Nifer y triniaethau yn ysbytai preifat Cymru yn uwch nag erioed

Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Mae mynd i'r afael â rhestrau aros y GIG yn flaenoriaeth i'r llywodraeth, meddai Jeremy Miles

  • Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod nifer y triniaethau yn ysbytai preifat Cymru ar ei lefel uchaf erioed.

Yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat (PHIN), roedd 7,900 o driniaethau mewn ysbytai preifat yng Nghymru yn nhri mis cyntaf 2024.

Bum mlynedd yn ôl, 4,470 o driniaethau o'r fath gafodd eu cynnal yn yr un cyfnod.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd newydd Cymru, Jeremy Miles, ei fod e "ddim am weld" pobl yn troi at y sector breifat, ac mai mynd i'r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yw "un o brif flaenoriaethau" y llywodraeth.

Cafodd y Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat ei ffurfio gan Lywodraeth y DU yn 2014 er mwyn cynnig gwybodaeth annibynnol ynglŷn â gofal iechyd preifat.

Yn ôl y corff, mae Cymru'n unigryw o fewn i'r Deyrnas Unedig gan fod mwy o bobl yn talu am driniaeth feddygol breifat o'u poced eu hunain na thrwy gynlluniau yswiriant.

Roedd y nifer uchaf erioed wedi talu am driniaeth ysbyty preifat yn bersonol a thrwy gynllun yswiriant rhwng dechrau Ionawr a diwedd mis Mawrth eleni.

Tynnu cataract oedd y driniaeth fwyaf cyffredin, gyda 2,175 o bobl yn mynd yn breifat am driniaeth o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gwenan Roberts benderfynu talu am driniaeth oherwydd rhestrau aros hir

Ym mis Awst eleni, talodd Gwenan Roberts o Ben Llŷn am gael cataract wedi'i dynnu yn breifat.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn cydnabod ei bod yn ffodus bod ganddi'r gallu i dalu am driniaeth breifat wedi i'w meddyg teulu ddweud bod y cataract yn tyfu'n gyflym.

"Mater o fisoedd, os hynny, oedd hi nes 'mod i'n colli tipyn o annibyniaeth fel gallu gyrru, yn arbennig y nos, a mwy na thebyg yn y dydd," meddai.

"Mi benderfynais i fod angen mynd yn breifat oherwydd rhestrau aros hir."

Ofn 'colli annibyniaeth'

Mae Ms Roberts yn dweud bod y driniaeth wedi gwella ei bywyd yn fawr.

"Mae colli annibyniaeth rhywun - yn arbennig rhywun sydd yn byw yng nghefn gwlad - fedrwch chi ddim mynd i nunlla, gwneud dim - mae'ch bywyd chi'n newid yn llwyr.

"Dydw i ddim yn dibynnu ar unrhyw un rŵan. O fewn wythnos ro'n i nôl yn gyrru a dwi'n gallu gweld yn well rŵan nag ers blynyddoedd lawer.

"Mae'n driniaeth mor syml mewn ffordd. Mae modd gwneud llawer iawn ohonyn nhw yn sydyn iawn a bysan nhw'n medru cael gwared ar y rhestrau aros hirfaith iawn sydd 'na yn sydyn iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaeth iechyd ddwy haen yng Nghymru, yn ôl Mabon ap Gwynfor

Rhestrau aros hir ar y gwasanaeth iechyd sydd ar fai am y cynnydd, yn ôl yr Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd, Mabon ap Gwynfor - sydd hefyd yn llefarydd iechyd i Blaid Cymru.

"Mae'r llywodraeth wedi methu mynd i'r afael â rhestrau aros. Mae hynny'n golygu fod pobl yn mynd yn breifat," meddai.

"Mae hefyd yn golygu bod y rheiny sydd â'r gallu i gael triniaeth yn mynd i gael triniaeth, tra bod y rheiny sydd dlotaf yn dal i aros am flynyddoedd.

"Mae'n golygu bod gwasanaeth iechyd ddwy haen gyda ni yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru sydd yn uniongyrchol gyfrifol."

Dywedodd Tom Giffard AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod pobl yn cael eu "gorfodi" i gael triniaeth feddygol yn breifat ac y dylai'r ysgrifennydd iechyd flaenoriaethu lleihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae rhestrau aros ar gyfer triniaethau ophthamoleg wedi bron a haneru ers bod ar eu huchaf yn Ebrill 2022.

"Rhan o'r ateb yw creu gwasanaeth cataract rhanbarthol, fydd yn cwtogi amseroedd aros."

Pynciau cysylltiedig