Tristwch wrth i Siop y Smotyn Du yn Llanbed gau ddiwedd y mis

- Cyhoeddwyd
Mae yna siom a thristwch yn Llanbed wrth i unig siop llyfrau Cymraeg y dref gau ddiwedd mis Mehefin.
Mae Siop y Smotyn Du wedi bod ar agor ers chwarter canrif wedi iddi gael ei sefydlu gan Gymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru o dan arweinyddiaeth y diweddar Barchedig Goronwy Evans.
Yn 2010 fe roddodd y gymdeithas orau i'r fenter ac ers 15 mlynedd mae'r siop wedi bod yn cael ei rhedeg gan Gapel Undodaidd Brondeifi.

Mae Eryl Jones yn ysgrifennydd a threfnydd rota gwirfoddolwyr y siop
Mae Eryl Jones yn ysgrifennydd a threfnydd rota y gwirfoddolwyr ac iddi hi mae cau'r siop yn ddiwedd cyfnod ac yn achlysur hynod o drist.
"Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
"Ro'dd e'n benderfyniad anodd a thrist ond yn y diwedd ar ôl ystyried llawer opsiwn o'dd dim dewis 'da ni.
"Mae 'na gostau i redeg y siop, mae costau trydan wedi mwy na threblu - mae 'na swm penodol o rent yn mynd allan bob mis a'r yswiriant yn dueddol o godi bob blwyddyn a phan chi ddim yn cael yr incwm i dalu am hynny mae'n mynd yn broblem."
"Yn ystod y cyfnod i fyny tuag at Covid roedd y siop yn llwyddiannus dros ben ac yn ogystal â chefnogaeth cymuned eang roedd tua 14 o ysgolion yn archebu llyfrau yn gyson.
"Erbyn hyn mae nifer yr ysgolion wedi lleihau yn sylweddol a'u cyllid hefyd ddim tebyg i beth oedd e sydd yn eu cyfyngu ar beth i wario.
"Dros y 15 mlynedd ddiwethaf mae'r capel wedi elwa £30,000 o goffrau'r siop - sydd yn gyfartaledd o £2,000 yn flynyddol - bwlch ariannol a fydd bron yn amhosib i'w lenwi."
Llai o bobl yn dod i'r dre
Ychwanegodd Eryl Jones nad Siop y Smotyn Du yw'r unig siop i gau yn Llanbed.
"Fel ymhob tref arall mae tipyn llai o bobl yn dod i'r dre i siopa ac wrth i un siop gau mae hynny'n cael effaith ar siopau eraill.
"Ydy mae pobl yn drist iawn bod y siop yn cau ond beth allwn ni wneud?"

Mae'r siop yn gwerthu amrywiaeth o lyfrau a'r cyfan am hanner pris yn ystod yr wythnos olaf
Y diweddar Barchedig Goronwy Evans a'i wraig Beti oedd yn rhedeg y siop gyda nifer o wirfoddolwyr yn helpu.
Cafodd ei henwi yn Siop y Smotyn Du yn sgil yr enw a roddwyd ar y clwstwr o gapeli Undodaidd a ffurfiwyd yn ne Ceredigion oddeutu 1800.
Haneswyr gelyniaethus Methodistaidd a roddodd yr enw y 'Smotyn Du' i'r ardal wrth i'r Undodiaid wrthsefyll diwygiadau efengylaidd Llangeitho gerllaw.
'Adnodd i'r gymuned'
Er yn cael ei rhedeg gan gapel Undodaidd roedd yna amrywiaeth o lyfrau ac adnoddau Cymraeg yn y siop.
Tan yn ddiweddar roedd y Cyngor Llyfrau yn anfon pob llyfr newydd i'r siop - ac "roedd pobl wrth ei bodd yn dod atom i brynu llyfrau, papurau bro, cardiau ac adnoddau i ddysgwyr", meddai Eryl Jones.
"Mae'r pwyslais wastad wedi bod ar greu adnodd i'r gymuned a darparu cyfleon i bobl yma yn Llanbed.
"Mae'n ganolfan gymunedol gyda phobl yn dod fewn yn rheolaidd i sgwrsio gyda phwy bynnag sy'n gwirfoddoli.
"Pryd bynnag o'dd y papur bro yn dod ma's o'dd pobol mewn drannoeth.
"Dwi am ddiolch i'r gwirfoddolwyr - maen nhw wedi bod yn wych a'u cefnogaeth i ni wedi bod yn ffantastig."
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2018
Bydd y siop yn cau ddiwedd Mehefin ac ar hyn o bryd mae pobl llyfr yn y siop hanner pris.
"Yn sicr fydd diwrnod cau'r siop ddim yn ddiwrnod o ddathlu. Fe fyddai'n gweld eisiau'r siop yn fawr a'r gwmnïaeth," ychwanegodd Eryl Jones.
Mae trafodaethau ymhlith cyngor y dref a'r ganolfan i siaradwyr Cymraeg i gadw siop lyfrau yn y dref ond does yna'r un cynllun pendant hyd yma.
Mae cyfweliad Eryl Jones i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds