Cyhoeddi enwau'r pâr priod 'ffyddlon' fu farw mewn tŷ
![Heddlu tu allan i dy ar Morfa Crescent, Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/901/cpsprodpb/ac33/live/887a08d0-8558-11ef-83dd-fbf1b9732cf0.jpg)
Roedd swyddogion Heddlu'r De wedi canfod gwn reiffl a chi marw yn y tŷ hefyd
- Cyhoeddwyd
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r cwpl priod a fu farw mewn tŷ yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Roedd Christine Jefferies yn 72 oed, a'i gŵr Stephen Jefferies yn 74 oed.
Cafodd yr heddlu eu galw gan gymdogion pryderus i gartref y cwpl ym Morfa Cresccent, Trowbridge am tua 14:50 ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad fod y ddau wedi marw "yn sydyn" a'u bod wedi canfod gwn reiffl yn y tŷ.
Roedd May, ci sbaniel y pâr, wedi cael ei saethu’n farw.
Roedd Mr Jefferies, a oedd yn cael ei adnabod fel Jaffa, wedi ymddeol o’i waith fel weldiwr gyda Chyngor Caerdydd 10 mlynedd yn ôl.
Roedd yn ddyfarnwr rygbi adnabyddus ac fe fu’n asesu dyfarnwyr eraill ar gyfer Undeb Rygbi Cymru hefyd.
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau’r pâr priod wedi dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
'Pawb mewn sioc'
Dywedodd cymydog, a oedd yn adnabod y cwpl yn dda: “Mae pawb mewn sioc, roedden nhw'n gwpl hyfryd, wedi ymroi'n llwyr i'w gilydd.
“Yr hyn sydd wedi cynhyrfu pobl gymaint ag unrhyw beth arall yw bod eu cocker spaniel wedi’i ladd hefyd."
Mae Heddlu’r De wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd wrth i'r ymchwiliad barhau.
"Rydyn ni'n deall fod y digwyddiad yma wedi achosi sioc a thristwch i'r gymuned leol," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees.
Ychwanegodd bod "ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Christine a Stephen Jefferies ar yr adeg anodd hon.”
"Mae ymholiadau helaeth yn parhau wrth i ni sefydlu'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd ddydd Sadwrn."
Maen nhw hefyd yn aros am ganlyniadau archwiliadau post-mortem, fydd yn cadarnhau achos y farwolaeth.
Priod ers dros 50 mlynedd
Y gred yw fod gan y cwpl, a oedd wedi bod yn briod am fwy na 50 mlynedd, ddau o blant hŷn, mab a merch, yn byw yn lleol.
Roedd gan y pâr randir gerllaw lle roedden nhw'n tyfu eu llysiau eu hunain.
Dywedodd cymydog arall, nad oedd eisiau cael ei enwi: “Roedden nhw’n gwpl neis, tawel a oedd bob amser yn chwifio llaw wrth yrru heibio i mi yn eu fan.
"Cafodd Jaffa ei anafu tra’n chwarae rygbi pan oedd yn 20 oed ac fe ddechreuodd ddyfarnu ac yna daeth yn aseswr swyddogol yn edrych ar berfformiad dyfarnwyr eraill.
"Roedd meddwl uchel ohono yn y gêm, wnaeth e ond ymddeol tua phum mlynedd yn ôl. Bu'n gweithio i'r cyngor fel weldiwr yn trwsio llochesi bysiau ar draws y ddinas.
"Roedd fy mab yn y stryd pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys brynhawn Sadwrn, dywedodd bod heddlu ym mhobman."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024