Chwilio am gi racŵn sydd â'i draed yn rhydd yng Ngwynedd

Dyma enghraifft o sut mae ci racŵn yn edrych
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith chwilio wedi cychwyn i ddod o hyd i anifail prin sydd â'i draed yn rhydd yng Ngwynedd.
Cafodd yr anifail - ci racŵn - ei weld ddiwethaf i'r de-ddwyrain o Lyn Tegid ger Y Bala ar 29 Ionawr, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae cŵn racŵn yn cael eu hystyried fel math ymledol anfrodorol a allai effeithio'n negyddol ar fyd natur.
Oherwydd hyn mae'n anghyfreithlon i'w gwerthu yn y DU ac mae'n ofynnol i'w cadw yn saff.
Y cyngor yw i bobl beidio â mynd yn agos at yr anifail ac i roi gwybod i CNC os ydyn nhw'n gweld yr anifail, boed yn "fyw neu'n farw".
Mae racŵn yn crwydro yn y gwyllt, felly y gred yw y gallai'r anifail gael ei weld mwy na wyth milltir o Lyn Tegid.
Dywedodd CNC: "Fel gydag unrhyw anifail, fe all eu hymddygiad fod yn anrhagweladwy ac ni ddylid mynd yn agos at yr anifail".