Sêr Monty Python yn codi arian am gerflun o Terry Jones
- Cyhoeddwyd
Mae sêr Monty Python wedi ymgynull mewn tref yng ngogledd Cymru er mwyn codi arian ar gyfer cerflun er cof am Terry Jones, un o gyd-aelodau’r grŵp.
Mae Michael Palin a Terry Gilliam ymysg y rhai sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch i godi £120,000 ar gyfer cerflun o Terry Jones ym Mae Colwyn.
Cafodd Terry Jones, a fu farw yn Ionawr 2020, ei eni yn y dref, cyn symud i fyw yn Surrey yn Lloegr.
Mae rheiny sy’n rhan o’r ymgyrch i godi’r cerflun yn gobeithio y bydd yn denu dilynwyr Python o bob cwr o'r byd.
'Athrylith comedi'
Mae’r ymgyrch yn cael ei rhedeg gan blant Terry, Sally a Bill Jones, mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, sydd wedi sefydlu ymgyrch GoFundMe.
Mae’r cerflun efydd yn cael ei wneud gan y cerflunydd o Landudno, Nick Elphick, ac yn ôl y trefnwyr, bydd y cerflun yn dathlu Jones fel “athrylith comedi”, ynghyd â’i rôl fel “hanesydd, awdur a chyfarwyddwr ffilm”.
Yn ôl Dilwyn Price, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy roedd Terry Jones "yn driw i'r ffaith ei fod yn Gymro ac roedd yn golygu lot iddo fo".
"Dwi'n gobeithio gawn ni barchu hynny a sicrhau fod digon o arian yn dod i fewn fel ein bod yn cael y cerflun ar y prom."
"Dwi ar ben fy nigon i fod yma heddi i ddangos ein cefnogaeth. Mi oedd e'n ffrind arbennig iawn", meddai Michael Palin.
Cafodd Terry Jones ei eni ym Mae Colwyn yn 1942, a dywedodd ei fod wastad wedi teimlo yn “hynod o Gymreig” er iddo symud i Claygate yn Surrey pan yn bump oed.
“Doeddwn i wir ddim eisiau gadael Cymru”, esboniodd mewn cyfweliad. “Dwi wastad wedi difaru hynny a dwi bob amser yn dweud ‘dwi’n Gymro’”.
Un o’i berfformiadau enwocaf fel aelod o Monthy Python oedd mam Brian, yn y ffilm 1979, Life of Brian.
Fel nifer o aelodau’r grŵp, roedd Terry yn ei chael hi’n anodd deall pam bod y sioe mor boblogaidd.
“Doeddwn i byth yn meddwl bod Python yn llwyddiant ar y pryd – dim ond wrth edrych yn ôl, dwi’n dod i ddeall,” esboniodd.
Fe gyfarwyddodd ddwy o'r ffilmiau, Life of Brian a The Meaning of Life, a chydgyfarwyddo The Holy Grail gydag aelod arall o'r criw, Terry Gilliam.
Yn 2016 fe gafodd wobr arbennig am ei gyfraniad i'r byd ffilm a theledu yn seremoni BAFTA Cymru - gwobr a gafodd ei chyflwyno iddo gan ei gyd-aelod o griw Monty Python, Michael Palin.
Wedi blynyddoedd o fyw gyda math prin o dementia, bu farw Terry Jones yn Ionawr 2020, yn 77 oed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2016