Wynne Evans yn ennill Celebrity MasterChef

  • Cyhoeddwyd
Wynne Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Rydw i mor falch i fod wedi ennill ac ar ben y byd i fod yr enillydd Cymraeg cyntaf o Celebrity Masterchef," dywedodd Wynne Evans

Mae'r canwr opera a chyflwynydd radio Wynne Evans wedi ennill rhaglen Celebrity MasterChef 2023.

Roedd Wynne, 51, yn cystadlu yn erbyn yr actores Amy Walsh a seren Love Island Luca Bish yn y rownd derfynol.

"Dwi'n methu credu beth sydd newydd ddigwydd," meddai.

"Rydw i mor falch i fod wedi ennill ac ar ben y byd i fod yr enillydd Cymraeg cyntaf o Celebrity Masterchef."

Disgrifiad,

Wynne Evans yn trafod ennill Celebrity MasterChef 2023

Yn ystod y gystadleuaeth fe wnaeth Wynne gymryd ysbrydoliaeth o fwydydd Cymreig.

"Roedd defnyddio cynnyrch Cymreig yn bwysig iawn i fi - penderfynais i ar ddechrau'r gyfres 'mod i'n mynd i ddefnyddio bwyd o Gymru.

"Roedd hi'n anodd i gael y bwyd weithiau - chi'n trio defnyddio wystrys Sir Benfro a chi yn Llundain. Ond fe wnes i e ac hefyd defnyddio cig oen, wisgi a rwm Cymreig a chocos Penclawdd."

Ond beth oedd y pryd o fwyd cyntaf iddo goginio ar ôl y gyfres?

Ffa pob ar dost gan ei fod wedi cael "llond bol o goginio!".

Pynciau cysylltiedig