'Lle o hyd i annog sgyrsiau am bwysigrwydd cofrestru i roi organau'

Llio Dudley Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llio Dudley Roberts yn poeni am restr aros, gan ei bod "wedi clywed am bobl oedd yn disgwyl am fisoedd a blynyddoedd" am aren

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Wynedd a gafodd drawsblaniad yn dweud bod lle o hyd i annog sgyrsiau am bwysigrwydd cofrestru i roi organau.

Ddegawd yn ôl derbyniodd Llio Dudley Roberts o Drawsfynydd aren gan ei chwaer, ond mae'n debygol y bydd hi angen un arall ymhen rhai blynyddoedd.

Yn ôl y gwasanaeth iechyd, mae dros 300 o bobl yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ar hyn o bryd.

A hithau'n wythnos rhoi organau, mae'r gwasanaeth trawsblaniadau o fewn y gwasanaeth iechyd yn annog pobl sydd yn fodlon rhoi, i gofrestru ac i annog sgwrs.

Llio Dudley Roberts ar wely a'i chwaerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llio Dudley Roberts o Drawsfynydd aren gan ei chwaer 10 mlynedd yn ôl

Roedd Llio Dudley Roberts yn y brifysgol pan aeth i deimlo'n sâl ddegawd yn ôl.

Ar ôl mynd i weld y meddyg, daeth i ddeall bod ganddi gyflwr prin FSGS, oedd yn achosi i'w harennau fethu a bu'n rhaid derbyn dialysis.

Wedyn, daeth yr her o chwilio am rywun fyddai'n fodlon rhoi aren iddi.

"Mi oedd yn rhaid i mi gael aren byw, oherwydd mi oedd y cyflwr oedd gen i'n gallu dod yn ôl yn ofnadwy o sydyn mewn aren rhywun oedd wedi marw," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"'Naethon nhw sôn am y rhestr aros ac mi 'naeth hwnnw boeni fi braidd, oherwydd mi oeddwn i wedi clywed am bobl oedd yn disgwyl am fisoedd a blynyddoedd.

"Dwi'n gwybod efo aros... ti just yn byw i'r ffôn 'na ganu."

338 o bobl yn aros

Ond ar ôl sgwrsio ymhellach gyda meddygon, daeth Llio i ddeall y byddai modd derbyn aren gan aelod o'r teulu a dyma ei chwaer, Ffion, yn cynnig.

Ers derbyn aren newydd gan ei chwaer 10 mlynedd yn ôl, mae Llio bellach yn byw bywyd llawn ac yn athrawes ym Mhorthmadog.

Yn ôl ystadegau gan y Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniad y GIG, mae 338 o bobl yn aros am drawsblaniad yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae dros 200 o bobl hefyd wedi marw yng Nghymru wrth aros am drawsblaniad yn ystod y degawd diwethaf.

Kathy Rumbelow
Disgrifiad o’r llun,

Kathy Rumbelow

Yn ôl Kathy Rumbelow, sy'n nyrs arbenigol rhoi organau, mae angen gwneud mwy i annog sgwrs.

"Beth sy'n bwysig ac yn gwneud pethau'n haws i bobl ydi os ydyn nhw wedi cael y sgwrs yna," meddai.

"Gwybod be' yn union ydi'r penderfyniad yna sydd wedi ei wneud, a chofrestru'r penderfyniad yna."

Er nad oedd yn rhaid i Llio Dudley Roberts aros ar restr 10 mlynedd yn ôl, mae'n dweud bod hi'n debygol y bydd angen aren arall arni ymhen peth amser, ac felly'n disgwyl gorfod wynebu hynny y tro nesa'.

"Falla' tro nesa' fydda i'n gorfod mynd ar restr aros," meddai.

"Dwi'n meddwl a jest gobeithio fydda i ddim yn aros yn hir."

Mae'r gwasanaeth iechyd yn dweud bod Cymru ar y blaen o ran eu polisi rhoi organau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig