Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic trydan a char

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Llethri am tua 20:50 nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic trydan a char yn Llanelli.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Llethri am tua 20:50 nos Sadwrn.
Bu farw gyrrwr y beic trydan o'i anafiadau, ac mae ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol.
Mae Heddlu Dyfed-powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Mae swyddogion eisiau siarad gyda dau berson arall oedd, yn ôl adroddiadau, yn gyrru beiciau trydan yn yr ardal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Y gred yw bod y ddau yn gwisgo gorchudd wyneb a bod un yn gwisgo siaced felen.