Triniaeth ysbyty i blant â'r fogfa yn treblu ym mis Medi

Huw yn cael triniaeth feddygol at y fogfaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Huw gael triniaeth ysbyty yn 2022 wedi iddo gael haint ar y frest

  • Cyhoeddwyd

Mae yna awgrym bod teirgwaith nifer y plant sydd ag asthma, neu'r fogfa, yn gorfod cael triniaeth ysbyty ym mis Medi wrth i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol ar ddiwedd gwyliau'r haf.

Mae ystadegau diweddaraf y gwasanaeth iechyd hefyd yn awgrymu bod y galw i drin asthma mewn plant yn cynyddu i lefelau cyn y pandemig.

Wrth i'r angen am driniaeth ysbyty i ddioddefwyr ifanc godi o flwyddyn i flwyddyn, mae'r elusen Asthma + Lung UK Cymru yn annog rhieni ac athrawon i gymryd camau i amddiffyn plant.

Mae cael cynlluniau mewn ysgolion er mwyn rhoi cymorth i ddisgyblion sy'n cael trafferthion anadlu yn rhoi "tawelwch meddwl" i bawb, medd rhiant bachgen â'r cyflwr.

Yn ôl data Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mae yna gynnydd o 175% yn nifer yr achosion ble mae claf rhwng pump a 19 oed yn gorfod cael triniaeth ysbyty oherwydd sgil effeithiau asthma ym mis Medi o'i gymharu ag yn Awst.

Dywed Asthma + Lung UK Cymru fod yna "storm berffaith" o ffactorau wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd.

Awgryma'r elusen bod gwyliau'r haf yn achosi i blant golli'r arfer o gymryd eu meddyginiaethau'n rheolaidd sy'n golygu nad yw'r cyflwr dan reolaeth lwyr wrth ddychwelyd i'r dosbarth.

Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â sawl peth sy'n gallu achosi pyliau difrifol o asthma, fel firysau annwyd a ffliw, gwiddon llwch (dust mites), paill ac emosiynau cryf fel ofn neu gyffro.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Branwen Niclas a'i mab Huw yn byw gyda'r cyflwr

Mae yna amcangyfrif bod gan 59,000 o blant yng Nghymru asthma - ac un o'r rheini yw Huw, sy'n wyth oed ac yn byw yn Ynys Môn.

Fe gafodd ddiagnosis y llynedd ond bu'n rhaid iddo gael triniaeth ysbyty am y tro cyntaf yn 2022 wedi iddo gael haint ar y frest a thrafferthion anadlu.

Mae wedi colli sawl diwrnod o'r ysgol oherwydd y cyflwr gan ei fod mor wan am gyfnod wedi pwl drwg.

Mae'r awgrym bod mwy o alw am driniaeth ysbyty i blant wedi i'r ysgolion ailagor ym mis Medi yn "gwneud synnwyr", medd ei fam, Branwen Niclas, er "do'n i 'chwaith ddim yn sylweddoli bod y ffigyrau yn treblu".

"Mae'r plant wedi bod allan o routine dros yr haf... allan yn yr haul yn chwarae ac ati," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.

"Maen nhw'n mynd yn ôl i'r ysgol, yn ôl i fywyd mwy cymdeithasol ac i'r stafell ddosbarth lle maen nhw'n rhannu'n un viruses a germau.

"Hefyd mae'r tywydd yn oeri - ma' petha' fel tywydd oer a thamp, er enghraifft, yn trigger i rywun fel Huw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwybod bod gan yr ysgol gynllun asthma yn rhoi "tawelwch meddwl i Huw" pan nad yw'n teimlo 100%, medd ei fam, Branwen

Dywedodd Branwen fod Huw "yn gallu mynd i lawr yn gyflym" pan mae'n cael ei daro gan bwl o'r fogfa.

"Yn y gorffennol, mae o wedi gorfod mynd i'r ysbyty i ga'l ocsigen a bod ar nebuliser a mae hynny'n gallu bod yn frawychus iawn i unrhyw riant," meddai.

Erbyn hyn, ag yntau'n "gw'bod be' ydi canlyniad asthma", mae Huw wedi dysgu sut mae rheoli'r cyflwr, gyda chymorth un pwmp sydd rhaid ei ddefnyddio'n ddyddiol a phwmp arall i'w ddefnyddio "pan fo'r angen".

Mae hi, a'r elusen, yn pwysleisio pwysigrwydd trefnu adolygiad blynyddol i'r plentyn gyda meddyg teulu a rhoi gwybod i ysgolion eu bod â'r cyflwr.

"Mae'r ffaith bod gan yr ysgol gynllun asthma yn help mawr," ychwanegodd Branwen, yn enwedig ar ddyddiau pan bod Huw "ddim ar ei ora' o ran iechyd".

Mae'n gysur iddo, meddai, o wybod bod modd mynd at aelod staff "a gofyn: 'dwi'm yn teimlo'n dda, dwi'n fyr o wynt - plîs alla'i ga'l pwmp'"

"Mae hynny'n dawelwch meddwl ar y ffordd i'r ysgol hefyd," dywedodd.

Adeg 'ansicr' o'r flwyddyn i ddioddefwyr

Yn ôl Dr Dylan Jones o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, mae'r fogfa yn gyflwr sy'n effeithio ar dros 5% o'r boblogaeth.

Er nad yw'r mwyafrif yn cael symptomau "trawiadol", i'r ganran sy'n dioddef yn waeth "mae o'n gallu bod yn afiechyd peryglus dros ben",

Mae ffigyrau'r gwasanaeth iechyd yn amlygu cyfnod "mor ansicr ydi'r hydref i blant a phobl hŷn sydd efo asthma", dywedodd wrth Dros Frecwast.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

I'r ganran fach sy'n diodde'n ddrwg o'r fogfa, mae'r afiechyd yn gallu bod yn un "peryglus dros ben", medd Dr Dylan Jones

Mae yntau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rhannu gwybodaeth gyda pherthnasau, ffrindiau ac ysgolion plant "i ada'l i bobl w'bod be' yn union sy'n dod â'u asthma ymlaen".

"Mae yna blanhigion dal yn cynhyrchu paill ym mis Hydref, mae llwydni rŵan yn dechra' codi a dail a phetha' sy' 'di disgyn - mae hyn i gyd yn gallu achosi asthma," meddai.

"Dan ni'n dechra' troi'r gwres on yn ein tai - mae hwnna'n gallu lluchio llwch a bob dim i'r awyr."

Mae'n annog pobl i fod yn ymwybodol o beth yw "trigger" y dioddefwyr maen nhw'n eu nabod a chadw golwg am arwyddion fel trafferthion anadlu, siarad a symud sy'n arwydd bod eu cyflwr yn gwaethygu.

Pynciau cysylltiedig