Agor ysgol feddygol Bangor yn 'gam enfawr ymlaen'
- Cyhoeddwyd
Mae agor ysgol feddygol ym Mhrifysgol Bangor yn "dda i'n gwasanaeth iechyd", yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygol wedi dechrau astudio yn yr ysgol, fydd yn derbyn 80 o fyfyrwyr eleni.
Bydd y nifer yn cynyddu'n raddol i 140 y flwyddyn o 2029-30 ymlaen, wrth i Lywodraeth Cymru geisio mynd i’r afael â’r broblem o recriwtio a chadw staff meddygol.
Mewn digwyddiad yn y Brifysgol ddydd Iau, cafodd yr ysgol feddygol newydd ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles.
Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae agor yr ysgol newydd yn "arwydd o obaith i'r dyfodol".
'Cyffrous iawn'
Ers 2019 mae darpar feddygon wedi gallu astudio y rhan helaeth o'u cwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Ond eleni fydd y flwyddyn gyntaf i fyfyrwyr astudio pob agwedd o'r cwrs yn y gogledd am y tro cyntaf erioed.
Ymhlith y rheiny mae Begw Lois Fussell, sy'n dechrau'r cwrs meddygaeth ym Mangor eleni.
Dywedodd: "O'dd llawer o resymau dros ddewis Bangor fel dewis cyntaf... mae'n gyffrous iawn, ma' nhw'n cynnig e'n Gymraeg ac mae'r gymdeithas Gymraeg yma'n wych.
"Fi'n meddwl mai un o'r rhwystre o fynd i Gaerdydd gyntaf wedyn fan hyn oedd gorfod ail ddechre 'to. Chi'n gorfod ffindio ffrindie newydd, ffindio pobl i fyw gyda, chi jest 'ma o'r dechre nawr, a fi 'di gwreiddio ym Mangor."
Mae Alaw Jones o Gricieth hefyd yn dechrau'r cwrs meddygaeth am y tro cyntaf eleni.
Yr iaith wnaeth ei denu yno.
Dywedodd: "'Dw i'n gallu siarad a datblygu fy Nghymraeg yma, mewn ffordd clinigol hefyd, 'dw i'n gallu parhau i siarad yr iaith.
"Mae'r ardal hefyd yn rili neis, mae'n lle cymdeithasol iawn."
Fel un o'r gogledd, mae Alaw yn awyddus i aros yn yr ardal ar ôl graddio.
"Mae'n ardal neis, mae'n debygol iawn fyddai'n aros yma am amser hir," meddai.
"Mae'n bwysig" gallu astudio yn y gogledd meddai.
"Mae'n braf gallu cychwyn yma a gorffen y cwrs cyfan a chael y profiad iawn o neud o gyd mewn ardal Gymraeg."
Dywedodd Dr Nia Jones, cyfarwyddwr y rhaglen feddygol yn y gogledd, bod y cam yma yn "hollbwysig".
Dywedodd: "Mae wedi bod yn amser hir yn dod, gwaith caled... partneriaeth ydi'r gwaith yma a dyma beth ydyn ni'n dathlu heddiw.
"Beth ydyn ni eisiau roi i bobl gogledd Cymru ydi cyfle. Rŵan mae ganddyn nhw ddewis i ddod aton ni, os mae nhw eisiau aros yn eu cynefin, mae modd astudio meddygaeth yma am bum mlynedd."
Mae'n hyderus y bydd pobl yn gallu cael "addysg o'r safon uchaf hefo ni yma ym Mangor".
"Mi fyddwn ni'n gallu mynd at ysgolion yn rhannu'r egni sydd gennym ni o agor ysgol feddygol newydd yn y gogledd... a chodi ymwybyddiaeth, nid yn unig meddygaeth ond cyrsiau eraill o fewn gofal iechyd."
Dechreuodd y gwaith cynllunio ar gyfer yr Ysgol Feddygol newydd yn 2020, pan gytunodd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth i sefydlu'r ysgol.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan bod "recriwtio meddygon medrus yn her fawr ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop".
"Bydd yr ysgol feddygol yn gam enfawr ymlaen ar gyfer recriwtio meddygon yng Nghymru, gan alluogi mwy o fyfyrwyr meddygol i hyfforddi yn y rhanbarth, sy'n dda i'n Gwasanaeth Iechyd, yn enwedig yn y Gogledd."
'Cryfhau'r ddarpariaeth ddwyieithog'
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles fod agor yr ysgol feddygol "yn brawf ein bod wedi ymrwymo o hyd i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos â phosib i gartrefi pobl".
Ychwanegodd: "Trwy ddewis astudio yma, bydd myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau hyfforddi modern, addysg gofal iechyd flaengar, staff addysgu profiadol, a chefnogaeth barhaus gan staff y Gwasanaeth Iechyd ar draws y rhanbarth."
"Bydd yr ysgol feddygol newydd yn allweddol i helpu i fynd i'r afael â'r heriau o ran hyfforddi a chadw meddygon, gan gryfhau'r ddarpariaeth o ofal iechyd dwyieithog ar draws y rhanbarth," meddai Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ychwanegodd : "Ry'n ni'n cydnabod bod meddygon yn tueddu i ymarfer yn agos at lle maen nhw'n hyfforddi, felly'r nod yw annog myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd gydol oes yn y Gogledd, er budd y boblogaeth leol a'i chymunedau.
"Bydd cyfleoedd hefyd ar gyfer datblygiadau o ran ymchwil ac arloesi drwy ein gwaith partneriaeth. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar recriwtio a chadw meddygon yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2021