Defaid yn cael eu defnyddio i dorri gwair o gwmpas hen safle swyddfeydd

Defaid yn cadw'r gwair i lawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae defaid yn cadw'r glaswellt i lawr o amgylch adeiladau swyddfa adfeiliedig yn Llandrillo-yn-Rhos

  • Cyhoeddwyd

Mae cymdeithas dai wedi dod â blas o fywyd cefn gwlad i dref glan môr trwy ddefnyddio defaid i dorri glaswellt ar un o'u safleoedd.

Mae Cartrefi Conwy yn bwriadu adeiladu 48 o dai newydd ar hen safle swyddfeydd y llywodraeth yn Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn.

Yn y cyfamser, mae'n rhaid gwneud gwaith cynnal a chadw gan fod rhan fwyaf o'r safle pedair erw a hanner yn laswellt.

Mae'r sefydliad felly wedi troi at ffermwr i gadw'r safle – sydd wedi bod yn wag ers 2018 - yn daclus nes bod y gwaith ar y cynllun tai newydd yn dechrau.

Dan Hall
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dan Hall o Gartrefi Conwy bod "defnyddio defaid yn cyd-fynd â'n hagenda carbon niwtral"

"Roedd yn amlwg, o ystyried maint y safle, bod angen i ni gael rhyw fath o waith cynnal a chadw cynaliadwy ar y safle wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau," eglurodd Dan Hall o Gartrefi Conwy.

"Felly roedd defnyddio defaid yn cyd-fynd â'n hagenda carbon niwtral.

"Ond roedd hefyd yn ffordd gost-effeithiol, sŵn isel o gynnal a chadw'r tir."

Gethin Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Ni'n dod i lawr i'r safle tua dwywaith yr wythnos i wneud yn sicr bod y defaid yn iawn," meddai'r ffermwr Gethin Davies

Cafodd yr hen adeiladau eu codi ym mlynyddoedd olaf yr Ail Ryfel Byd.

Y bwriad oedd eu defnyddio fel ysbyty brys, ond nid oedd erioed eu hangen.

Yn lle hynny, fe gafodd yr adeiladau eu defnyddio fel swyddfeydd gan sawl adran wahanol o'r llywodraeth dros gyfnod o 70 mlynedd.

Erbyn hyn, defaid Gethin Davies, ffermwr o bentref Llansannan - sy'n 13 milltir i ffwrdd o'r safle - sy'n cael defnydd allan o'r tir.

"Ni'n dod i lawr i'r safle tua dwywaith yr wythnos i wneud yn sicr bod y defaid yn iawn ac i wneud yn siŵr bod y dŵr yn rhedeg iddyn nhw," meddai.

"Byddwn i'n hapus i ddod â nhw lawr eto yn y dyfodol. Mae'n gwneud bywyd yn haws i ni gael rhywle iddyn nhw bori, ac i Gartrefi Conwy hefyd."

Tracy Baguley
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n eithaf hoffi clywed nhw. Mae'n sicr yn well na'r holl draffig," meddai Tracy Baguley

Bydd y defaid yn mynd yn ôl i'r bryniau ddiwedd mis Hydref pan ddaw tymor tyfu'r glaswellt i ben.

"'Does dim ots gen i o gwbl am y defaid," meddai Tracy Baguley, sydd gyda gardd yn rhannu ffin gyda'r tir lle mae'r defaid yn pori.

"Rwy'n eithaf hoffi clywed nhw. Mae'n sicr yn well na'r holl draffig.

"Rwy'n teimlo fel fy mod i yng nghanol y wlad. Ni'n edrych dros y gwrychoedd yn eithaf aml i weld y defaid. Ni'n hoffi nhw. Mae fel cael blas ar fyw yng nghefn gwlad."

Gyda'r broses cynllunio ar gyfer y cartrefi newydd eto i'w gwblhau a'i gymeradwyo, mae pob siawns y bydd y defaid yn dychwelyd y gwanwyn nesaf i barhau â'u gwaith garddio am o leiaf un tymor arall.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig