Caernarfon: Carcharu dyn wedi ymosodiad hiliol 'ffiaidd'

Mark Anthony JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymddygiad Jones yn "ofnadwy ac yn annerbyniol" yn ôl Heddlu'r Gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 24 oed wedi cael ei garcharu am ymosod yn hiliol ar weithiwr siop yng Nghaernarfon.

Cafodd Mark Anthony Jones, o ardal Maesincla, Caernarfon, ei gyhuddo o ymosod yn hiliol ac o grogi yn fwriadol wedi'r digwyddiad ym mis Awst y llynedd.

Fe wnaeth Jones weiddi sylwadau hiliol a bygythiol at weithiwr siop cyn ymosod arno yn gorfforol.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.

Ymddygiad 'gwarthus a ffiaidd'

Clywodd y llys fod Jones wedi mynd i siop ar stryd Y Bont Bridd yng Nghaernarfon ar 2 Awst, 2024.

Dechreuodd weiddi ar un o weithwyr y siop gan ddweud y dylai "fynd yn ôl i dy wlad dy hun" a "fe wna'i dy ladd di".

Fe aeth Jones ymlaen i ymosod yn gorfforol ar y gweithiwr ar ôl iddo gael cais i adael. Gafaelodd yn y gweithiwr a'i dagu cyn i aelod o'r cyhoedd ddod i'w gwahanu.

Fe wnaeth Jones geisio rhedeg i ffwrdd cyn i'r heddlu gyrraedd, ond cafodd ei ddal yn fuan wedi hynny.

Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarth dros-dro, Andy Davies: "Roedd ymddygiad Jones tuag at weithiwr oedd ond yn ceisio gwneud ei waith, yn ofnadwy ac yn annerbyniol.

"Roedd y digwyddiad yn ddychrynllyd i'r dioddefwr ac mae'n beth da fod pobl eraill o gwmpas i'w helpu.

"Fe fyddwn yn ymateb yn gadarn i achosion o droseddau casineb, ac rydw i wir yn gobeithio y bydd Jones yn meddwl yn galed am ei ymddygiad ffiaidd."

Mae Jones hefyd wedi cael gorchymyn atal fydd mewn grym am 10 mlynedd er mwyn amddiffyn y dioddefwr.

Pynciau cysylltiedig