Wynne Evans i gystadlu ar raglen Strictly Come Dancing
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y darlledwr a'r canwr opera Wynne Evans yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Strictly Come Dancing y BBC eleni.
Hyd yn hyn, mae pum person cyfarwydd wedi cyhoeddi eu bod yn rhan o'r gyfres newydd, sy'n cychwyn ym mis Hydref.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gymryd rhan ond yn "nerfus" ynghylch unrhyw ddawns sy'n golygu bod rhaid neidio.
"Y ballroom yw'r hyn dwi'n edrych ymlaen at wneud gan 'mod i wedi bod yn ganwr opera ers 20 mlynedd ac felly wedi neud tipyn o ddawnsio ballroom mewn operâu," dywedodd.
"Dwi ddim yn siŵr sut eith hi... ond dwi'n benderfynol o wneud fy ngorau a gwneud Cymru yn browd."
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023
Mae Wynne Evans yn fwyaf adnabyddus am ei yrfa opera, ag yntau wedi cael dau albwm clasurol yn cyrraedd rhif un yn y siartiau yn ystod ei yrfa.
Daeth hefyd yn wyneb cyfarwydd wrth bortreadu'r cymeriad Gio Compario yn hysbysebion teledu'r cwmni yswiriant Go Compare.
Mae bellach yn cyflwyno rhaglen foreol ar BBC Radio Wales.
Y sêr eraill sydd wedi cadarnhau eu bod yn cymryd rhan hyd yn hyn yw'r cantorion Toyah Willcox a JB Gill o'r grŵp JLS, y meddyg a'r darlledwr Dr Punman Krishan a'r digrifwr Chris McCausland.