12 marathon mewn 12 mis i gofio am 'ffrind arbennig'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan mewn her arbennig i godi arian at elusen sy’n cefnogi teuluoedd mewn galar.
Mae Elliot Peace, 29 o Gaerfyrddin, wedi cychwyn ar ei her o redeg 12 marathon dros 12 mis er cof am ei frawd yng nghyfraith, Lewis Morgan.
Bu farw Lewis mewn gwrthdrawiad ffordd ym mis Rhagfyr 2020.
Dywed Lloyd, brawd Lewis, fod elusen 2wish wedi bod yn gefn i deulu a ffrindiau Lewis mewn cyfnodau tywyll iawn.
Mae 11 marathon yn weddill i'w cwblhau, ac mae'r teulu yn ffyddiog y gwnawn nhw godi arian ac ymwybyddiaeth am yr elusen.
Ag yntau eisoes wedi cwblhau un marathon, dywedodd Elliot ei fod "eisiau rhoi yn ôl" i'r elusen, a fu'n gefn i deulu a ffrindiau Lewis mewn cyfnod anodd.
"O'dd Lewis yn character," meddai.
"O'n i just moyn 'neud rhywbeth oedd yn ddoniol, rhywbeth crazy, 'clean off' fel o'n ni'n dweud, ac mae'r sialens hyn – o'dd e just yn berffaith i 'neud rhywbeth i fe a wedyn i'r charity hefyd."
Mae 2wish yn elusen sy'n darparu cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc hyd at 25 oed.
Sefydlwyd yr elusen yn 2012 gan Rhian Mannings yn dilyn colled bersonol, ac ers hynny mae wedi ehangu ei wasanaethau o Gymru i Loegr yn ogystal.
Mae Elliot yn rhedeg chwe marathon sydd wedi'u trefnu fel digwyddiadau swyddogol, a chwe llwybr y mae wedi'u cynllunio ei hun.
Bydd teulu a ffrindiau Lewis yn cymryd rhan mewn rhai o'r digwyddiadau, gan gynnwys Marathon Manceinion yn Ebrill 2025.
"Ma' lot o deulu a ffrindiau yn cymryd rhan – mae'r chwaer yn 'neud e, ma' tua tri neu bedwar o ffrindiau yn 'neud e hefyd, so bydd e'n weekend dda lan 'na," meddai brawd Lewis, Lloyd.
'Ymateb ffantastig'
Roedd y teulu wedi gosod targed o £2,000 i’w godi dros y flwyddyn.
Ond gyda’r cyfanswm eisoes wedi cyrraedd dros £1,600, mae'r teulu yn ffyddiog iawn y byddan nhw’n cyrraedd eu nod.
"Mae'r ymateb i'r her ac i'r elusen wedi bod yn ffantastig – pobl sy'n 'nabod Lewis, pobl sydd ddim, pobl ni ddim yn 'nabod 'fyd," meddai Elliot.
"Mae'r sense o gymuned yna'n really dod trwyddo gyda'r sialens, a ma' hwnna'n wych, a 'na beth ni moyn – just cario 'mlaen cof Lewis."
Wrth gofio am Lewis, dywedodd Lloyd ei fod yn "gymeriad enfawr".
"O'dd e'n goleuo'r ystafell lan bob tro. Os o' ti 'na 'da Lewis, o' ti'n gwbod bod e 'na.
"Achos o'dd e'n hala pawb i chwerthin a just cael amser da gyda fe.
"O'n ni 'di tyfu lan 'da'n gilydd. O'n ni just 'di prynu tŷ gyda'n gilydd.
"'Na'r peth anodd - o'n i'n hala trwy'r dydd gyda fe, a wedyn o'dd e wedi mynd i ddim byd, a byth gweld e 'to."
Dywedodd Lloyd fod yr elusen wedi "helpu ni gyd".
"O'n nhw 'di dod â phethau bach rownd fel pishyn bach o wallt a phethau bach i ni gofio Lewis," meddai.
"Ac os o'n ni gyd moyn bach o help, neu rhywun i siarad â, o'dd rhif ffôn i ffonio lan.
"O'n i just yn gallu ffonio os o'n i'n stryglan bach, cael chat bach 'da nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran elusen 2wish fod y sialens yn "gamp anhygoel, er cof am Lewis".
"Rydym yn ddiolchgar dros ben am ymdrechion Elliot, sy’n codi arian hanfodol ac yn cynyddu ymwybyddiaeth i 2wish Cymru.
"Mae'n deyrnged mor bwerus i Lewis - dylai fod mor falch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022