld sawl sgandal ond os oes gan offeiriadon broblem - yn enwedig rhai sydd wedi ymddeol fel fi - mindiwch eich busnes 'da chi neu os odych chi'n teimlo'n gryf am fater ewch at yr Archesgob yn breifat."
Pam aros ym Mangor tan ddiwedd Awst?
Nos Wener dywedodd Archesgob Cymru, Andy John, ei fod yn cyhoeddi ei ymddeoliad ar unwaith.
Bydd yn ymddeol fel Esgob Bangor ar 31 Awst.
Wrth i Andy John aros yn Esgob Bangor tan ddiwedd Awst mae modd i'r Uwch Esgob - yn yr achos yma Esgob Llanelwy, Gregory Cameron - allu galw y coleg ethol cyn diwedd Awst i ddewis olynydd o blith esgobion Cymru fel Archesgob.
Rhaid ethol o fewn deufis ond os oes esgobaeth yn wag rhaid oedi nes bod esgob ymhob esgobaeth.
Mae modd gwrando ar sylwadau Dr Dr Siôn Aled Owen a'r Parchedig Ganon Enid Morgan yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.