Rhybudd am barcio ar draeth yng Ngwynedd ar ôl difrod i gerbydau

Llun o camperfan gwyn wedi'i ddal yn y tywod. Mae'r cerbyd wedi'i ddifrodi ac mae'r drysau ar goll.Ffynhonnell y llun, Kevin Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl preswylydd lleol, y camperfan yma yw'r chweched cerbyd i fynd yn sownd yn Nhraeth y Greigddu eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn cael eu hannog i fod yn ofalus wrth barcio ar draeth ger Porthmadog ar ôl i dri cherbyd gael eu dal gan y llanw ychydig ddyddiau ar wahân.

Fe gafodd camperfan ei lusgo allan yn Nhraeth y Greigddu ddydd Gwener, 13 Mehefin, tra bod un arall wedi'i achub mewn pryd ddydd Sul, 8 Mehefin.

VW Beetle oedd y trydydd i gael ei lusgo allan gan y llanw yno ar ddydd Sadwrn, 14 Mehefin.

Er bod parcio yn cael ei ganiatáu ar y traeth, mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl i wirio amseroedd y llanw ac osgoi parcio islaw llinell y llanw uchel.

Llun o camperfan yng nghanol y môr gyda thonnau o'i gwmpas.Ffynhonnell y llun, Kevin Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd camperfan ei lusgo i'r môr ddydd Gwener diwethaf

Mae gyrwyr yn talu £8 i barcio eu ceir yn Nhraeth y Greigddu ac £16 am garafanau, ond mae rhai yn dal i fentro i fannau â thywod meddal er gwaethaf rhybuddion clir yn erbyn gwneud hynny.

Dywedodd Kevin Gibson, sy'n byw ym Morfa Bychan ac yn cerdded y traeth bob dydd, ei fod wedi gweld tua chwe cherbyd yn sownd yn y tywod hyd yma eleni.

Mae'n credu bod llawer o dwristiaid yn tanamcangyfrif pa mor gyflym mae'r llanw'n symud ac yn anwybyddu arwyddion rhybuddio'r cyngor.

Er bod cwmnïau adfer fel arfer yn nôl y cerbydau sy'n sownd y diwrnod canlynol, mae pobl leol weithiau'n ceisio helpu, meddai.

Llun o VW Beetle yn sownd ar y traethFfynhonnell y llun, Kevin Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth VW Beetle yn sownd ar y traeth oherwydd y llanw

Wrth gyfeirio at berchnogion y cerbydau dywedodd: "Dwi'n cydymdeimlo â nhw - maen nhw'n aml yn gerbydau drud, a dydw i ddim yn siŵr beth yw'r sefyllfa gydag yswiriant yn yr achosion hyn."

Mae Dillon Green, o Lerpwl, wedi cael carafán ger y traeth ers pum mlynedd.

Dywedodd: "Dwi 'di gweld cynnydd yn bendant yn nifer y ceir sy'n mynd yn sownd.

"Mae rhywun bron bob penwythnos."

Y rhan fwyaf o'r amser, mae Mr Green yn gallu tynnu'r cerbydau allan gyda winsh ei lori, meddai, ond os yw'r llanw'n cael gafael ar y cerbyd, mae "fel arfer wedi'i ddifetha".

Arwyddion ar y traeth yn dweud 'Dim cerbydau tu hwnt i'r pwynt hwn' a 'Llif llanw cyflym, peidiwch a chael eich dal ar y banciau tywod pan fydd y llanw yn dod i mewn'. Ffynhonnell y llun, Kevin Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn dal i fentro i fannau â thywod meddal er gwaethaf rhybuddion clir yn erbyn hynny

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, sy'n rheoli'r traeth, eu bod yn croesawu pawb i'r traethau, ond yn annog "pawb fwynhau eu hunain yn ddiogel".

Maen nhw'n galw ar ymwelwyr i wirio rhagolygon y tywydd, amseroedd y llanw, ac i "barchu'r môr a'r arfordir".

Ychwanegon nhw y dylai modurwyr osgoi parcio islaw llinell y llanw uchel a bod yn wyliadwrus o'r amodau a'u gallu i newid.

Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod lleol: "Yn ystod oriau pan fydd staff ar gael, bydd swyddogion y cyngor yn ceisio adfer unrhyw gerbydau sy'n mynd i drafferthion o'r fath.

"Fodd bynnag, mewn rhai achosion efallai y bydd angen ceisio cymorth gan gontractwr trydydd parti, ac mi fyddai'r gyrrwr neu berchennog y cerbyd yn gyfrifol am y costau cysylltiedig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig