Teyrnged teulu i 'fab annwyl' wedi gwrthdrawiad

Jordan Thomas Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jordan Thomas wedi gwrthdrawiad yng Nghwmbrân

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i "ddyn annwyl" fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân ddydd Sul.

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai Jordan Thomas, 25, oedd enw'r dyn fu farw.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd sy'n cael ei hadnabod fel Cwmbrân Drive tua 13:50.

Cafodd swyddogion eu galw i'r safle ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Y beic modur oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad.

'Wedi ein llorio gan y gefnogaeth'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd e wastad yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod.

"Roedd Jordan yn frawd, ewythr, darpar ŵr a ffrind annwyl a fydd yn cael ei golli gan bawb.

"Fel teulu rydym wedi ein llorio gan y gefnogaeth a'r holl eiriau caredig gan y rheiny oedd yn adnabod ein mab annwyl, Jordan.

"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym yn gofyn am amser i brosesu ac i alaru yr hyn sydd wedi digwydd i'n bachgen hyfryd, Jordan Thomas."

Pynciau cysylltiedig