Heddlu yn ymchwilio ar ôl i gyrff dyn a menyw gael eu canfod mewn eiddo

Cafodd cyrff dyn a menyw eu canfod mewn eiddo ar Stryd Fawr Hirwaun
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaethau anesboniadwy dau berson yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd cyrff dyn a menyw eu canfod mewn eiddo ar Stryd Fawr Hirwaun tua 17:45 ddydd Gwener, 21 Chwefror.
Nid yw'r cyrff wedi eu hadnabod yn ffurfiol ond mae teuluoedd y ddau wedi cael gwybod.
Mae'r llu wedi diolch i drigolion lleol am eu hamynedd wrth i swyddogion gynnal eu hymchwiliadau.