Tân gwair mawr wedi bod yn llosgi ger Trawsfynydd

TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Myfyr Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Am hanner nos neithiwr roedd y fflamau'n 500 metr o led

  • Cyhoeddwyd

Mae tân gwair mawr ger Trawsfynydd yng Ngwynedd bellach wedi'i ddiffodd, ar ôl cynnau'n wreiddiol nos Sul.

Bu'r tân yn llosgi glaswellt ac eithin mewn ardal rhwng Bronaber a Thrawsfynydd, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw gyntaf am 22:18 nos Sul, ac erbyn hanner nos neithiwr roedd y fflamau'n 500 metr o led ac wedi llosgi ar draws sawl hectar o dir.

Roedd diffoddwyr yn monitro'r tân dros nos, ond roedden nhw eisoes wedi dweud eu bod yn disgwyl y byddai'r fflamau'n diffodd ddydd Mawrth.

Difrod TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Sian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod i'r tir wedi i'r fflamau gael eu diffodd