Ysgol Dyffryn Aman: Merch, 14, yn gwadu ceisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos llys wedi ailddechrau yn erbyn merch 14 oed sy'n wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman fis Ebrill y llynedd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y ferch, na ellir cyhoeddi ei henw, wedi trywanu dwy athrawes - Fiona Elias a Liz Hopkin - a disgybl, gan fygwth lladd un o'r athrawon a'r disgybl.
Mae'r ferch wedi cyfaddef trywanu'r tri yn ystod amser egwyl yn yr ysgol, ond mae hi'n gwadu ceisio llofruddio.
Fe wnaeth yr achos ddymchwel ym mis Hydref oherwydd "anghysondeb mawr" yn y rheithgor.
Esboniodd y barnwr Paul Thomas KC wrth y rheithgor newydd ddydd Llun i'r achos cyntaf ddymchwel "oherwydd amryw o resymau".
Clywodd y rheithgor bod y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd, wedi cario cyllell i'r ysgol ar 24 Ebrill 2024.
Fe welodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng o'r ymosodiadau.
Fe ddywedodd yr erlynydd William Hughes KC i'r ferch ddweud wrth ei hathrawes, Fiona Elias: "Dwi'n mynd i dy ff**** ladd di", cyn ei thrywanu.
Fe welodd y rheithgor y diffynnydd yn dechrau trywanu Liz Hopkin, oedd yn ceisio'i rhwystro.
Cafodd anafiadau i'w gwddf, cefn, coesau a'i breichiau.
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2024
Mae'r lluniau CCTV yn dangos y diffynnydd yn symud i ran arall o'r iard, ac yn cael ei dilyn gan ddau athro, Darrell Campbell a Stephen Hagget, oedd yn ceisio ei thawelu.
Yn ôl Mr Hughes, fe redodd y diffynnydd at ddisgybl arall a'i thrywanu, a defnyddio'r un geiriau ddywedodd hi wrth Ms Elias.
Cafodd yr athrawon a'r disgybl eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.
'Llygaid sinistr'
Clywodd y rheithgor bod Fiona Elias yn delio gyda'r diffynnydd "yn rheolaidd" ac wedi canfod cyllell yn ei bag ar achlysur gwahanol.
Bryd hynny cafodd y diffynnydd ei diarddel a bu'n rhaid gwirio ei bag yn rheolaidd wedi iddi ddychwelyd i'r ysgol, ond ni ddigwyddodd hynny ar fore'r ymosodiad.
Dywedodd Mr Hughes bod Ms Elias wedi gofyn i'r ferch adael neuadd isaf yr ysgol y bore hwnnw am nad oedd ganddi ganiatâd i fod yno.
Yn ôl Ms Elias, fe edrychodd y diffynnydd arni gyda "llygaid sinistr", gan chwarae â rhywbeth yn ei phoced.
Symudodd y ddwy i iard yr ysgol lle gofynnodd Ms Elias beth oedd yn ei phoced.
Fe dynnodd y diffynnydd gyllell bysgota o'i phoced - cyllell, yn ôl yr erlyniad, oedd yn eiddo i'w thad.
Yn ôl Ms Elias, fe ddywedodd y ferch: "Wyt ti eisiau gweld beth sydd yn fy mhoced? Dwi'n mynd i dy ff**** lladd di" cyn ei thrywanu.
'Un ffordd o fod yn enwog'
Roedd y ferch yn eistedd y tu allan i'r doc gyda'i thîm cyfreithiol ac yn edrych i lawr wrth i'r erlyniad gyflwyno'r dystiolaeth.
Ychwanegodd William Hughes KC bod y diffynydd wedi gwneud "nifer o sylwadau arwyddocaol" wrth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ar ôl cael ei harestio am 11:53 ar y bore dan sylw.
Yn ôl yr erlynydd, fe ddywedodd wrth yr heddlu "oopsies" wrth gyfaddef iddi drywanu'r disgybl.
Wrth gael ei chludo i Orsaf Heddlu Llanelli dywedodd: "Dwi'n eithaf siŵr bydd hyn ar y newyddion… dyna un ffordd o fod yn enwog."
Fe welodd y rheithgor ddarluniau gan y diffynnydd oedd yn ei bag ysgol a'i hystafell wely.
Roedd y lluniau'n cyfeirio at "Mrs Frogface Elias" ac enw'r disgybl, ac yn cynnwys geiriau fel "llosgi" a "boddi".
Mae'r darluniau, meddai Mr Hughes, yn dangos fod y diffynnydd "yn amlwg yn meddwl yn wael" am Fiona Elias a'r disgybl.
Fe ddywedodd y barnwr wrth y rheithgor fod yr achos hwn wedi cael "llawer o sylw yn y cyfryngau ac rwy'n amau y bydd hynny'n parhau" wrth eu hannog i osgoi adroddiadau yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol.
Trywanu'r llawr â chyllell
Brynhawn Llun fe glywodd y rheithgor dystiolaeth gan y Ditectif Sarjant Holly Thomas.
Cafodd lluniau camera cylch cyfyng eu dangos o'r munudau yn arwain at yr ymosodiadau ar Fiona Elias, Liz Hopkin a'r disgybl.
Fe welodd y rheithgor y ferch dan sylw yn eistedd yn neuadd yr ysgol yn trywanu'r llawr gyda'r gyllell y gwnaeth hi ei defnyddio yn yr ymosodiad.
Dangoswyd fideo Snapchat o'r eiliadau wedi'r ymosodiad ar y disgybl i'r rheithgor. Roedd nifer o staff a disgyblion yn bresennol.
Mae'r ferch 14 oed wedi cyfaddef trywanu tri o bobl ond yn gwadu ceisio llofruddio.
Mae'r achos yn parhau.