Anafiadau difrifol i ddyn ifanc a gafodd ei daro gan gar

Mwmbwls
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei daro ar y brif ffordd trwy ardal y Mwmbwls

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc wedi dioddef anafiadau all newid ei fywyd ar ôl iddo gael ei daro gan gar yn ardal y Mwmbwls yn Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad y tu allan i siop Co-Op toc wedi 01:00 fore Llun.

Dywedodd Heddlu De Cymru y cafodd dyn 22 oed ei daro gan gar Kia Rio gwyn.

Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty, a'r gred yw y gallai ei anafiadau newid ei fywyd.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau CCTV neu dashcam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig