'Dyma'r diwedd': Athrawon a gafodd eu trywanu yn credu eu bod am farw
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dwy athrawes wedi meddwl eu bod ar fin cael eu lladd wedi i ddisgybl ymosod arnyn nhw mewn ysgol uwchradd.
Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman eu trywanu gan ferch 14 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol ym mis Ebrill y llynedd.
Mae'r ferch wedi cyfaddef trywanu'r tri ond mae hi'n gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio.
Ar ail ddiwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe mae'r rheithgor wedi clywed cyfweliadau heddlu'r ddwy athrawes.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Fe ddywedodd y pennaeth cynorthwyol Fiona Elias ei bod wedi gofyn i'r ferch adael neuadd isaf yr ysgol ar 24 Ebrill 2024.
"Roedd y ffordd roedd hi'n edrych arna'i - roedd rhywbeth sinistr yn ei llygaid," meddai. "Mae'n eithaf eironig - if looks could kill."
'Roedd hi wedi colli arni'
Dywedodd bod y diffynnydd yn edrych "yn fygythiol iawn, fel pe tai hi am wneud rhwybeth i mi" ac yn chwarae gyda rhywbeth ym mhoced dde ei throwsus.
Yn ôl Ms Elias dywedodd y ferch: "Wyt ti eisiau gweld beth sydd yn fy mhoced?" wrth dynnu cyllell allan.
Clywodd y llys fod y ferch wedi dweud wrth ei hathrawes "dwi'n mynd i dy ladd di, dwi'n mynd i dy ff**** ladd di" cyn ei thrywanu sawl gwaith.
"Pryd weles i'r gyllell a phan ddechreuodd hi fy nhrywanu, wnes i feddwl 'dwi'n mynd i farw'," meddai.
"O'n i'n gallu gweld e yn ei hwyneb - roedd hi wedi colli arni."
Dywedodd Ms Elias ei bod hi a Liz Hopkin wedi ceisio rhwystro'r diffynnydd gan fod yna lawer o ddisgyblion o gwmpas.
"O'n i jest eisiau cael y gyllell oddi wrthi, i wneud yn siŵr bod hi ddim yn ymosod ar unrhyw un arall," meddai.
Roedd yn ddagreuol wrth esbonio iddi adael Liz Hopkin ar iard yr ysgol i alw'r awdurdodau.
"Dywedodd hi: 'Fiona, jyst cer'."
Cafodd Ms Elias anafiadau i'w breichiau a'i llaw chwith ac fe gafodd ei chludo i Ysbyty Treforys am driniaeth.
'Falch o fod yn fyw'
Yn ei thystiolaeth hithau i'r heddlu, dywedodd cydlynydd anghenion ychwanegol Ysgol Dyffryn Aman, Liz Hopkin ei bod hithau hefyd wedi credu ei bod am farw ac mai "dyma'r diwedd".
Disgrifiodd y bore dan sylw fel un "hyfryd yn yr heulwen - roedd y plant i gyd yn chwarae".
Dywedodd nad oedd hi'n adnabod y diffynnydd, ond ei bod yn "ymddangos yn rhyfedd" a'i bod "eisiau anafu" Fiona Elias.
Wrth geisio rhwystro'r ymosodiad, fe gafodd Ms Hopkin ei thrywanu yn ei choes ac roedd y boen, meddai, "yn boeth ac yn bigog".
"Roeddwn i'n gweiddi 'help'. Wrth edrych yn ôl dylen i wedi gweiddi 'cyllell' - efallai byddai pobl wedi dod yn gynt.
"Roedd pawb jest yn sefyll.
"Dwi ddim yn credu roedd pobl yn sylweddoli bod rhywbeth difrifol yn digwydd. O'n i'n gallu gweld gymaint o blant."
Dywedodd bod y diffynnydd wedi ei thrywanu yn ei gwddf a "doedd dim byd allen i wedi gwneud i'w stopio".
Roedd gŵr a mab Ms Hopkin yn gweithio yn yr ysgol ar y pryd ac fe glywodd y llys bod Ms Hopkin yn credu ei bod am farw gyda'i theulu'n bresennol.
"Dwi'n falch i fod yn fyw ac yn falch bod Fiona'n fyw. Os bydden i heb ymyrryd byddai hi wedi marw."
Clywodd y rheithgor bod Ms Hopkin yn gorwedd ar y llawr gyda gwaed yn llifo o'i gwddf ac fe gafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd mewn ambiwlans awyr.
'Edrychiad gwag ar ei hwyneb'
Yn ddiweddarach fe glywodd y rheithgor gan yr athrawon Stephen Hagget a Darrell Campbell, oedd ar ddyletswydd ar y pryd.
Esboniodd pennaeth cynorthwyol yr ysgol, Mr Hagget, iddo glywed fod disgyblion yn ymladd yn ystod yr amser egwyl dan sylw.
Gwelodd y diffynnydd yn wynebu'r wal ar iard yr ysgol ac yn dal cyllell.
"Wnes i drio tawelu hi," esboniodd i'r rheithgor.
"Roedd ganddi edrychiad gwag ar ei hwyneb, golwg dwys iawn."
Dywedodd i'r ferch weiddi: "Dwi'n mynd i ff***** lladd hi os dwi'n gweld hi - Mrs Elias."
Dywedodd Mr Campbell wrth y rheithgor ei fod yn gallu gweld bod "rhywbeth o'i le" ar iard yr ysgol.
Esboniodd i'r diffynnydd weiddi, "Dwi'n mynd i dy f*****g llad di, b***h", wrth redeg at ddisgybl a'i thrywanu.
Clywodd y llys i Mr Campbell rhoi'r ferch mewn "headlock" i'w hatal rhag symud.
"Wnes i ddweud wrthi, 'Mae hi drosodd'," meddai.
'Ceisio ei chicio hi oddi arna i'
Brynhawn Mawrth gwelodd y rheithgor gyfweliad heddlu'r disgybl a gafodd ei thrywanu, ble disgrifiodd y diffynnydd yn bygwth ei lladd cyn ymosod arni.
Does dim modd enwi'r ferch am resymau cyfreithiol.
Disgrifiodd y diffynnydd yn gweiddi ei henw a dweud: "Dwi'n mynd i dy f*****g lladd di."
"Wnes i droi rownd ac roedd hi'n rhedeg ata i gyda chyllell," meddai.
Dywedodd ei bod wedi sgrechian a cheisio cuddio wrth i'r diffynnydd 14 oed geisio'i thrywanu.
"Wnaeth hi drywanu fy mraich," meddai.
"Roeddwn i'n taflu fy nghoesau yn ceisio'i chicio hi oddi arna i."
Dywedodd iddi deimlo'n "grac a'n ofnus", gan ychwanegu bod ganddi "waed lawr fy nghrys a chwt ar fy mraich".
Yn ôl y disgybl doedd hi ddim yn adnabod y diffynnydd yn dda, er iddyn nhw gweryla ychydig wythnosau ynghynt ar y bws ysgol.
Yn ôl y disgybl roedd y ffrae ynghylch "rhywbeth sili, merchetaidd", ac "roedden ni'n iawn y diwrnod wedyn".
Mae'r achos yn parhau.