Apêl yn erbyn cau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng wedi methu

Llun o un o hofrenyddion Ambwilans Awyr Cymru ar y tirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cyhoeddiad y llynedd y byddai dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn cau

  • Cyhoeddwyd

Mae apêl yn yr Uchel Lys yn erbyn penderfyniad i gau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng wedi methu.

Ym mis Ebrill 2024 fe ddaeth y cyhoeddiad y byddai dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y Trallwng a Chaernarfon yn cau.

Fe ddywedodd rheolwyr y byddai canolfan newydd yn cael ei hagor yn eu lle yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth ymgyrchwyr yn erbyn y penderfyniad i gau canolfan y Trallwng ennill yr hawl i gyflwyno eu hachos o flaen yr Uchel Lys.

Ond ddydd Iau fe ddyfarnodd Mr Ustus Turner fod yr apêl wedi methu.

Wrth roi ei ddyfarniad, fe ddywedodd Mr Turner: "Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'n llwyr dyfnder y teimladau a'r siom y bydd y penderfyniad yma yn ei achosi i lawer o bobl yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

"Ond, nid gwaith y llys hwn yw cymryd drosodd y gwaith o wneud penderfyniadau y rheiny sydd wedi derbyn y cyfrifoldeb gan y Senedd."

Llun o Elwyn Vaughan mewn ystafell fyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Elwyn Vaughan yn dweud bod ymgyrchwyr yn bwriadu edrych ar yr ymateb yn llawn cyn dewis eu camau nesaf

Mae cynghorydd sir yn Nyffryn Dyfi, Powys, Elwyn Vaughan, yn dweud ei fod wedi cael siom a bod "pryder wirioneddol wedi bod yn y cymunedau hyn ers cryn dro ynghylch y bwriad yma".

"'Da ni gyd yn unfryd farn fe fydd hwn yn cael effaith niweidiol ar rai ardaloedd mwy gwledig.

"Esiampl arall o wasanaethau yn mynd ymhellach o'r ardaloedd hyn", meddai.

Mae elusen yr Ambiwlans Awyr wedi "croesawu'r canlyniad clir a diamwys".

Dywedodd y Prif Weithredwr Dr Sue Barnes: "Mae'r gwelliant hwn i'r gwasanaeth yn bwysig gan fod bywydau mewn perygl ar hyn o bryd.

"Mae'n hanfodol mynd i'r afael â materion gan gynnwys anghenion sydd ddim yn cael eu diwallu, anghydraddoldeb a than-ddefnydd o'r gwasanaeth."

Mae ymgyrchwyr wedi mynegi eu siom ond yn addo parhau i frwydro i gadw'r canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon ar agor.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig