Ysgol feddygaeth lawn yn y gogledd 'gam yn nes'
- Cyhoeddwyd
Mi fydd modd i fyfyrwyr meddygaeth astudio eu cwrs cyfan ym Mhrifysgol Bangor cyn hir wrth i Lywodraeth Cymru ddweud eu bod nhw "gam yn nes" at sefydlu ysgol feddygol lawn yn y gogledd.
Dywed y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan y bydd "mwy o fyfyrwyr" yn gallu astudio eu cwrs cyfan ym Mhrifysgol Bangor o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Ers blynyddoedd mae rhai o'r gwrthbleidiau a meddygon yn lleol wedi bod yn galw am ysgol feddygol i'r gogledd er mwyn "llenwi bylchau recriwtio".
Yn ôl un meddyg teulu yng Ngwynedd mae'r cyhoeddiad yn digwydd "jest ar yr adeg iawn" gan fod pwysau'r pandemig yn "echrydus".
Mae cwrs meddygaeth presennol Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Mae'n rhaid i fyfyrwyr dreulio eu blwyddyn gyntaf yn astudio yng Nghaerdydd cyn gallu trosglwyddo yn ôl i'r gogledd.
Mae modd i fyfyrwyr sy'n astudio cwrs meddygaeth ac sydd yn eu hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd ymuno â chynllun meddygaeth C21 ynghyd â graddedigion o gyrsiau tebyg fel ffarmacoleg a'r gwyddorau biofeddygol.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru mae hynny yn newid gyda'r Gweinidog Iechyd yn dweud fod cynllun bellach i sefydlu "ysgol feddygol lawn" ym Mangor.
"Ni'n gweld bod 'na lot mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a phroblemau recriwtio," meddai Eluned Morgan.
"Ni'n gwybod fod ysgol feddygaeth yn fwy tebygol o gael mwy o bobl i mewn i'r Gwasanaeth Iechyd ac ar hyn o bryd mae hynny'n bwysig."
Yn 2017 fe ddywedodd y Cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething "nad oedd achos" dros sefydlu Ysgol Feddygol yn y gogledd.
Ond ddydd Gwener fe ddywedodd Eluned Morgan fod y pandemig Covid-19 wedi "newid y sefyllfa".
Eleni, bydd nifer y myfyrwyr ar y rhaglen hon yn ehangu o 20 i 25, ac i 40 o fyfyrwyr erbyn y flwyddyn nesaf.
Er nad yw hi'n glir pryd fydd modd astudio'r cwrs cyfan yng ngogledd Cymru mae Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor yn dweud eu bod nhw'n gweithio gyda phartneriaid er mwyn gwireddu hynny.
"Mae hyn yn bwysig o safbwynt adlewyrchu anghenion yr ardal," meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Iwan Davies.
Mae hefyd, meddai, yn adlewyrchu "pwysigrwydd y rhanbarth o safbwynt datblygu fan hyn, capasiti gwirioneddol, gwaith ymchwil er mwyn sicrhau bod 'na ysgol feddygol annibynnol yma yng ngogledd Cymru."
'Mae hyn yn ffantastig'
Un sydd eisoes yn hyfforddi meddygon y dyfodol ydi Dr Esyllt Llwyd sy'n feddyg teulu yn Waunfawr a Llanrug.
Mae hi'n gobeithio y bydd cyhoeddiad dydd Gwener yn arwain at fwy o feddygon sy'n deall yr ardal ac sydd hefyd yn medru'r iaith.
"Mae hyn yn ffantastig," meddai. "Mae o'n digwydd jest ar yr adeg iawn deud y gwir".
"Dwi'n meddwl ein bod ni gyd yn y Gwasanaeth Iechyd yn teimlo fel bod y pwysau echrydus ma' arnom ni, pawb yn gweithio yn uwch na'u capasiti.
"Wrth gwrs mae unrhyw beth sy'n gwella niferoedd a morâl o'r herwydd i'w groesawu efo breichiau agored".
'Neis gallu hyfforddi yn dy ardal leol'
Yn ôl Dr Llwyd mae gan ogledd Cymru anghenion, tirlun a demograffeg unigryw iawn a'r gobaith ydi y bydd ysgol feddygol yn denu mwy i aros yma ar ôl iddyn nhw gymhwyso.
Un sydd ar y daith honno ydi Ffraid Gwenllian.
Bu'n rhaid iddi fynd i Brifysgol Caerdydd yn ystod ei blwyddyn gyntaf o astudio meddygaeth cyn dychwelyd i'r gogledd.
"Os fasa'r cwrs 'di bod ar gael ym Mangor yn sicr 'swn i wedi ei wneud o yn fanno," meddai.
"Dwi ddim yn difaru [y cynfod ym Mhrifysgol] Caerdydd, oedd o'n grêt. Ond 'swn i yn sicr 'di neud y cwrs i gyd o Fangor achos o fa'ma dwi'n dod ac mae 'na rywbeth neis o allu hyfforddi yn dy ardal leol".
Mi fydd y cwrs meddygaeth C21 yn caniatáu i fyfyrwyr astudio meddygaeth yng ngogledd Cymru gyda ffocws mwy pendant ar feddygaeth yn y gymuned, medd y Gweinidog Iechyd.
Y gobaith felly yw y bydd hynny yn llenwi rhai o'r bylchau recriwtio sy'n broblem enfawr yn y rhanbarth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd26 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018