Monty Python: Cyrraedd y targed ar gyfer cerflun ym Mae Colwyn

Bydd cerflun o Terry Jones yn cael ei ddylunio a'i osod ar y promenâd ym Mae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae apêl codi arian i greu cerflun efydd i gofio un o sêr Monty Python yn ei dref enedigol yng ngogledd Cymru wedi llwyddo i gasglu £120,000 mewn llai na chwe mis.
Cadarnhaodd y trefnwyr ddydd Gwener bod yr ymgyrch bellach wedi cyrraedd y targed ariannol ac y bydd cerflun o Terry Jones yn cael ei ddylunio a'i osod ar y promenâd ym Mae Colwyn.
Mae ymgyrch Python on the Prom, a gafodd ei lansio ym mis Medi 2024, wedi denu cefnogaeth gan actorion fel Emma Thompson a Steve Coogan.
Yn 77 oed, bu farw Terry Jones o fath prin o ddementia yn 2020.
Y gobaith yw y bydd y cerflun yn cael ei roi yn ei le yng ngwanwyn 2026.
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd5 Medi 2024
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
Fe lansiwyd yr ymgyrch mis Medi gan blant Terry Jones - Sally a Bill.
Dywedodd Sally Jones: "Dwi wedi synnu ein bod wedi cyrraedd ein targed a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu neu wedi prynu'r crys-t.
"'Dan ni wedi cael cyfraniadau o bob cwr o'r byd ac mae pawb wedi bod mor gadarnhaol am y syniad o gael cerflun i gofio Dad.
"Fel fi, dwi'n siŵr y byddai o wedi gwirioni efo'r ymateb."

Merch Terry Jones, Sally, gyda'r artist Nick Elphick
Roedd yr artist Nick Elphick eisoes wedi bod yn edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer y cerflun.
Gan fod yr ymgyrch wedi cyrraedd y targed, bydd nawr yn gweithio ar y cynllun terfynol.
Dywedodd Sally Jones eu bod wedi cael sawl awgrym am sut y dylai'r cerflun edrych.
"Pan 'dach chi'n cychwyn ymgyrch fel hyn does gennych chi ddim syniad beth fydd yr ymateb, ac mae wedi bod yn hynod gadarnhaol.
"Mae pobl ledled y byd ar gyfryngau cymdeithasol yn siarad am yr ymgyrch, efo llwyth o syniadau am yr hyn y dylai'r cerflun fod."

Fe wnaeth Dilwyn Price ddisgrifio Terry Jones fel "diddanwr heb ei ail"
Mae'r ymgyrch wedi bod yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, ar y cyd â'r teulu
Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Dilwyn Price: "Cyn bo hir, mi fydd teyrnged hyfryd i Terry Jones, oedd yn ddiddanwr heb ei ail, a bydd ei wreiddiau Cymreig yn cael eu dathlu yn ei dref enedigol.
"Bydd croeso cynnes i chi pan fyddwch chi'n dod i weld y cerflun ar ein promenâd ym Mae Colwyn yn 2026."