Teulu merch o Gricieth yn galw am roi mwy o sylw i fath prin o diwmor

NansiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nansi Alys ddiagnosis sy'n effeithio ar ddim ond chwech pherson ymhob miliwn

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu merch saith oed yn galw am ragor o ymwybyddiaeth o gyflwr prin, sy'n effeithio ar chwe pherson ymhob miliwn.

Pan ddaeth mam Nansi, Leila Evans, o hyd i lwmp ar fys troed ei merch oedd yn dair oed ar y pryd cafodd wybod mai dafad (wart) oedd y briw.

Ond wrth i’r lwmp barhau i dyfu, roedd Leila yn benderfynol bod rhywbeth o’i le ac ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe gafodd Nansi ddiagnosis o desmoid fibromatosis sy'n fath prin o diwmor.

Mae elusen Sarcoma UK yn galw am godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ar frys.

Disgrifiad o’r llun,

“Gath Nansi gam-ddiagnosis am bron i 18 mis," medd ei mam, Leila Evans

Mae elusen Sarcoma UK yn dweud mai tiwmor canolradd ydi desmoid fibromatosis, sy'n golygu nad yw'n ganser ond bod ganddo nodweddion tebyg i ganser.

Mae DF yn fath o sarcoma - gwahanol fathau prin o ganser sy'n datblygu yn yr esgyrn, cyhyrau a thendonau.

“Gath Nansi gam-ddiagnosis am bron i 18 mis. Oeddan ni nôl a 'mlaen o lle doctor o mis Mai 2021 hyd at Mehefin 2022. Ar ôl hynny 'nath y doctor ddeud mai benign cyst oedd o a bod o angen sylw pellach,” meddai Leila.

Ar ôl hynny, aeth y teulu i Ysbyty Gwynedd cyn mynd ymlaen i Ysbyty Alder Hey lle daeth cadarnhad mai cyst oedd y lwmp.

“Ar ôl y driniaeth i’w dynnu nathon ni aros am chwe wythnos am y canlyniadau ac yna’r canlyniadau yn dod mai desmo oedd o a bod yna ychydig yn weddill a bod angen triniaeth pellach er mwyn cael gwared ohono a gorchuddio’r croen gyda croen o adran arall o’r corff.

"Mae ganddi dal ychydig yn sownd ar y soft tissue felly ma raid i Nansi gael check-ups bob tri mis ac erbyn hyn bob 12 wythnos,” ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi’n gyfnod hir cyn i Nansi gael diagnosis

Mae math desmoid fibromatosis yn un o dros gant o fathau o gyflyrau prin sarcoma sy'n gallu effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed.

Bob dydd mae 15 o bobl yn cael diagnosis o'r cyflwr yn Y Deyrnas Unedig.

Er bod teulu Nansi eisoes wedi cael atebion, roedd hi’n gyfnod hir cyn i Nansi gael diagnosis.

“Sbio nol rŵan, fyswn i jest yn licio os fysan nhw wedi gwrando arna fi. O’n i’n gw’bod 'na ddim jest wart oedd o.”

A hwythau yn anghyfarwydd efo'r cyflwr, daeth y diagnosis fel sioc.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Do’n i heb glywed am y cyflwr"

“Cyn i Nansi gael y diagnosis do’n i heb glywed am y cyflwr. Felly roedd cael y newyddion blwyddyn yn ôl – roedd bob dim yn rhedeg trwy fy meddwl, be sy’n mynd i ddigwydd nesa, be ydi’r driniaeth?

“I fi, o’n i’n emotional, o’n i isho crio a bob dim yn mynd trwy ’mhen i.

“Mae’r cymorth ’dan ni wedi gael gan deulu a’r gymuned wedi bod yn hollol amazing, ’dan ni mor ddiolchgar iddyn nhw am bob dim,” meddai Leila.

Disgrifiad o’r llun,

"Ma’r cyflwr mor gymhleth ac mae dros gant o wahanol isdeipiau hefyd felly mae cael diagnosis yn gallu bod yn anodd," meddai Luke Davies

Yn ôl Luke Davies sy’n nyrs arbenigol sarcoma yn Ysbyty Singleton, Abertawe, mae’r cyflwr “mor gymhleth ac mae dros gant o wahanol isdeipiau hefyd felly mae cael diagnosis yn gallu bod yn anodd".

"Yn aml iawn dydi teuluoedd a ffrindiau'r person sy’n dioddef heb glywed am y cyflwr o’r blaen,” ychwanegodd.

Yn ôl elusen Sarcoma UK, er bod 'na gynnydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd, mae angen “codi rhagor o ymwybyddiaeth” ar frys.

Maen nhw’n pwysleisio bod sicrhau arian yn her a bod ymchwil i sarcoma yn cael llai o sylw ac arian o’i gymharu â chyflyrau canser mwy cyffredin.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod canser yn un o flaenoriaethau’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'u bod yn buddsoddi’n fawr mewn offer ac adnoddau.

Mae’r gwaith, medd llefarydd, yn rhan o’u hymdrechion i geisio gwella diagnosis a thriniaeth canser gan gynnwys canserau prin.

Ddydd Sadwrn bydd teulu Nansi yn cerdded i fyny'r Wyddfa i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr ac i godi arian at elusen Sarcoma UK.

Yn ôl Leila maen nhw’n gwneud hynny i Nansi ond yn fwy na dim i’r elusen.

“Ma gennym ni dudalen Just Giving gyda targed o £500 i ddechrau – nathon ni gyrraedd mewn 3 diwrnod.

"Erbyn rwan da ni wedi cyrraedd £939 a dwi’n gobeithio y byddan ni’n cyrraedd y mil a chael gymaint o ymwybyddiaeth â phosib. Os nawn ni helpu un teulu neu un plentyn fyddan ni’n hapus.”

Pynciau cysylltiedig